Mae Llywodraeth Cymru wedi “bwrw iddi’n syth” yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf wrth roi ar waith ei rhaglen uchelgeisiol o greu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy, meddai Carwyn Jones.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru mai prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru oedd sicrhau bod buddsoddi’n digwydd yn economi Cymru a bod y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt yn cael eu gwella.
Wrth siarad mewn cynhadledd newyddion i nodi 100 diwrnod cyntaf y llywodraet, dywedodd Carwyn Jones:
“Ym mis Mai, fe wnes i ymrwymiad i bobl Cymru y byddwn yn ffurfio Llywodraeth agored a hyderus sy’n barod i gydweithio ag eraill er lles y genedl. Yn yr ysbryd hwnnw, amlinellais fy mlaenoriaethau ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon. Gyda rhai o rain ry’n ni wedi bwrw iddi’n syth ag eraill rydym wedi arafu lawr i ddod mewn a lleisiau newydd ag arbenigwyr.
“Rydym wedi sicrhau nad yw'r cynnydd ar ein blaenoriaethau wedi'i atal gan y bleidlais Brexit – ond mae’n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn ystyried ein hymrwymiadau a’n cynnydd yng nghyd-destun canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn yr oriau wedi i Brydain bleidleisio i adael yr UE, fe nodais ein chwe blaenoriaeth ar gyfer Cymru. Dyna’r blaenoriaethau sy’n dal i lywio ein cynlluniau at y dyfodol - ac yn ganolog i hynny mae gwneud yn siŵr bod mynediad at y Farchnad Sengl yn parhau’n ddi-dor.
"Mae Cymru yn chwarae rhan lawn a gweithredol yn y trafodaethau, ac yr wyf yn ei gwneud yn glir i'r Prif Weinidog fod yn rhaid mynediad hwn barhau.
“Ry’n ni hefyd wedi cymryd nifer o gamau penodol i ddiogelu economi Cymru – bydd ein cynllun i godi hyder byd busnes yn rhoi cymorth i allforwyr o Gymru. Ry’n ni hefyd wedi creu cronfa newydd i helpu i hybu cyflogaeth a denu mewnfuddsoddi.
“Er bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE, wnaethon ni ddim pleidleisio i gael ein gwthio o’r neilltu – a rhaid inni beidio â cholli ceiniog o’r arian ry’n ni’n ei dderbyn ar hyn o bryd.”
Yn ystod y 100 diwrnod cyntaf, mae Llywodraeth Cymru:
- Wedi cymryd camau i ddiogelu economi Cymru yn dilyn pleidlais y DU i adael yr UE. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi cynllun i godi hyder byd busnes a mynnu sicrwydd tymor hir a gwarant llawn y bydd y cyllid ar gyfer ein rhaglenni Ewropeaidd presennol yn para tan 2023;
- Wedi parhau i frwydro er lles pennaf Cymru trwy drefnu cyfarfod brys o’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Chyngor Adnewyddu’r Economi, a sefydlu tîm penodedig o weision sifil i gynrychioli Cymru yn y trafodaethau sydd i’w cynnal â’r UE. Trwy hyn rydym wedi gwneud yn siŵr bod buddiannau Cymru wedi cael lle blaenllaw yn nyddiau cynnar y trafodaethau am Brexit.
- Wedi ymrwymo £80m i sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd ac i sicrhau y bydd ceisiadau cyllido cleifion yn cael eu hadolygu’n annibynnol – mae hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran sicrhau bod triniaeth ar gyfer clefydau sy’n cyfyngu ar fywydau pobl neu’n peryglu eu bywydau ar gael yn ddi-oed ac mewn modd cyson ar draws Cymru. Cytunwyd i sefydlu panel adolygu annibynnol a disgwylir y bydd y gronfa ar waith erbyn mis Rhagfyr.
- Wedi datblygu achos busnes llawn, wedi’i gostio, ar gyfer creu Banc Datblygu i Gymru, i’w roi ar waith erbyn ail chwarter y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn ategu’r cynllun i godi hyder byd busnes trwy roi lefelau uwch o gyllid, cefnogaeth a chymorth i fusnesau bach a chanolig;
- Diolch i bron £100m o gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae 70% o fusnesau bach yng Nghymru bellach yn cael help ag ardrethi busnes - yn wir, nid yw mwy na hanner y busnesau yn gorfod talu ardrethi annomestig o gwbl. Bydd cynllun rhyddhad newydd ar gyfer ardrethi busnes yn cael ei gyhoeddi fis nesaf i wneud yn siŵr bod ein busnesau bach yn parhau i dderbyn y cymorth hanfodol hwn.
- Wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Gan fod y Cynulliad bellach wedi’i sefydlu ers 100 diwrnod ac mewn sefyllfa i allu craffu ar ddeddfwriaeth, cyhoeddodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r Bil Treth Trafodiadau Tir ar 12 Medi. Yn fuan wedi hynny cyhoeddir Bil Iechyd y Cyhoedd newydd, ynghyd â Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi, Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, Bil Undebau Llafur a deddfwriaeth i ddiddymu’r Hawl i Brynu.