Llywodraeth Cymru
Sut rydym yn defnyddio'ch data ar gyfer ystadegau ac ymchwil
Rydym yn cynhyrchu ystod eang o ystadegau swyddogol ac ymchwil, ac ar gyfer rhai ohonynt yn defnyddio data am unigolion.
Cynnwys
Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth nad yw'n bersonol a gasglwyd gennym ni a sefydliadau eraill.
Yn ogystal â deddfwriaeth diogelu data, caiff ein defnydd o ddata at ddibenion ystadegol ei reoli yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae egwyddor T6 yn y Cod yn ymdrin â llywodraethu data.
Mae'r dogfennau hyn yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio data personol a gesglir gan Lywodraeth Cymru at ddibenion ystadegau ac ymchwil a phwy y dylid cysylltu â hwy os oes gennych unrhyw bryderon.