Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddiwygio ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) er mwyn cywiro camgymeriad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd angen i chi gysylltu â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid i gael ffurflen ddiwygio.

Pryd y gallwch chi ddiwygio ffurflen dreth

Gallwch ddiwygio'ch ffurflen dreth hyd at 12 mis o'r dyddiad ffeilio.

Mae ffurflenni TGT yn ymwneud â chyfnod cyfrifo o 3 mis. Dylai ffurflenni treth gael eu cwblhau erbyn diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn pob cyfnod. Gelwir hwn yn ddyddiad ffeilio.

Os byddwch yn dod o hyd i gamgymeriad mewn ffurflen dreth dros 12 mis ar ôl y dyddiad ffeilio, cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid ar unwaith. Gallwn drafod sut i’w gywiro.

Newidiadau y gallwch chi eu gwneud

Gallwch ddiwygio eich ffurflen dreth er mwyn gwneud newidiadau fel:

  • faint o ddeunydd safonol neu gyfradd is a gofnodwyd o fewn cyfnod cyfrifo (tunelli a phunnoedd)
  • gwybodaeth am wastraff a rhyddhawyd o dreth (tunelli a phunnoedd)
  • credyd ansolfedd cwsmeriaid rydych chi'n ei hawlio
  • profion colled wrth danio sydd wedi'u cwblhau, rydych yn aros am eu canlyniadau, neu sydd wedi methu
  • treth net sy’n daladwy

Ni allwch gywiro gwall trwy addasu ffurflen TGT yn y dyfodol.

Treth sydd wedi’i thandalu

Rhaid i chi dalu TGT sy’n ddyledus ar unwaith. Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen ddiwygio a anfonwyd gan eich rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid.

Efallai y bydd llog a chosbau i’w talu ar dreth sy'n ddyledus, sydd heb ei thalu.

Hawlio ad-daliad

Os ydych yn meddwl eich bod wedi gordalu treth, gallwch hawlio ad-daliad gan ddefnyddio'r ffurflen ddiwygio a anfonwyd gan eich rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid.

Gall gymryd hyd at 30 diwrnod i brosesu eich cais. Efallai y bydd angen mwy o wybodaeth arnom.

Wedi anfon ffurflen dreth mewn camgymeriad neu ddyblygiad

Cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid os ydych wedi ffeilio:

  • 'drafft' mewn camgymeriad
  • ffurflen dreth ddyblyg

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi.