Neidio i'r prif gynnwy

Mae hon yn fersiwn gryno o'n hysbysiad preifatrwydd data treth.

Efallai y byddwch yn rhoi eich data a’ch gwybodaeth bersonol i ni pan fyddwch yn:

  • talu trethi datganoledig Cymreig
  • yn ymwneud â thrafodiad lle mae rhywun yn talu treth Gymreig (er enghraifft, prynu eiddo sydd yn â Threth Trafodiadau Tir yn daladwy)
  • cysylltu â ni ynglŷn â’n canllawiau a'n gwasanaethau

Trethi Datganoledig yw’r rhai lle mae'r rheolau treth wedi'u gosod yng Nghymru, ac mae'r dreth a gesglir yn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn casglu ac yn rheoli 2 dreth ddatganoledig:

  • Treth Trafodiadau Tir
  • Threth Gwarediadau Tirlenwi

Rydym yn cael gwybodaeth gennych pan fyddwn yn casglu trethi. Gall hynny ddod yn uniongyrchol oddi wrthych chi neu oddi wrth asiant, er enghraifft, cyfreithiwr sy'n gweithredu ar eich rhan.

Data a gesglir gennym

Gall y data personol hwn gynnwys eich:

  • teitl a’ch enw llawn
  • cyfeiriadau presennol ac yn y gorffennol
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad e-bost
  • rhifau ffôn
  • dulliau adnabod, fel Rhif Yswiriant Gwladol, pasbort, trwydded yrru

Gwybodaeth sy'n ymwneud â thrafodiadau treth, gan gynnwys unrhyw:

  • gyfeiriadau
  • symiau dan sylw

Hefyd, unrhyw fusnesau sy'n gysylltiedig, gan gynnwys:

  • enw’r cwmni neu enw masnachu
  • cyfeiriadau
  • rhif y cwmni, os yn berthnasol
  • rhif cofrestru TAW, os yn berthnasol

Defnydd o'ch data

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon, ac yn y ffyrdd canlynol i gefnogi'r trethi Cymreig rydym yn eu casglu a'u rheoli er mwyn:

  • sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu ar yr adeg gywir
  • gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus y gallwn rannu data â hwy, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • dadansoddi a gwneud gwaith ymchwil er mwyn deall trethi Cymru yn well a gwella gwasanaethau

Ni fyddwch chi na'ch asiant yn cael eich adnabod mewn dadansoddiadau neu adroddiadau ymchwil a gyhoeddir gennym.

Byddwn hefyd yn sicrhau na fydd gwybodaeth amdanoch chi neu eich asiant:

  • yw'n cael ei rhannu y tu allan i ACC oni bai bod rheswm cyfreithlon a bod y prosesu’n deg ac yn angenrheidiol
  • yn cael ei ddefnyddio na'i gadw pan fyddwch chi wedi defnyddio unrhyw rai o'ch hawliau a nodir yn yr hysbysiad hwn.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich data am gyhyd ag y bydd angen i ni:

  • gyflawni ein dyletswydd
  • gwirio osgoi, twyll, neu wall (gall fod am fwy na 25 mlynedd)
  • er mwyn cefnogi dadansoddi ac ymchwil am gyhyd ag y mae'n ddefnyddiol

Diogelwch data

Bydd unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi neu'ch asiant yn cael ei chasglu, ei storio a'i throsglwyddo'n ddiogel. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gydag eraill lle mae'n gyfreithlon gwneud hynny ac yn ofynnol at ddiben a nodwyd.

Eich hawliau

Mae cyfraith diogelu data’n rhestru hawliau penodol sydd gennych yn ymwneud â'ch data. Mae'r hawliau hyn yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio eich data. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau a wneir o'ch data, mae gennych yr hawl i gael gwybod (y mae'r hysbysiad hwn yn ei gwmpasu).

Data amdanoch chi a rhoddir i ni’n uniongyrchol ar gyfer casglu a rheoli trethi, ac er mwyn cydymffurfio â chyfraith treth

Mae gennych hawl i:

  • gael gwybod (yr hysbysiad hwn - gall hyn gael ei gyfyngu o dan amgylchiadau penodol)
  • cael gafael ar eich gwybodaeth (gall hyn gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol)
  • cywiro gwallau (gall hyn gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol)

Data amdanoch chi gan sefydliadau eraill a rennir er mwyn cydymffurfio â chyfraith treth neu asesu'r risg o dwyll neu wall, gan gynnwys proffilio awtomatig

Yn yr achos hwn mae gennych hawl i:

  • gael gwybod (yr hysbysiad hwn - gall hyn gael ei gyfyngu o dan amgylchiadau penodol)
  • cywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, os oes gennych reswm dilys dros ofyn i ni, mae gennych hawl i:

  • wrthwynebu i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio
  • cyfyngu ar ein defnydd o’ch gwybodaeth tra’r ydym yn eich gwrthwynebiad

Data amdanoch chi a rennir ar gyfer dadansoddi neu ymchwil

Mae gennych hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn).

Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth sy'n ei gwneud yn bosibl eich adnabod chi o ddata a ddefnyddir ar gyfer dadansoddi neu ymchwil. Byddwn ond yn trosglwyddo eich data adnabyddadwy i eraill lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny, a lle mae'n angenrheidiol ar gyfer yr ymchwil.

Data amdanoch chi nad yw'n ymwneud â gweithgareddau treth (megis adborth, cwynion neu gadw dewisiadau)

Mae gennych hawl i:

  • gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
  • cael gafael ar eich gwybodaeth
  • cywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth
  • cael dileu eich gwybodaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith
  • cyfyngu ar y defnydd o'ch gwybodaeth
  • cael gwybod am gywiriad, dilead neu gyfyngiad a wnaed i'ch gwybodaeth
  • derbyn eich gwybodaeth mewn fformat sy'n addas i'w drosglwyddo i gorff arall
  • peidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol ar gyfer hynny

Rhagor o wybodaeth

I gael manylion llawn am wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, eich hawliau, defnydd cyfreithlon, a phwyntiau cyswllt, gweler ein hysbysiad preifatrwydd data treth neu cysylltwch â ni.

Swyddog Diogelu Data

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Ar 3 Ebrill 2023, newidiodd ein cyfeiriad post i: Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108, Merthyr Tudful, CF47 7DL.

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.