Neidio i'r prif gynnwy

Poeni bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl? 

Dyma rai o’r arwyddion cyffredin y gallai person ifanc fod mewn perygl o gam-drin, esgeulustod neu niwed: 

  • ymddygiad neu bersonoliaeth yn newid
  • troi’n swil 
  • ymddangos yn bryderus
  • ymddwyn yn ymosodol, sy’n anarferol iddyn nhw
  • diffyg sgiliau cymdeithasol, a dim llawer o ffrindiau os o gwbl
  • perthynas wael â rhiant
  • gwybod am bethau ym myd oedolion, sy’n amrhriodol i’w hoed 
  • rhedeg i ffwrdd neu fynd ar goll
  • bob amser yn gwisgo dillad sy'n gorchuddio’u corff

Mae mwy o wybodaeth am fathau ac arwyddion o gam-drin ar gael ar wefan yr NSPCC.

Weithiau, fydd yr arwyddion ddim yn amlwg ond os wyt ti’n teimlo bod rhywbeth o'i le mae’n bwysig gwneud yr alwad. Paid ag ofni bod yn anghywir – beth os wyt ti’n iawn?

Gelli di wneud gwahaniaeth i ddiogelu plentyn, a does dim rhaid rhoi enw wrth fynegi pryder. 

Os yw mewn perygl uniongyrchol, ffonia 999. Os nad yw'n argyfwng, ffonia’r gwasanaethau cymdeithasol lleol. Fel arall, gelli ffonio 101.

Mae manylion cyswllt y gwasanaethau cymdeithasol ar gael drwy’r byrddau diogelu lleol.

Cysylltwch â'ch bwrdd diogelu lleol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerfilli cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot cysylltwch â Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Cwm Taf Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Cwm Taf Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Cwm Taf Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Cyngor Caerdydd

Cyngor Caerdydd cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Dinas Casnewydd cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gwent

Cyngor Sir a Dinas Abertawe

Cyngor Sir a Dinas Abertawe cysylltwch â Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Sir Ceredigion cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cyngor Sir Ddinbych  

Cyngor Sir Ddinbych cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Sir Fynwy cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gwent

Cyngor Sir Gaerfyrddin

Cyngor Sir Gaerfyrddin cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cyngor Sir Gwynedd

Cyngor Sir Gwynedd cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Penfro cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cyngor Sir Powys

Cyngor Sir Powys cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir y Fflint cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Sir Ynys Môn cysylltwch â Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru