Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am amserau agor ysgolion a'u gwasanaethau yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Pryd fydd ysgolion yn ailagor i fwy o ddisgyblion?

Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn nodi meddylfryd presennol Llywodraeth Cymru o ran sut y gallwn newid gweithrediadau ysgolion a darparwyr eraill dros amser mewn ymateb i COVID-19.

A fydd ysgolion ar agor dros wyliau’r haf i blant agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol?

Mae hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’n cynlluniau ar gyfer ysgolion a gofal plant yn y dyfodol, y trefniadau ar gyfer dilyniant dysgu ac iechyd a lles corfforol a meddyliol y plant. 

Mae’r Gweinidog Addysg wedi gosod pum egwyddor a fydd yn pennu sut a phryd y bydd mwy o blant yn dechrau mynd yn ôl i’r ysgol yng Nghymru. Mae’r Gweinidog hefyd wedi dweud yn glir na fydd newid i weithrediad yr ysgolion ar 1 Mehefin, ac y byddwn yn parhau i ddilyn y cyngor diweddaraf gan aros nes ei bod yn ddiogel cyn ystyried cael mwy o ddisgyblion a staff mewn ysgolion.  

Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi fframwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu gyda’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud ynghylch y cam nesaf ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Mae’n fater cymhleth sy’n newid yn gyflym, ac mae’r fframwaith yn dangos graddfa’r materion sydd angen eu datrys wrth benderfynu ar y camau nesaf, gan rannu ein syniadau diweddaraf yn seiliedig ar y 5 egwyddor allweddol.  .

Beth fydd rôl ysgolion yn ystod y pandemig coronafeirws?

Ysgolion yw calon ein cymunedau ac maent yn darparu llawer mwy nag addysg yn unig. Yn y cyfnod heriol hwn, mae ysgolion yn yn rhan bwysig o’r ymdrech i ymateb i’r heriau sylweddol sydd ynghlwm wrth COVID-19. Mae ysgolion a staff ysgol yn rhan annatod o waith i gynnal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n hanfodol i’n ffordd o fyw.

Mae ysgolion bellach ond ar agor i nifer cyfyngedig o blant -  plant agored i niwed a phlant y mae eu rhieni yn hanfodol i’r ymateb i Covid-19 ac nad oes modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref. Mae adeiladau ysgol yn aros ar agor at y diben hwn, ac mae penaethiaid a staff yn parhau i weithio, gan ystyried y cyngor diweddaraf ar gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i helpu i ddatblygu darpariaeth ddiogel, effeithiol i blant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.

Mae’r canllawiau, a ddatblygwyd ar y cyd gydag Awdurdodau Lleol, Undebau Llafur ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cefnogi darpariaeth mewn ysgolion a hybiau awdurdodau lleol. Mae’r canllawiau yn gosod yr egwyddorion allweddol, gan ystyried arferion presennol, ond yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau ddatblygu darpariaeth sy’n diwallu eu hanghenion a’u capasiti penodol.

I ba blant dylai ysgolion fod yn darparu gofal? Pwy ddylai gael mynediad i ysgolion a gofal plant yn ystod y cyfnod hwn o Covid-19?

Mae’r cyngor gwyddonol ar sut i gyfyngu ymhellach ar ledaeniad COVID-19 yn glir. 

Rhaid i bawb, cyn belled ag sy’n bosibl, leihau cysylltiadau cymdeithasol a sicrhau bod unrhyw un sy’n arbennig o agored i niwed o’r firws yn gallu cadw pellter cymdeithasol llym. Mae hyn yn golygu os oes modd i blant aros yn eu cartref yn ddiogel, dyna ddylent ei wneud, a hynny er mwyn atal y feirws rhag lledu.

Hefyd, mae angen i ni sicrhau nad yw plant yn cael eu gadael gydag unrhyw un a ddylai fod yn dilyn y canllawiau llym ynghylch cadw pellter cymdeithasol, er enghraifft unrhyw un dros 70 oed neu unrhyw un sydd â’r cyflyrau iechyd penodedig.

Mae'r ysgolion (a lleoliadau gofal plant a chwarae) ar agor i'r plant sy’n gorfod bod yn bresennol yn unig. Dylai ysgolion arbennig preswyl, ysgolion preswyl a lleoliadau arbennig barhau i ofalu am blant lle bynnag y bo modd.

Dylai ysgolion ddarparu gofal i nifer mor fach o blant ag sy’n bosibl - plant sy'n agored i niwed a phlant y mae eu rhieni yn hanfodol ar gyfer yr ymateb i Covid-19 ac nad oes modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref.

