Neidio i'r prif gynnwy

3. Sut i ysgrifennu enwebiad

Y peth pwysicaf yw darparu tystiolaeth o’r hyn y maent wedi ei wneud, canlyniad eu gwaith a sut maent wedi gwneud pethau’n well i eraill.

Wrth enwebu rhywun am anrhydedd, mae’n bwysig cofio dangos sut mae eich ymgeisydd wedi:

  • cyfrannu mewn ffordd unigryw at wella byd yr unigolion hynny sy’n llai abl i’w helpu eu hunain
  • ymroi i wasanaeth gwirfoddol parhaus ac anhunanol
  • dangos arloesedd neu greadigrwydd wrth gyflawni canlyniadau parhaol

Dylai enwebiad da hefyd ddisgrifio’r gwahaniaeth y mae eu cyfraniad wedi’i wneud.

Ceisiwch ateb y cwestiynau canlynol:

  • sut yr oedd pethau cyn iddynt ddechrau?
  • sut mae pethau nawr?
  • beth sy’n gwneud eich ymgeisydd yn wahanol i eraill sy’n gwneud yr un peth?

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Dîm Anrhydeddau Llywodraeth Cymru yn HonoursPN@llyw.cymru.