Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae adroddiad blynyddol Llesiant Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant yng Nghymru, er mwyn helpu i asesu cynnydd yn erbyn y 7 nod llesiant cenedlaethol a bennir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn ystyried pa gynnydd a wnaed yn erbyn pob un o’r ddangosyddion llesiant cenedlaethol, ochr yn ochr ag ystod o ddata eraill perthnasol.

Diben

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, a gwneud yr wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi’n haws ei defnyddio ac yn addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn hanfodol er mwyn inni allu gwneud hynny

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu sut yr ydym yn credu bod eraill yn defnyddio’r adroddiad. Rhowch wybod a ydych yn cytuno â’r isod ai peidio, gan roi astudiaethau achos cryno ynglŷn â sut y mae’r adroddiad wedi cael ei ddefnyddio, lle bo hynny’n bosibl. Hefyd, os ydych yn defnyddio’r adroddiad mewn ffordd wahanol, rhowch wybod inni drwy e-bostio desg.ystadegau@llyw.cymru.

Sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio

Adroddiad ar Gyflwr y Genedl

Mae adroddiad Llesiant Cymru yn gyfle i’r Prif Ystadegydd amlygu’r negeseuon allweddol ynglŷn â’r cynnydd a wneir yng Nghymru ar draws nifer o ganlyniadau, a hynny mewn modd awdurdodol, ystyrlon, a chydlynol. Mae hynny’n cynnwys tynnu ynghyd amrywiaeth eang o ffynonellau, rhai ohonynt nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol mewn mannau eraill. Gall yr holl randdeiliaid, gan gynnwys dinasyddion a’r cyfryngau, ddefnyddio hyn i ddeall y prif dueddiadau a heriau sy’n wynebu Cymru. Er enghraifft, cynhyrchodd gwasanaeth ymchwil y Senedd y blog 'Pa mor gydnerth yw Cymru? Canfyddiadau adroddiad Llesiant Cymru' yn 2017, a defnyddiodd yr Ymddiriedolwr Adeiladu Cymunedau ddata o adroddiad 2019 yn eu hadroddiad 2020 Cryfhau Cymunedau yng Nghymru.

Craffu

Bwriedir i’r adroddiad gael ei ddefnyddio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys Aelodau a Phwyllgorau’r Cynulliad), ac eraill megis y Comisiynwyr a Swyddfa Archwilio Cymru, i graffu ar berfformiad Cymru yn erbyn y nodau. Er enghraifft, ar ôl adroddiad mis Medi 2018, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Comisiynydd Plant ddatganiadau cyhoeddus mewn ymateb i’r adroddiad.

Adroddiadau a dogfennau polisi’r Llywodraeth

Defnyddir yr adroddiad i ddarparu cyd-destun a thystiolaeth i ategu dogfennau’r Llywodraeth. Er enghraifft, yr adroddiad blynyddol yn erbyn strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb; neu gynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru.

Cynlluniau llesiant lleol

Mae gofyniad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n golygu bod yn rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyhoeddi adroddiad blynyddol o fewn 14 o fisoedd ar ôl cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol cyntaf, ac i gyhoeddi adroddiadau dilynol o fewn blwyddyn i gyhoeddi pob adroddiad blaenorol. Mae’r canllawiau’n dweud y disgwylir i gynnydd gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol. Mae awdurdodau lleol wedi defnyddio adroddiad Llesiant Cymru a’r dangosyddion cenedlaethol i helpu i ddatblygu cynlluniau llesiant ac i lunio adroddiadau blynyddol yn erbyn y cynlluniau hynny. Maent yn dweud bod yr adroddiad yn darparu cyflwyniad defnyddiol i’r dangosyddion, yn ogystal â chyd-destun cenedlaethol a dolenni at ragor ddata a gwybodaeth.

Ceisiadau am gyllid

Mae adroddiad Llesiant Cymru wedi cael ei ddefnyddio gan sefydliadau, er enghraifft y rheini yn y trydydd sector, wrth baratoi ceisiadau am gyllid. Rydym hefyd yn gwybod bod elusen genedlaethol wedi defnyddio adroddiad Llesiant Cymru i lywio ei syniadau ynghylch meysydd anghenion a’r effeithiau penodol y gellid ei chael yng Nghymru o ddefnyddio’r cyllid hwnnw. Mae wedi defnyddio’r data o hynny i nodi’r mannau lle y gallai sectorau wneud y gwahaniaeth mwyaf ar gyfer unigolion a chymunedau.

Mesur cynnydd yn erbyn y Nodau Datblygu Cynaliadwy

Mae adroddiad Llesiant Cymru a’r dangosyddion cenedlaethol yn darparu’r fframwaith ar gyfer deall cyfraniad Cymru i’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Felly, defnyddir yr adroddiad i amlygu sut mae’r dangosyddion cenedlaethol yn berthnasol i’r nodau hynny, a hefyd cafodd ei ddefnyddio i ddarparu data atodol ar gyfer y Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol y DU (GOV.UK) yn 2019, yn ogystal ag Adroddiad Atodol Cymru.

Cefnogi’r gwaith o ddatblygu fframweithiau mesur eraill

Mae’r dangosyddion cenedlaethol yn cael eu defnyddio ar draws y sector cyhoeddus fel fframwaith ar gyfer datblygu fframweithiau mesur mwy pwrpasol. Er enghraifft, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn defnyddio’r dangosyddion llesiant cenedlaethol fel cyd-destun ar gyfer set ehangach o ddangosyddion sy’n benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Mae Mynegai Llefydd Llewyrchus, a gynhyrchir gan Data Cymru, wedi defnyddio’r data o’r dangosyddion cenedlaethol. Mae’r consortiwm rhanddeiliaid Deall Lleoedd Cymru wedi bod yn ystyried pa ddata o’r dangosyddion cenedlaethol fyddai’n berthnasol ac yn briodol ar gyfer eu cynnwys ar lefel leol. Lansiodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol eu Fframwaith Ariannu Strategol ym mis Ionawr 2019, gan ddefnyddio data o adroddiad 2018 fel rhan o'r gwaith cwmpasu yng Nghymru.