Ceir rhagor o fanylion ynghylch rhieni y mae eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19.

Ceir canllawiau pellach am y ddarpariaeth i blant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed yma.

Sut y gall ysgolion barhau i addysgu disgyblion plant a phobl ifanc os nad ydynt yn yr ysgol?

Mewn cydweithrediad gyda rhanddeiliaid allweddol, rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu cynlluniau, adnoddau a gweithgareddau i helpu plant a phobl ifanc i barhau i ddysgu tra bod eu hysgolion ar gau. Mae hyn yn cynnwys Cynllun Dilyniant Dysgu a fydd yn helpu ysgolion ac athrawon i lywio’r dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oedran. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cadw’n Ddiogel. Dal Ati i Ddysgu: Datganiad Polisi Parhad Dysgu sy’n gosod ein blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod hwn. Mae’r datganiad i’w weld yn https://llyw.cymru/cadwn-ddiogel-dal-ati-i-ddysgu   

 

Bydd y cynllun yn amlinellu’r ffordd rydym yn cydweithio’n agos gyda’r consortia rhanbarthol a’r awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion tra’u bod ar gau a helpu plant a phobl ifanc i barhau i ddysgu. Mae Hwb, ein platfform dysgu cenedlaethol eisoes yn darparu amrywiol adnoddau dysgu. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda’n Prifysgolion, darlledwyr, cymdeithasau dysgedig a sefydliadau diwylliannol i roi mynediad i blant a rhieni at bob math o adnoddau addysgol ar-lein.

Er enghraifft,  mae ysgolion sydd â chweched dosbarth, Colegau Addysg Bellach a Phrifysgolion yn datblygu adnoddau penodol i helpu disgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 i ganolbwyntio ar y camau nesaf, boed rheiny yn rai academaidd neu alwedigaethol.

Byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’r proffesiwn addysg i baratoi ar gyfer gweld plant a phobl ifanc yn dychwelyd i’r ysgol, a’r cymorth a fydd yn ofynnol i’r holl ddysgwyr.

Sut dylai ysgolion gyfathrebu â rhieni dros y cyfnod hwn?

Mae cyfathrebu â rhieni’n hanfodol. Dylai ysgolion gadw llinellau cyfathrebu agored â rhieni, er mwyn sicrhau undod yn y gymuned:

  • Sicrhau bod cymuned yr ysgol, gan gynnwys rhieni, yn deall y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu.  Os oes gan staff neu blant y symptomau a nodir yn y canllawiau, yna dylent hunanynysu a dilyn canllawiau iechyd y cyhoedd.
  • Dylai gohebiaeth â rhieni a chymunedau fod: yn weladwy, yn bwyllog, yn glir ac yn ffeithiol.  Mae’n rhaid i ni gynnal trefn gymdeithasol er mwyn ennill y frwydr yn erbyn COVID-19. Mae cynnal ymddiriedaeth mewn sefydliadau a’n ffordd ni o weithredu’n allweddol yn dyngedfennol yn hyn o beth.
  • Drwy weithio gyda dysgwyr o bell, bydd angen i ysgolion sicrhau bod rhieni’n deall y bydd y dysgu’n parhau a’u bod yn gwybod sut bydd hyn yn digwydd.

Mae canllawiau pellach i ysgolion a rhieni yn cael eu datblygu fel rhan o gynlluniau i helpu plant a phobl ifanc i ddal ati i ddysgu. Byddant ar gael ar ôl y Pasg.

A fydd dal angen i ysgolion ddarparu adroddiadau ysgrifenedig i rieni a gofalwyr am weddill y flwyddyn academaidd hon?

Mae’n bwysig i benaethiaid barhau i ddarparu adroddiadau perthnasol a defnyddiol ar gynnydd i rieni (a disgyblion sy’n oedolion) ar gyfer pob disgybl eleni, pan fo modd iddyn nhw a’r athrawon sy’n cyfrannu at adroddiadau wneud hynny. Bydd y Rheoliadau yn cael eu haddasu i fod yn seiliedig ar ‘ymdrech resymol’ er mwyn rhoi hyblygrwydd o ran fformat, cynnwys ac amseriad yr adroddiadau.

Bydd darparu adroddiad i’r rhai sy’n gadael yr ysgol yn parhau i fod yn ofyniad statudol er mwyn sicrhau nad yw’r dysgwyr hynny dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Er bod rhaid darparu adroddiad i’r dysgwyr hynny, nid oes rhaid iddynt fod yn adroddiadau llawn o reidrwydd, a bydd y fformat, y cynnwys a’r amseriad yn ddarostyngedig i ystyriaethau ‘ymdrech resymol’. Ar gyfer dysgwyr Blynyddoedd 10 i 13, gan gofio y bydd graddau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio graddau wedi’u hasesu gan ganolfannau a phroses safoni, rydym yn cynghori’n gryf na ddylid cynnwys graddau tybiedig a na chanlyniadau ffug arholiadau. Mae hyn er mwyn osgoi creu dryswch neu godi disgwyliadau am y radd y bydd y dysgwr yn ei derbyn yn y pen draw.

Beth yw’r sefyllfa mewn ysgolion annibynnol?

Yn y bôn mewn ysgol annibynnol, y perchennog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol a ydynt am ddwyn gwyliau’r Pasg ymlaen i ddisgyblion. Er na all Llywodraeth Cymru ddweud wrth ysgolion annibynnol bod yn rhaid iddynt ddilyn y cyngor a roddwyd i leoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru, byddem yn eu hannog i wneud hynny.   

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd yn rhaid i rai ysgolion arbennig a lleoliadau preswyl annibynnol ddal i ofalu am eu disgyblion.

A oes gan Lywodraeth Cymru ganllawiau ar gymarebau staff/plant ar gyfer cadw pellter cymdeithasol?

Mae canllawiau ynghylch cyfraddau staff i blant a chadw pellter cymdeithasol o fewn lleoliadau ar gael yma.

Bydd yn anoddach cynnal cadw pellter cymdeithasol ymysg plant ifanc iawn mewn lleoliadau addysg a gofal plant. Dylai staff roi’r mesurau uchod ar waith cyn belled â phosib, gan sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael gofal da yn y lleoliad. Ceir rhagor o wybodaeth yn y dolenni canlynol: https://llyw.cymru/safonau-gofynnol-cenedlaethol-ar-gyfer-gofal-plant-wedii-reoleiddio-coronafeirws-covid-19

Beth yw’r sefyllfa o ran plant a phobl ifanc sydd wedi’u heithrio ar hyn o bryd, ond oedd o bosib ar fin dychwelyd i’r ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf?

Dylai plant sydd wedi cael eu heithrio ac sydd ar fin dychwelyd i’r ysgol gael eu trin yn union yr un fath â’r dysgwyr eraill yn yr ysgol, o’u dyddiad dychwelyd ymlaen. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, yr un trefniadau ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a threfniadau plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

A fydd y rhestr o weithwyr hanfodol yn un derfynol, yn agored i’w dehongli, ac yn cael ei hadolygu?

Cyhoeddwyd canllawiau ynghylch cymhwysedd ar gyfer darpariaeth i y mae eu rhieni yn hanfodol i’r ymateb i Covid-19, ar 20 Mawrth 2020, a gellir eu gweld yma.

Rydym wedi llunio categorïau cyffredinol o bobl y mae eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19, sy’n gyson â rhai Llywodraeth y DU. Bydd y rhestr hon, fel pob agwedd arall o’r ymateb i Covid-19, yn cael ei hadolygu’n gyson.

Mae canllawiau pellach ar ddarpariaeth i blant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed ar gael yma.

A yw caniatáu i rai ysgolion aros ar agor i gefnogi dysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol yn lleihau neu fygwth manteision cau ysgolion?

Ein prif amcan yw lleihau’r perygl o niwed yn uniongyrchol oddi wrth Covid-19, a hefyd yn anuniongyrchol, drwy sicrhau bod darpariaeth ar gael i bobl agored i niwed, a manteisio i’r eithaf ar gapasiti’r GIG ac mewn meysydd eraill sy’n hanfodol ar gyfer ymateb i’r sefyllfa.

Mae’r cyngor gwyddonol ar sut i gyfyngu ymhellach ar ledaeniad COVID-19 yn glir. 

Rhaid i bawb, cyn belled ag sy’n bosibl, leihau cysylltiadau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu os oes modd i blant aros yn eu cartref yn ddiogel, dyna ddylent ei wneud, a hynny er mwyn atal y feirws rhag lledu. Dylai pob plentyn sy’n medru cael gofal yn ddiogel gartref aros yn eu cartrefi, hyd yn oed plant gweithwyr hanfodol.

Ond os nad oes dewis arall diogel, mae darpariaeth  ar gael mewn ysgolion ardal neu mewn lleoliadau eraill ar gyfer plant gweithwyr hanfodol, yn ogystal â dysgwyr agored i niwed, er mwyn sicrhau bod y GIG a sectorau hanfodol eraill yn medru manteisio ar gymaint o adnoddau â phosib. Dyma’r dull gweithredu sydd i’w weld mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Ffrainc a De Korea. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am gyfraniad staff ysgolion i’r frwydr yn erbyn COVID-19 drwy’r rôl hon.

