Yr hyn mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau’n llefydd mwy diogel i fyw ynddyn nhw.
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Ar 10 Medi, aeth y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth i’r groesfan i gerddwyr sy’n croesi’r rheilffordd yn ‘Happy Valley’ y Rhws, Bro Morgannwg, mewn ymateb i bryderon y trigolion nad yw plant yn defnyddio’r groesfan hon mewn modd priodol.
Fe wnaethom drefnu i gyfarfod â chynrychiolwyr o’r gymuned leol, Network Rail, a swyddogion o Heddlu De Cymru wrth y groesfan. Canlyniad y cyfarfod oedd cytuno y byddai Network Rail a Chyngor Bro Morgannwg yn edrych ar y posibilrwydd o gau’r groesfan, rhywbeth a fyddai’n golygu gwneud cais i gau’r hawl tramwy. Mae’r ddwy asiantaeth bellach yn cydweithio i gau’r groesfan hon.
Tra’r oeddem yno, aeth y tîm ati i ddosbarthu taflenni i dynnu sylw at y peryglon o oedi a chwarae ar groesfannau o’r fath, a rhoddwyd rhif ar gyfer tecstio’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Soniodd llawer o’r trigolion am eu pryderon ynghylch y rheilffordd wrth y swyddogion. Hefyd, rhoddwyd gwybodaeth inni am y posibilrwydd bod cyffuriau’n cael eu gwerthu o dŷ cyfagos, ac rydym wedi rhoi’r wybodaeth honno i Heddlu De Cymru. Rydym wedi cysylltu ag ysgolion lleol i drafod y ffordd orau o siarad â disgyblion ynghylch diogelwch ger y rheilffyrdd, ac rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â nhw yn fuan, gan gadw at y rheolau ynglŷn â COVID.
Heddlu Dyfed-Powys
Diolch i’r wybodaeth a gasglwyd gan Swyddogion Cymorth Cymunedol, gwaharddwyd ymwelwyr rhag mynd i gartref yn Rhydaman, lle byddai’r cymdogion yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych.
Gwnaed gorchymyn yn atal unrhyw un ar wahân i’r sawl a oedd yn byw yno rhag mynd i mewn i’r eiddo. Gwnaeth Heddlu Dyfed-Powys gais am y gorchymyn ar ôl misoedd o waith yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn yn y cyfeiriad hwn.
Dywedodd PC Steve Morris:
Roedd y cais llwyddiannus hwn yn ganlyniad ymdrech benodol gan y tîm yn sgil nifer o ddigwyddiadau yn yr eiddo. Cawsom ein galw i’r cyfeiriad lawer o weithiau yn ystod y misoedd diwethaf, ac roedd y cymdogion wedi dod i ben eu tennyn. Ar ôl ailstrwythuro plismona yn y gymdogaeth, fe wnaethom ddefnyddio dull gweithredu a oedd yn canolbwyntio ar y broblem benodol er mwyn deall yn glir sut i’w datrys, gan weithio’n agos gyda Pobl Cartrefi a Chymunedau i ymateb i bryderon yn gymuned.
Yr hysbysiad gwahardd hwn oedd y cam olaf mewn cyfres o gamau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych yn y cyfeiriad hwn. Gwnaed nifer o ymdrechion cyn hynny i ddatrys y broblem drwy weithio gyda’r tenant, ond heb unrhyw ganlyniadau cadarnhaol. Cafodd y cais gefnogaeth unfrydol yn Llys Ynadon Llanelli, a buom yn llwyddiannus yn ein cais i weithredu gorchymyn cau.
Tan ganol nos ar 2 Hydref 2020, gwaharddwyd unrhyw un heblaw am yr unigolyn a enwyd yn y gorchymyn, neu gynrychiolydd o Pobl Gartrefi a Chymunedau, a adnabuwyd gynt fel Gwalia, rhag mynd i mewn i’r eiddo neu’r ardd gymunedol.
Roedd y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth yn hyderus y byddai’r gorchymyn yn lleihau’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn digwydd yno, gan wella ansawdd bywyd y preswylwyr eraill a lleihau’r galwadau i’r heddlu am eu cymorth.
Gellir defnyddio gorchymyn cau o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, i alluogi’r heddlu i gau eiddo er mwyn rhoi taw yn gyflym ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn digwydd yno. Gellir cau eiddo am 48 o oriau heb fod angen mynd i’r llys i gael caniatâd i wneud hynny. Drwy wneud cais yn y llysoedd, gellir cael gorchmynion cau sy’n weithredol am hyd at dri mis, gan eu hymestyn i chwe mis os bydd angen.
Heddlu Gwent
Ymgysylltu â phobl ifanc yn y parc
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yn cymryd camau i ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf ynghylch pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i’r heddlu.
Drwy gynnal patrolau rhagweithiol yn y parciau lleol a chreu cwis, aethpwyd ati i addysgu pobl ifanc am ddulliau o roi gwybodaeth i Heddlu Gwent. Roedd hyn yn cynnwys dulliau traddodiadol o hysbysu’r Heddlu, yn ogystal â datblygiadau newydd o ran y dulliau hysbysu digidol sydd ar gael.
Cymerodd 18 o blant o wahanol oed yn y cwis, ac fel arwydd o ddiolch iddynt am gymryd rhan, cawsant roddion a oedd wedi eu darparu gan siop leol.
Roedd hwn yn gyfle gwych i’n swyddogion gael cysylltiad wyneb-yn-wyneb â phobl ifanc o’r ardal leol, rhywbeth sydd wedi bod yn anodd ei drefnu yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd pandemig y coronafeirws.
Yn y dyfodol, y gobaith yw defnyddio’r dull gweithredu hwn mewn ardaloedd eraill, gan gynnwys Energlyn a Pharc Lansbury.
Heddlu Gogledd Cymru
Ynys Môn
Gydag 8000 o ddilynwyr a’r defnydd mwyaf o’r cyfryngau cymdeithasol ymysg yr heddlu, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr ynys yn manteisio’n llawn ar eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol lleol i gyfathrebu. Mae’r tîm yn datblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg, megis ‘galw heibio’ dros y we i gadw mewn cysylltiad â’r bobl fwyaf agored i niwed. Oherwydd y cyfyngiadau COVID digynsail, mae’r gallu i gysylltu fel hyn â phobl yn y gymuned yn hynod werthfawr.
Heddlu De Cymru
O ganlyniad i gynnydd yn nifer y beiciau sy’n cael eu dwyn yng nghanol dinas Caerdydd, gwirfoddolodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu i gydgysylltu ymdrechion i ddiogelu eiddo ac i ddychwelyd eiddo a oedd wedi ei ddwyn i’r perchnogion, gan ddod â chyfiawnder i’r rheini sy’n troseddu a darparu cyngor ar atal troseddau i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Datblygodd y Swyddog Cymorth Cymunedol system ar gyfer ymchwilio i droseddau yr oedd yr heddlu wedi cael gwybod amdanynt, gan nodi cyfleoedd teledu cylch cyfyng a allai fod o ddefnydd i swyddogion, a defnyddio ei wybodaeth am ganol y ddinas i adnabod troseddwyr o weld y ffilmiau. Ar nifer o achlysuron, mae ei ymdrechion wedi arwain at arestio rhywun, euogfarnau, a hefyd beiciau’n cael eu dychwelyd i’w perchnogion. Yn ogystal â gweithio gyda swyddogion i sicrhau bod troseddwyr yn wynebu cyfiawnder, mae’r Swyddog Cymorth Cymunedol hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad ar atal troseddau i feicwyr yng nghanol y ddinas.