Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r sector Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru ar fin cael hyd at £500,000 o gyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu i reoli eu dulliau rheoli a llywodraethu, meddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol Julie James heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn caniatáu i gynghorau gael mynediad i becyn cymorth i hybu eu seilwaith llywodraethu, gan gynnwys cynyddu hyfforddiant i glercod a chynghorwyr - a fydd yn helpu i osod sylfaen gref at y dyfodol.

Bydd y buddsoddiad yn ychwanegol at y cymorth cyffredinol blynyddol a roddir i'r sector gan Lywodraeth Cymru ac fe fydd yn adlewyrchu'r meysydd y mae'r Gweinidogion wedi ymrwymo i weithredu arnynt yn sgil cyhoeddi'r Panel Adolygu Annibynnol ar Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn adroddiad 2018-19 oddi wrth Archwilydd Cyffredinol Cymru, a nododd fod gormod o gynghorau yn dal i gael barn archwilio amodol ar gyfer llawer o faterion, er bod nifer yr achosion o farn archwilio amodol i gynghorau wedi gostwng. 

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James:

Bydd y cyllid ychwanegol yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu cynghorau tref a chymuned ledled Cymru i gryfhau eu gallu rheoli a llywodraethu.

Mae cynghorau cymuned a thref yn rhan annatod o lywodraeth leol, a bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod gan yr holl gynghorau'r offer i fodloni eu gofynion statudol a bod ganddynt lywodraethiant cryf i gefnogi eu cymunedau.

Hoffwn annog pob cyngor i ystyried cryfhau eu trefniadau rheoli a llywodraethu ariannol trwy'r cyfleoedd ychwanegol a fydd ar gael yn 2020-21.