Bydd nifer y plant mewn ysgolion ardal a lleoliadau eraill cryn dipyn yn is na’r nifer a fyddai yn yr ysgol ac mewn lleoliadau eraill fel rheol. Bydd hyn yn cyfyngu ar unrhyw gymysgu cymdeithasol a chyfrannu at arafu trosglwyddiad yr haint. Mewn lleoliadau sy’n dal i fod ar agor, mae canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn, gan annog y staff a’r plant i olchi eu dwylo yn aml ac yn drylwyr, gan ddefnyddio dŵr a sebon, a glanhau a diheintio pob arwynebedd sy’n cael ei gyffwrdd â’r dwylo yn gyson.

Mae canllawiau pellach ar ddarpariaeth i blant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed ar gael yma.

Materion ar lefel leol?

Mae awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddygymod â’r pandemig coronafeirws. Gwnaed cynlluniau wrth gefn cychwynnol yr wythnos ddiwethaf. Mae’r cynlluniau hynny nawr yn cael eu haddasu ac yn newid wrth i awdurdodau lleol ymateb i’r canllawiau diweddaraf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. I gael y cyngor diweddaraf, edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol a llyw.cymru/coronafeirws

A oes barn gan Lywodraeth Cymru ynghylch ar ba oedran y byddai’n briodol gadael plant heb oruchwyliaeth, a pha feini prawf eraill fyddai angen eu hystyried?

Mae’r NSPCC yn dweud nad yw’r gyfraith yn dweud ar ba oedran y gallwch adael plentyn wrth ei hun, ond mae’n drosedd gadael plentyn wrth ei hun os yw hynny’n ei roi mewn perygl. Defnyddiwch eich crebwyll ynghylch pa mor aeddfed yw eich plentyn cyn penderfynu ei adael wrth ei hun.

  • anaml iawn y mae plentyn dan 12 oed yn ddigon aeddfed i gael ei adael wrth ei hun am gyfnodau hir
  • ni ddylid gadael plant dan 16 oed wrth eu hunain dros nos
  • ni ddylid gadael babanod a phlant bach iawn wrth eu hunain byth

Gall rhieni gael eu herlyn os byddant yn gadael plentyn heb ei oruchwylio mewn ffordd sy’n debygol o achosi dioddefaint diangen neu niwed i iechyd.

Beth os nad oes gan plant a phobl ifanc fynediad at liniadur neu iPad yn eu cartref?

Mae Hwb yn darparu mynediad at amrywiaeth eang o adnoddau a chynnwys digidol y gellir eu defnyddio i gynorthwyo gyda dysgu o bell. Mae modd cyrraedd at Hwb o amrywiol ddyfeisiau sy’n gysylltiedig â’r we, gan gynnwys ffonau clyfar. Felly ar gyfer disgyblion sydd heb fynediad at liniadur neu iPad, mae modd defnyddio ffonau symudol. Fodd bynnag, byddwn yn edrych eto ar hyn.

A oes unrhyw gynlluniau i gau meinthrinfeydd?

Rydym wedi dweud y dylai lleoliadau gofal plant ond fod ar agor i blant agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol os nad oes modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref. Gweler y datganiad ysgrifenedig diwethaf am feithrinfeydd.

Cymorth i ddysgwyr agored i niwed yn y cartref os nad oes modd iddynt fynd i’r ysgol?

Er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws, mae’n bwysig iawn lleihau cysylltiadau cymdeithasol, felly os oes modd i blant aros yn ddiogel yn eu cartrefi, dylent wneud hynny. Os nad oes dewis diogel arall, ceir darpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau eraill er mwyn caniatáu i blant gweithwyr hanfodol a disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig ddilyn cynllun dysgu eu hysgolion eu hunain o bell, fel fyddai’n digwydd pe baent gartref.

Bydd ysgolion yn sicrhau bod llawer o adnoddau ar gael ar-lein i helpu plant i ddysgu, boed mewn ysgol neu gartref. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae amrywiol ddulliau ac adnoddau digidol ar gael ar draws y system ysgol i helpu plant, pobl ifanc, athrawon ac arweinwyr. Mae hyn yn cynnwys adnoddau sydd ar gael drwy blatfform dysgu Cymru, HWB, sydd ag amrywiol adnoddau y gall athrawon eu defnyddio i helpu gyda dysgu o bell.

