Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, y bydd diwydiant bwyd a diod Cymru yn cael hwb ariannol o £22 miliwn i helpu'r sector i ffynnu ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, y cyhoeddiad yn ffair BlasCymru/TasteWales – digwyddiad sy'n dod â phrynwyr o bedwar ban byd a chynhyrchwyr o Gymru at ei gilydd i arddangos ein cynhyrchion ardderchog ac i helpu i agor marchnadoedd newydd ac i sicrhau cytundebau masnach rhyngwladol cyn Brexit.

Bydd y swm ychwanegol o £22 miliwn yn cael ei fuddsoddi ar draws y sector, gan gynnig cymorth newydd i fusnesau fanteisio ar gyfleoedd i dyfu, i wireddu eu huchelgais ac i arloesi. Bydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i'r sector sylfaen yng Nghymru ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â Brexit.

Bydd rhagor o fanylion am y prosiectau a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd sydd i ddod. 

Mae BlasCymru/TasteWales, sy'n cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod, yn dychwelyd i Westy Hamdden y Celtic Manor heddiw, gan ddenu dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a 200 o brynwyr − mae dros draean ohonynt yn rhai rhyngwladol ac maent yn dod o wledydd fel yr Almaen, Ffrainc, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Qatar a Japan.  

Bydd yno gyfleoedd i Gyfarfod â'r Prynwyr, lle y bydd prynwyr dylanwadol o'r gwledydd hyn a phrynwyr rhyngwladol dylanwadol yn gallu cyfarfod â chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru er mwyn trafod y posibilrwydd o gydweithio a nodi cyfleoedd newydd posibl i fasnachu.

Eleni, bydd Parth Buddsoddwyr newydd, a fydd yn cynnig cyfle i'r cynrychiolwyr gyfarfod â buddsoddwyr a darparwyr cyllid posibl. Gall dod o hyd i'r cyllid iawn ar yr adeg iawn fod yn hollbwysig er mwyn helpu cynhyrchwyr bwyd a diod i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd masnachu y bydd BlasCymru/TasteWales yn eu cynnig. Ymhlith y rheini sydd wedi cadarnhau y byddant yn cynnig cyllid y mae banciau'r stryd fawr, Banc Datblygu Cymru, Angylion Buddsoddi Cymru, buddsoddwyr preifat, cyllid seiliedig ar asedau, yn ogystal â darparwyr cyllid amgen.

Mae sector bwyd a diod Cymru yn fyd-enwog ac mae wedi tyfu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Mae'r sector eisoes yn agos at gyrraedd ei darged uchelgeisiol o £7 biliwn yn gynt na'r disgwyl.

Roedd y Sector Bwyd a Ffermio yn werth £6.8 biliwn yn 2018, ac roedd 217,000 yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ar draws amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, cyfanwerthu, manwerthu ac arlwyo. 

Yn ôl y ffigurau allforio diweddaraf, sydd newydd eu cyhoeddi, mae mwy o fwyd a diod wedi cael eu hallforio o Gymru, yn enwedig i wledydd nad ydynt yn yr UE. Roedd allforion bwyd a diod o Gymru  yn werth £539 miliwn yn 2018 − cynnydd o 2% neu £10 miliwn o gymharu â'r flwyddyn gynt. Ers 2014, gwelwyd cynnydd o 32% yng ngwerth allforion bwyd a diod o Gymru.

Yn 2018, gwelwyd cynnydd o £25 miliwn yng ngwerth allforion bwyd a diod o Gymru i wledydd nad ydynt yn yr UE, ac aeth gwerth £145 miliwn o allforion i'r gwledydd hynny yn ystod y flwyddyn.

Wrth siarad cyn BlasCymru/TasteWales, dywedodd y Gweinidog: 

"Mae’n diwydiant bwyd a diod yn enwog ym mhedwar ban byd ac yn stori o lwyddiant yng Nghymru. Mae eisoes yn agos at gyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer 2020 yn gynt na'r disgwyl.  Fodd bynnag, allwn ni ddim gadael i Brexit lesteirio llwyddiant y sector, a rhaid inni achub ar bob cyfle i arddangos yr hyn sydd ganddo i'w gynnig.

“Wrth i BlasCymru / TasteWales gael ei gynnal unwaith eto, dwi'n hynod falch o fedru cyhoeddi bod swm ychwanegol o £22 miliwn ar gael i'r sector gael adeiladu ar ei lwyddiant hyd yma ac i helpu'r diwydiant i dyfu hyd yn oed yn gryfach ac i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit. 

“Mae Brexit ar garreg y drws, felly mae'n bwysicach nag erioed bod y sector yn arddangos yr hyn sydd ganddo i'w gynnig ac yn cael y cyfle i gyrraedd marchnadoedd newydd ac i lunio cytundebau masnach rhyngwladol.

“Mae BlasCymru / TasteWales, felly, yn cael ei gynnal ar adeg dyngedfennol i'r diwydiant.  Cafodd busnesau bwyd a diod o Gymru werth £16 miliwn o gontractau newydd yn ffair gyntaf BlasCymru yn 2017. Dwi'n siŵr y bydd ffair eleni yr un mor llwyddiannus ac yn cynnig cyfleoedd gwych i'r sector barhau i lwyddo ac i ffynnu ar ôl Brexit.”