Mae Hannah Blythyn wedi ymweld â chychod gwenyn newydd sydd wedi'u gosod yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.
Mae naw cwch gwenyn newydd wedi cael eu gosod ar do'r swyddfeydd ym Mharc Cathays. Mae'r cychod gwenyn yn rhan o Pharmabees, prosiect gan Brifysgol Caerdydd sydd wedi ennill gwobrau ac sydd am gynnal cymuned o wenyn ar adeiladau yng nghanol y ddinas. Mae cychod gwenyn eraill ar doeon Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Canolfan Siopa Dewi Sant, adeiladau Prifysgol Caerdydd ac ym Mharc Bute.
Bydd pob cwch yn gartref i hyd at 50,000 o wenyn yn ystod yr haf ac yn cael ei reoli gan wenynwyr lleol. Mae gan Lywodraeth Cymru wenynfeydd hefyd yn ei swyddfeydd ym Merthyr Tudful, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth, ynghyd â phrosiectau eraill yn ymwneud â bioamrywiaeth ar ei hystad.
Mae'r fenter yn rhan o nifer o brosiectau bioamrywiaeth sy’n rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Pryfed Peillio yng Nghymru. Mae peillio yn hanfodol hefyd er mwyn cynhyrchu cnydau ac yn werth mwy na £690 miliwn i amaethyddiaeth yn y DU bob blwyddyn. Mae llawer o flodau gwyllt hefyd yn dibynnu ar bryfed peillio er mwyn atgynhyrchu.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:
“Mae gwenyn yn rhan hollbwysig o'r gadwyn fwyd, gan beillio amrywiaeth enfawr o blanhigion a'u helpu i ffynnu, Ond rydyn ni wedi gweld poblogaethau gwenyn yn crebachu yn ystod y blynyddoedd diwethaf a rhaid inni weithredu i wrthdroi'r tueddiadau hynny.
“Mae'n Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio yng Nghymru yn nodi sut byddwn ni'n darparu cynefinoedd amrywiol, cysylltiedig a llawn blodau ar gyfer pryfed peillio ac yn codi ymwybyddiaeth am eu pwysigrwydd.
“Mae gosod cychod gwenyn ar adeiladau cyhoeddus yn un ffordd o dynnu sylw at bwysigrwydd pryfed peillio, ac mae'r ffaith eu bod yn cynhyrchu mêl bendigedig yn fantais ychwanegol!”