Os bydd rhieni yn teimlo bod angen cymorth pellach, dylid cysylltu â’u hawdurdod lleol i weld pa gymorth, canllawiau a chyngor sydd ar gael yn yr ardal.

Mae byrddau iechyd lleol yn datblygu ac yn darparu gwybodaeth hefyd, ac rydym yn casglu ac yn rhannu arferion da lle bynnag y bo’n bosibl. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cytuno i ddarparu man cyfleus am wybodaeth ynghylch COVID-19 ac rydym yn cydweithio’n agos er mwyn sicrhau bod cymaint â phosib o wybodaeth ar gael ar ffurfiau addas i bobl ifanc ledled Cymru.

Rwy’n weithiwr hanfodol a bydd rhaid i fy mhlentyn fynychu lleoliad ysgol pan fyddaf yn y gwaith – a fydd y cludiant arferol i’r ysgol yn dal i fod ar gael?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r diwydiant bysiau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau lle bo’n ofynnol, yn ogystal â chynllunio i weithredu fel arfer ar ôl y pandemig. Mae’r effaith ar wasanaethau yn amrywio ledled Cymru. Felly mae’n bwysig i chi wirio gyda’ch awdurdod lleol i weld pa wasanaethau sydd yn eu lle.

Pa gymorth ariannol sydd ar gael i awdurdodau lleol ac ysgolion, yn sgil y gofynion sydd arnynt ar hyn o bryd?

Gan fod COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar ein system addysg, rydym yn cydnabod y bydd goblygiadau ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn ar fyrder, ac yn ystyried beth allai gael ei ryddhau o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli i gefnogi’r ymateb i’r pandemig.

Rydym wedi sefydlu ffrwd ariannu unigol ar gyfer yr argyfwng, er mwyn i awdurdodau fedru ysgwyddo’r pwysau sy’n codi yn sgil Covid-19. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau i dalu’r costau ychwanegol o ddarparu gwasanaethau hanfodol, a’r galwadau ychwanegol sydd arnynt, gan gynnwys y cyfrifoldebau newydd sy’n codi o Ddeddf Coronaferiws Llywodraeth y DU, a ddaeth yn ddeddf ar 26 Mawrth.

Bydd £30m ar gael i wneud hyn yn y lle cyntaf. Gellir ei ddefnyddio i helpu i brynu nwyddau hylendid. Bydd y cyllid hefyd yn cynnwys hyd at £7m i helpu awdurdodau lleol sy’n darparu cymorth ariannol brys i deuluoedd plant sy’n dibynnu ar brydau ysgol am ddim, ond sy’n methu eu derbyn gan fod yr ysgol ar gau, gan gynnwys dros gyfnod y Pasg.

Sut fedrwn ni sicrhau bod y model ysgolion ardal yn ddiogel?

Mae canllawiau manwl i helpu ysgolion a hybiau i weithredu’n effeithiol ac yn ddiogel wedi cael eu cyhoeddi yma.

Sut fedraf i helpu fy mhlentyn i ddysgu yn y cartref?

Yn ystod y cyfnod hwn mae ysgolion a lleoliadau ar gau i’r rhan fwyaf o blant, a bydd angen iddynt barhau i ddysgu mewn ffordd wahanol. Y peth pwysicaf ar gyfer eich plant yw sicrhau eu bod yn Cadw’n Ddiogel a Dal Ati i Ddysgu. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i’ch helpu chi a’ch plant i fod yn iach ac yn ddiogel, ac i helpu plant i barhau i ddysgu tra bo’r ysgolion ar gau yn sgil COVID-19. 

Rwy’n byw yng Nghymru ond mae fy mhlentyn yn mynd i’r ysgol yn Lloegr. Oes gen i hawl i deithio i fynd â’m plentyn i’r ysgol ac yn ôl o 1 Mehefin ymlaen?

Rhaid i bob un sy’n byw yng Nghymru gadw at ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch cyfyngiadau ar deithio. Fodd bynnag, byddai teithio i ysgol yn Lloegr ac yn ôl yn cael ei ystyried fel esgus rhesymol i ddisgyblion sy’n byw yng Nghymru adael y tŷ.  

Os oes unrhyw un ar yr aelwyd yn arddangos unrhyw un o symptomau’r feirws (peswch cyson, tymheredd uchel, colli’r synnwyr arogli neu’r synnwyr blasu, neu unrhyw newid i’r synhwyrau hynny) dylid aros yn y tŷ er mwyn osgoi lledaenu’r haint i eraill, ac fe ddylid dilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw penderfynu a yw’r daith yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru. 

Rhannu’r dudalen hon