Neidio i'r prif gynnwy

Amrywiaeth a chydraddoldeb

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a byddwn yn cadw at yr ymrwymiad hwn ym mhob cam o’r 4 broses recriwtio. Ein nod yw gwneud yr egwyddorion hyn yn rhan annatod o’n harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid hefyd.

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, dileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol (gan gynnwys priodas gyfartal a phriodas rhwng pobl o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, amhariad neu gyflwr iechyd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac rydym yn eu rhestr o’r 100 cyflogwr uchaf gan ennill gwobr Aur yn 2023. Rydym yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd (Arweinydd). Rydym wedi llofnodi Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr, Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned ac addewid Pledge to be Seen gan Changing Faces sy'n cefnogi pobl â gwahaniaeth gweladwy. Mae pum Rhwydwaith Staff sy'n cael eu noddi gan y Bwrdd yn allweddol er mwyn cefnogi'r gwaith hwn ac er mwyn rhoi cefnogaeth gan gymheiriaid, sef Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Materion y Meddwl; Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig (MESN); PRISM (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Drawsryweddol, Ryngryw +) a Menywod Ynghyd.

Recriwtio dienw

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses sifftio. Mae'r polisi hwn yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i ddileu rhagfarn a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n anablu pobl ag amhariad neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelod o staff) berfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu cyf-weld unrhyw ymgeisydd sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi basio’r profion ar-lein a darparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod, yn gyffredinol, yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y swydd a'ch bod yn meddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl anabl yn eu swydd a’u gyrfa.

Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran 5 o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog

Rydym yn cynnig y cyfle i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n bodloni’r safon ofynnol ym mhob un o feini prawf hanfodol swydd i fynd yn uniongyrchol i gam nesaf y broses ddethol. Os ydych wedi cwblhau o leiaf flwyddyn yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi (fel aelod parhaol neu aelod wrth gefn) ac yn y cyfnod pontio o’r Lluoedd Arfog, neu ddim yn aelod mwyach, gallwch wneud cais am swyddi yn y Gwasanaeth Sifil o dan y fenter Gweithle Gwych i Gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog.

Cynllun Cyfweliad Adleoli

Gall cyflogwyr y Gwasanaeth Sifil gynnig cyfweliad i nifer teg a chymesur o weision sifil y mae eu swydd mewn perygl o gael ei dileu ac sy’n bodloni gofynion sylfaenol swydd.

Er enghraifft, efallai y bydd eich swydd mewn perygl os yw eich maes gwaith wedi dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol neu orfodol yr ydych yn gymwys ar ei gyfer, neu os ydych yn ymwybodol bod eich cyflogwr wedi dechrau ymgynghori ar sut i leihau nifer y staff yn eich tîm neu’ch maes gwaith.

I gael eich ystyried am gyfweliad, rhaid ichi fod:

  • â rheswm da dros gredu bod eich swydd yn debygol o gael ei dileu yn y dyfodol agos
  • wedi dangos yn y camau ymgeisio a phrofi eich bod yn bodloni meini prawf sylfaenol y swydd a nodir ym manyleb y person
  • yn gwneud cais am swydd ar yr un radd â’ch swydd bresennol, neu ar radd is

Bydd y ffurflen gais yn gofyn a ydych am wneud cais o dan y Cynllun Cyfweliad Adleoli, neu bydd canllawiau wedi’u nodi yn yr hysbyseb swydd.

Yn y cyfweliad, cewch gyfle i ddangos eich galluoedd a chewch eich marcio ar sail teilyngdod yn unig.

Y Gymraeg

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n rheolaidd yn ein bywydau a'n gweithleoedd bob dydd. Mae gan y 6 Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Mae mesurau ar waith i sicrhau nad yw'n cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae'r Prif Weinidog wedi nodi ei weledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith yn ein strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr. Gweledigaeth y Llywodraeth hon yw gweld nifer y bobl sy'n gallu siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050. Mae hefyd am ddyblu canran y bobl sy'n defnyddio'r iaith bob dydd.

Fel sefydliad, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ddarparu gwasanaethau a gwybodaeth i'r cyhoedd yn Gymraeg, er enghraifft darparu gohebiaeth a chylchlythyrau dwyieithog ac ateb y ffôn yn ddwyieithog. Nodir y manylion yn Safonau'r Gymraeg. Mae'r safonau hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau mewnol ar gael yn Gymraeg i gyflogeion, megis:

  • mewnrwyd ddwyieithog
  • dogfennau Adnoddau Dynol
  • offer TG i'n helpu i weithio'n ddwyieithog

Rydym am gefnogi ein cyflogeion i wella eu sgiliau iaith ar bob lefel. Mae gennym lawer o gyfleoedd i'n staff ddechrau dysgu neu loywi’r sgiliau sydd ganddynt eisoes. Mae ein strategaeth ar gyfer gweithio’n ddwyieithog, Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd, yn nodi ein huchelgais i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Ein nod cychwynnol yw dod yn sefydliad sy’n dangos esiampl o ran ein defnydd o'r iaith dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru felly'n cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu ei gweithlu dwyieithog. Mae croeso ichi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a wneir yn Saesneg. Gallwch hefyd ofyn am gyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg a delio â ni drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol y broses recriwtio.