Neidio i'r prif gynnwy

Oriau gwaith

Mae swyddi ar gael yn rhan-amser, fel rhan o drefniant rhannu swydd neu’n llawn amser. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n gweithio’n rhan-amser.

Absenoldeb

Bydd gennych hawl i wyliau blynyddol ac amser i ffwrdd yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer absenoldeb blynyddol, gwyliau cyhoeddus a braint ac absenoldeb am resymau teuluol. Mae gan gyflogeion llawn amser hawl i 31 diwrnod o absenoldeb blynyddol, a 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint. Bydd trefniadau pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser.

Byddwch yn gymwys am dâl salwch, tâl gwyliau ac unrhyw hawliau absenoldeb yn unol ag amodau a thelerau Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig ystod o drefniadau gweithio ystyriol o deuluoedd a threfniadau gweithio hyblyg, sy’n cefnogi teuluoedd gweithio modern. Nod ein polisïau yw galluogi cyflogeion i gyfuno gwaith a bywyd teuluol fel y gallwn gadw eu sgiliau gwerthfawr yn y gweithle ac fel y gallan nhw gyflawni eu potensial.

Perfformiad a hyfforddiant

Byddwch chi a’ch rheolwr llinell y cytuno ar amcanion ar ddechrau’r penodiad cyfnod penodol. Bydd adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar adegau y cytunwyd arnynt. Bydd y rheolwr llinell yn trefnu rhaglen neu hyfforddiant sefydlu fel y bo’n briodol.

Mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn cael cymorth i ddatblygu ei sgiliau a’i alluoedd, gan gynnwys cyfleoedd dysgu a datblygu. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu a sicrhau bod ein staff yn cael o leiaf 5 diwrnod o ddysgu bob blwyddyn.

Lleoliad

Mae’r mwyafrif o swyddi yn cael eu dynodi’n rhai Cymru gyfan, oni bai y nodir yn wahanol yn yr hysbyseb. Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod lleoliad y swydd yn hyblyg, gan ddibynnu ar anghenion y busnes. Mae rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gael yn LLYW.CYMRU.

Sylwch na fydd hi efallai yn bosibl bodloni dewis rhywun o leoliad swyddfa penodol. Rydym yn cefnogi gweithio gartref a theilwra patrymau i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd y mwyafrif o ddeiliaid swyddi yn gweithio gartref neu o bell.

Gweithio’n glyfar

Mae Llywodraeth Cymru yn annog arferion gweithio’n glyfar. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar sut rydych chi’n defnyddio eich amser, a ble a sut rydych chi’n gweithio er mwyn bodloni’r anghenion busnes yn y ffordd fwyaf cynhyrchiol. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd sylweddol i staff o ran lleoliad ac oriau gwaith. Mae gweithio’n glyfar a hyblyg yn dod yn nodwedd barhaol o’n bywyd gweithio yng Nghymru a bydd Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd yn hyn o beth. (Yn y tymor byr, bydd y mwyafrif o ddeiliaid swyddi yn gweithio gartref.)

Cyflog

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi yn unol â’r swm a nodir o dan "Cyflog Cychwynnol Gwirioneddol”. Mae hyn yn berthnasol i bob ymgeisydd allanol, ni waeth a yw eisoes yn gweithio i Lywodraeth Cymru, yn Was Sifil presennol neu erioed wedi gweithio i'r Gwasanaeth Sifil. Ni fydd pwyntiau cyflog presennol ar gyfer Gweision Sifil presennol yn cael eu trosglwyddo.

Telerau secondiadau

Weithiau caiff swyddi eu hysbysebu fel cyfle am secondiad. Os felly, bydd hyn yn cael ei nodi yn yr hysbyseb. Mae secondiadau ar gael i bobl nad ydynt eisoes yn weision sifil. Bydd secondai yn parhau i gael ei gyflogi gan ei gyflogwr presennol am gyfnod cyfan y secondiad ac yn unol â’i delerau ac amodau a'i gyflogres bresennol. Nid yw secondai yn gymwys ar gyfer telerau, amodau na buddion Llywodraeth Cymru.

Gan fod secondai yn parhau o dan ei amodau a thelerau ei hun, bydd yn trosglwyddo atom ar ei gyflog presennol. Yn eithriadol, gallai Llywodraeth Cymru fod yn fodlon i’r secondai gael ei dalu ar waelod band cyflog (ar y pwynt mynediad yn unig) y radd y mae’n cael ei benodi iddi, ond byddai’n rhaid i gyflogwr y secondai gytuno â thelerau’r penodiad a’r cynnydd dros dro i gyflog ei gyflogai am gyfnod y secondiad. Pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn radd is yn ei sefydliad cartref, ond ei fod ar hyn o bryd yn ennill cyflog o fewn ein hystod gyflog, bydd yn aros ar ei gyflog presennol. Ni fydd secondai’n cael unrhyw ddyfarniadau cyflog, cynyddran na newidiadau cyflog sy’n cael eu cynnig i gyflogeion Llywodraeth Cymru.

Gellir rhannu ein polisi a’n cytundeb secondai ag ymgeiswyr sy’n ymgeisio am secondiad pan ofynnir amdanynt.

Ar fenthyg

Dim ond i Weision Sifil presennol y mae’r broses fenthyciadau ar agor, a rhaid iddynt fod wedi’u recriwtio i'r Gwasanaeth Sifil drwy gystadleuaeth deg ac agored ac ar sail teilyngdod. Bydd unigolion sy'n symud ar fenthyg yn gwneud hynny yn unol ag Egwyddorion Trosglwyddo'r Gwasanaeth Sifil (Sut i newid swydd rhwng adrannau ac asiantaethau). Oni bai bod y cytundeb am lai na 6 mis, bydd unigolion llwyddiannus yn symud i amodau a thelerau Llywodraeth Cymru.

Oni nodir yn wahanol yn yr Hysbyseb Swydd, ni ddisgwylir i’r rhai sydd ar fenthyg gael trosglwyddiad parhaol na dyrchafiad parhaol i Lywodraeth Cymru (mae hyn yn amodol ar yr angen parhaus am y rôl a chadarnhad o gyllid ar ddiwedd y cyfnod benthyg) ac oni nodir yn wahanol yn yr hysbyseb, dim ond y rhai sy'n gwneud cais i symud ar draws sy'n gymwys i wneud cais. Disgwylir i unigolion sydd ar fenthyg ddychwelyd i'w hadran gartref ar ddiwedd y cytundeb ac i'w gradd swydd barhaol.