Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan y Comisiynydd Traffig ganolfan yng Ngogledd a De Cymru bellach yn dilyn agor swyddfa Gogledd Cymru yng Nghaernafon yn swyddogol heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r swyddfa, yn adeilad presennol Cyngor Gwynedd yn Penrallt, yn cael ei rhannu gyda thîm bychan o staff dwyieithog sy’n gweithio i Asiantaeth Safonau Cerbydau a Gyrwyr (DVSA), a bydd yn darparu cyfleusterau i’r Comisiynydd gynnal cyfarfodydd ac ymchwiliadau yng Ngogledd Cymru.

Bydd y Comisiynydd bellach yn gallu gweithio o Gaernarfon a’i swyddfa arall yng Nghaerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd wedi cydweithio’n agos i sefydlu’r swyddfa yng Nghaernarfon.

Meddai’r Gweinidog dros Ogledd Cymru, Ken Skates, a agorodd y swyddfa’n swyddogol:

“Dwi’n hynod falch o weld bod gan y Comisiynydd Traffig swyddfa yng Nghaernarfon bellach yn ogystal â Chaerdydd.

“Mae hyn yn sicrhau bod y Comisiynydd Traffig o fewn cyrraedd hawdd i Gymru gyfan.

“Mae’n dda gweld y staff lleol dwyieithog sy’n gweithio yma.  Mae o fudd i’r economi leol a hefyd yn caniatáu i bobl gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd Traffig yn yr iaith o’u dewis.

“Dyma ganlyniad y cydweithio a’r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd a swyddfa’r Comisiynydd Traffig, ac mae’n dangos beth ellir ei wneud pan fydd cyrff cyhoeddus yn cydweithio.”

Meddai Victoria Davies, Comisiynydd Traffig Cymru:

“Fel Comisiynydd Traffig newydd Cymru, dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda staff Swyddfa’r Comisiynydd Traffig a phrif randdeiliaid trafnidiaeth i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd a chystadleuaeth deg ledled Cymru.

“Mae agor Swyddfa newydd ar gyfer y Comisiynydd Traffig yng Nghaernarfon yn golygu y bydd yn haws inni ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bobl Cymru.”

Meddai Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros eiddo:

“Fel Cyngor, rydym yn falch o weld bod swyddfa i’r Comisiynydd Traffig yn agor yma yn y gogledd.

“Mae hyn yn dilyn cydweithio sylweddol gyda nifer o bartneriaid.  Drwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, swyddfa’r Comisiynydd Traffig a DVSA, bydd nifer o swyddi pwysig yn ein swyddfeydd yma yng Ngwynedd.

“Yn ogystal â bod yn hwb mawr i’r economi leol, mae hefyd yn sicrhau y bydd pobl ledled y wlad yn gallu derbyn y gwasanaethau y maent eu hangen trwy gyfrwng y Gymraeg.