Neidio i'r prif gynnwy

Prif ddiben y swydd

Hwyluso'r defnydd o seilwaith digidol (cysylltedd ffeibr a symudol) ledled Sir Gaerfyrddin drwy raglen o gymorth cymunedol, cyflenwyr a rhanddeiliaid, ymgysylltu a chyfathrebu wedi'i dargedu.

Y prif ddyletswyddau

  1. Cefnogi a galluogi cymunedau a busnesau ar draws yr ardaloedd sydd â'r gwasanaeth gwaethaf yn Sir Gaerfyrddin, i gael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy (sefydlog neu symudol) drwy ymyriadau a chynlluniau talebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy'n mynd i'r afael â chysylltedd gwael. 
  2. Ymgysylltu â busnesau a chymunedau i gael dealltwriaeth drylwyr o'r materion cysylltedd digidol sy'n wynebu ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin sydd â gwasanaeth gwael, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac unrhyw rwystrau i fanteisio ar ffeibr llawn neu atebion amgen lle maent ar gael.
  3. Grymuso a galluogi cymunedau, busnesau, cyflenwyr a rhanddeiliaid eraill i gyflawni prosiectau ac atebion sy'n mynd i'r afael â chysylltedd gwael. Gweithio gyda'r holl randdeiliaid a'u cefnogi i ddatblygu ac esblygu prosiectau a chysylltu â phartïon perthnasol yn ôl yr angen i hwyluso'r gwaith o weithredu prosiectau.
  4. Gweithredu fel y pwynt cyswllt unigol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin ym mhob mater sy'n ymwneud â buddsoddiad yn y sector masnachol a chyhoeddus a arweinir gan y gymuned mewn seilwaith digidol. 
  5. Gweithio'n agos gyda Rheolwr Cydberthnasau Cysylltedd Digidol i sicrhau bod y broses o ddefnyddio seilwaith digidol yn cael ei gwella'n barhaus i ddenu cymaint o fuddsoddiad gan y sector preifat i'r rhanbarth â phosibl a bod prosiectau'n cael eu cwblhau yn unol â'r amserlen.
  6. Cael gafael ar gyllid rhanbarthol a'i ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o ymgysylltu a chyfathrebu â chymunedau a chyflenwyr sy'n cyflawni canlyniadau rhaglenni. Cysylltu â thîm rhanbarthol y Rhaglen Seilwaith Digidol i gytuno ar wariant a derbyn arian yn ôl y gofyn.
  7. Gweithio gyda thimau cyfathrebu lleol a rhanbarthol i gyflwyno cynllun cyfathrebu aml-sianel wedi'i dargedu. Cynllunio, rheoli a chyflwyno ymgyrchoedd ymgysylltu ar y cyd gan ddefnyddio sianeli traddodiadol a digidol i gynyddu gwelededd a dealltwriaeth o'r negeseuon allweddol a amlinellir yn y cynllun cyfathrebu gyda chynulleidfaoedd targed.
  8. Sicrhau bod yr holl weithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu yn cyd-fynd â brandio Cyngor Sir Caerfyrddin a brandio cenedlaethol a negeseuon allweddol ar lefel y rhaglen.
  9. Trefnu, mynychu a siarad mewn digwyddiadau i hyrwyddo rhaglenni cysylltedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a chyfleoedd ariannu i'r cyhoedd, aelodau etholedig a chyflenwyr.
  10. Mesur a chefnogi gwerthusiad o effeithiolrwydd y cynllun cymorth, ymgysylltu a chyfathrebu gan ddefnyddio ystod o offer dadansoddol ac adborth gan ddefnyddwyr. Adrodd ar ddata a gwybodaeth ansoddol a meintiol gan Gyngor Sir Caerfyrddin i Dîm y Rhaglen Seilwaith Digidol Rhanbarthol yn ôl y gofyn i hwyluso ffrydiau gwaith lleol a rhanbarthol a buddsoddiad pellach mewn Seilwaith Digidol. 

Meini prawf hanfodol

Cymwysterau, hyfforddiant galwedigaethol, aelodaethau proffesiynol

  • Cymhwyster proffesiynol neu gyfwerth.

Sgiliau sy'n ymwneud â'r swydd a galluoedd

  • Mae gennych sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'r gallu i ddatblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol a meithrin hygrededd yn gyflym; profiad o weithio'n llwyddiannus gydag ystod o bobl ar bob lefel. Dealltwriaeth dda o sut i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd a diwallu anghenion gwahanol.
  • Gallwch gyflwyno prosiectau yn unol â'r amserlen ac o fewn y gyllideb gan ddefnyddio dulliau ac offer rheoli prosiect priodol. 
  • Mae gennych brofiad pendant o adfywio, datblygu economaidd, cyfathrebu, neu feysydd cysylltiedig.
  • Gallwch feddwl yn strategol a nodi ffyrdd o wella cymorth, cyfathrebu ac ymdrechion ymgysylltu.
  • Mae gennych ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion cymorth a chyfathrebu effeithiol; profiad o ddarparu gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion ystod amrywiol o gynulleidfaoedd.
  • Mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda'r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir ac yn effeithiol mewn arddulliau priodol ar bob lefel. Y gallu i ysgrifennu a golygu copi o ansawdd uchel.

Gwybodaeth

  • Mae gennych ymwybyddiaeth o brosiectau a chynlluniau seilwaith digidol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (cysylltedd ffeibr a symudol).
  • Mae gennych wybodaeth gadarn am y diwydiant telathrebu a thechnolegau cysylltiedig a'r manteision a ddaw yn sgil hyn i fusnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau
  • Rydych yn deall cyfansoddiad daearyddol, cymdeithasol ac economaidd y Sir a heriau a chyfleoedd cysylltedd posibl i gymunedau

Profiad

  • Mae gennych brofiad llwyddiannus o gynllunio, rheoli a chyflwyno prosiectau partneriaeth gydag amrywiaeth o randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Mae gennych brofiad o drefnu a siarad mewn digwyddiadau.
  • Rydych yn defnyddio offer a dulliau amrywiol i wneud gwaith ymchwil a gwerthuso.
  • Profiad o ysgrifennu ceisiadau
  • Mae gennych brofiad pendant o gyflwyno ymgyrchoedd gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, marchnata drwy e-bost ac ysgrifennu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd a sianelau amrywiol.

Rhinweddau personol

  • Mae gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag aelodau o'r gymuned a'r sectorau busnes. 
  • Mae gennych agwedd frwdfrydig a chadarnhaol 
  • Gallwch weithio o dan eich menter eich hun ac ar draws timau amrywiol.
  • Mae gennych sgiliau trefnu rhagorol a gallwch reoli blaenoriaethau sy'n newid.
  • Rydych yn cydweithio ac yn deall manteision cydweithio, gan rannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd.

Meini prawf dymunol

  • Profiad o ddefnyddio system rheoli cynnwys.
  • Profiad pendant mewn gwaith prosiect masnachol a sgiliau ysgrifennu ceisiadau. 
  • Profiad o weithio gyda'r diwydiant telathrebu a thechnolegau cysylltiedig
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol