O heddiw mae gwasanaeth sy'n ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau ar y ffordd, yn helpu i leddfu tagfeydd traffig ac sy'n sicrhau cyn lleied â phosibl o oedi i'r cyhoedd yn cael ei estyn i gynnwys yr A483
Ar hyn o bryd mae Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru ar batrôl ar goridor yr A55/A494/A550 o Bont Britannia ar yr A55 i'r ffin â Lloegr yn Sealand a Brychdyn.
Mae'r gwasanaeth bellach yn cael ei estyn a bydd swyddogion ar batrôl ar yr A483 rhwng Cyffordd 1 a Chyffordd 7 o 7am hyd 7pm pob dydd o'r flwyddyn.
Ar hyn o bryd mae Swyddogion Traffig Gogledd Cymru'n delio ag oddeutu 1,000 o ddigwyddiadau bob mis sy'n cynnwys rhai'n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, cerbydau sy'n torri i lawr, clirio gweddillion a rheoli traffig. Mae dros 92% o'r digwyddiadau y mae Swyddogion Traffig wedi ymdrin â nhw wedi arwain at sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar amseroedd teithiau. Cafodd 2,067 o gerbydau eu symud yn ystod 2017.
Mae Swyddogion Traffig hefyd yn helpu i sicrhau amgylchedd gwaith diogel ar y ffyrdd fel y gall y gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans gyflawni eu dyletswyddau mewn modd effeithiol.
Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:
"Mae'n Gwasanaeth Swyddogion Traffig yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal cydnerthedd y rhwydwaith. Mae swyddogion ar batrôl bob dydd o'r flwyddyn, ac ymhob tywydd, gan gyflawni gwahanol ddyletswyddau er mwyn sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel a bod cyn lleied â phosibl o oedi.
"Gofynnais y llynedd a fyddai modd i ni estyn y gwasanaeth i gynnwys yr A483 ac rwy'n falch iawn bod hyn bellach yn digwydd ar ran bwysig iawn o ffordd sy'n cysylltu Gogledd a Chanolbarth Cymru a hefyd ranbarthau ar draws y ffin.
"Mae'n enghraifft wych o'r modd y mae Llywodraeth Cymru'n anelu at wella profiadau teithio a sicrhau bod digwyddiadau a cherbydau sy'n torri lawr yn cael cyn lleied â phosibl o effaith ar lif y traffig."