Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn nodi cyfres o fesurau a fydd yn symud Cymru i Lefel Rhybudd 3 yn llawn erbyn 17 Mai, os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Unwaith eto, nododd y Prif Weinidog y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i sicrhau y bydd pob plentyn a myfyriwr yng Nghymru yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ddydd Llun 12 Ebrill.

Bydd yr holl wasanaethau manwerthu a chysylltiad agos nad ydynt yn hanfodol yn cael ailagor o ddydd Llun 12 Ebrill, a bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu i bobl deithio i mewn ac allan o Gymru o weddill y Deyrnas Unedig a'r Ardal Deithio Gyffredin. Mae’r newidiadau yn dal i fod yn ddibynnol ar weld parhad yn yr amodau sy’n ffafriol o ran iechyd y cyhoedd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi newidiadau pellach y mae'n bwriadu eu cadarnhau yn yr adolygiad ar 22 Ebrill, gan ddibynnu ar yr amodau o ran iechyd y cyhoedd ac ar gael cadarnhad terfynol gan y Gweinidogion. Byddai'r newidiadau hyn yn cynnwys ailagor atyniadau awyr agored a lletygarwch awyr agored, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai ddydd Llun 26 Ebrill.

Erbyn dechrau mis Mai, mae'r cynlluniau'n cynnwys caniatáu i weithgareddau awyr agored a drefnwyd ymlaen llawer ar gyfer hyd at 30 o bobl gael eu cynnal, ac i gampfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un-i-un, ond nid dosbarthiadau ymarfer corff.

Mae'r newidiadau'n parhau â’r dull fesul cam a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru o lacio cyfyngiadau’r coronafeirws, gan ystyried amrywiolyn Caint, sy’n hynod heintus, sef y ffurf o’r feirws sydd fwyaf amlwg yng Nghymru erbyn hyn.

Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i wella. Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau yn syrthio ac mae'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn lleddfu.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

Diolch i wir ymdrech tîm ym mhob cwr o Gymru, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau'n sefydlog, ac mae'r rhaglen frechu yn parhau i symud yn gyflym. O ganlyniad, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i barhau â'i dull gofalus, cam wrth gam, o lacio'r cyfyngiadau.

"Mae'r adolygiad rydym wedi'i gwblhau'r wythnos hon yn golygu y gallwn barhau â'n rhaglen o ailagor yr economi ymhellach a llacio'r cyfyngiadau sydd ar waith.

Os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol, o ddydd Llun 12 Ebrill, bydd modd bwrw ati i lacio fel a ganlyn:

  • Bydd pob plentyn yn gallu dychwelyd i’r ysgol ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;
  • Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau’r broses o ailagor siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn raddol;
  • Gall yr holl wasanaethau cysylltiad agos sy'n weddill agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol;
  • Bydd cyfyngiadau teithio ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
  • Gall ymweliadau i gael gweld lleoliadau priodas ailddechrau drwy apwyntiad;
  • Gall canfasio yn yr awyr agored ar gyfer etholiadau ddechrau.

Fel y nodir hefyd yn ein Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer bach o ddigwyddiadau peilot yn yr awyr agored ar gyfer rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio. Bydd y rhain yn adeiladu ar y digwyddiadau peilot a gynhaliwyd fis Medi diwethaf. Byddant yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad mewn stadia o bosibl. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Cyngor Mwslimiaid i ystyried sut y gallant hefyd gynnwys digwyddiadau i helpu pobl i ddathlu Eid ar ddiwedd Ramadan. Byddai pob digwyddiad yn amodol ar gael cytundeb yr awdurdod lleol ac o ran iechyd y cyhoedd.

Mae'r llacio pellach yn dod wedi i ddisgyblion cynradd a llawer o fyfyrwyr hŷn yr ysgolion uwchradd a myfyrwyr colegau ddychwelyd yn llwyddiannus i ddysgu wyneb yn wyneb, ac wedi i fanwerthu nad yw’n hanfodol gael ei ailagor yn raddol, gan gynnwys agor siopau trin gwallt a barbwyr.

Mae Gweinidogion bellach yn dweud y gallai’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf ar yr amod bod sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. Mae'r rhain yn gyson â'r dull gofalus a graddol a nodir yn y Cynllun Rheoli Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru sydd wedi’i ddiweddaru.

Ddydd Llun 26 Ebrill:         

  • Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;
  • Gall lletygarwch awyr agored ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau i fod dan gyfyngiadau.

Ddydd Llun 3 Mai:

  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl unwaith eto;
  • Gall derbyniadau priodasau ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl.

Ddydd Llun 10 Mai:

  • Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff;
  • Bydd aelwydydd estynedig unwaith eto yn caniatáu i ddwy aelwyd gwrdd a chael cyswllt dan do.

Bydd paratoadau'n cael eu gwneud i ganiatáu i'r llacio canlynol gael ei ystyried yn yr adolygiad ar 13 Mai gan Lywodraeth nesaf Cymru, os yw amodau iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol.

Ailagor/ailddechrau'r canlynol, o wythnos gyntaf y cylch newydd, h.y. Dydd Llun 17 Mai:

  • Gweithgareddau dan do i blant;
  • Canolfannau cymunedol;
  • Gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion, a fydd wedi’u cyfyngu i uchafswm o 15 o bobl. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymarfer corff.

Ar ôl 17 Mai, ystyried galluogi lletygarwch dan do, a'r llety ymwelwyr sy'n weddill i ailagor, cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai.

Mae'r rhain yn ddyddiadau dangosol er mwyn rhoi amser i'r sectorau gynllunio a pharatoi – bydd penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud ar y rhain yn nes at yr amser, unwaith y bydd effaith llacio cyfyngiadau eraill wedi'i hasesu ac ar yr amod bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu i’r llacio ddigwydd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

Mae'r aberth rydyn ni i gyd wedi'i wneud yn cael effaith gadarnhaol yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod anodd i bob un ohonom ac eto hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion.

Mae'r ymdrechion hyn wedi ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau'n raddol er mwyn cyflwyno mwy o agweddau ar fywyd normal yn raddol.

Gyda'r tywydd yn gwella a mwy o gyfleoedd i weld teulu a ffrindiau, mae rhesymau dros deimlo’n optimistaidd. Fodd bynnag, ni allwn bwyso ar ein rhwyfau eto. Mae angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus o hyd, a pharhau i wneud ein rhan i gadw'r clefyd angheuol hwn dan reolaeth.