Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i’r myfyriwr a’r ysgol ymsefydlu lenwi’r ffurflen hawlio hon.

Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi’r ffurflen.

Nid ydych yn gymwys i hawlio'r taliad hwn os nad ydych wedi gwneud eich cais SAC o fewn yr amserlenni gofynnol.

Adran A: gwybodaeth bersonol

  1. Llenwch bob rhan o hon gan gynnwys unrhyw enwau canol.
  2. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd ar y Ffurflen Gofrestru a’r Ffurflen SAC. Bydd angen i chi fedru cael mynediad at y cyfrif e-bost hwn drwy gydol y cyfnod hawlio. Ni fydd cyfeiriadau e-bost prifysgolion yn cael eu derbyn.

Adran B: manylion ymsefydlu a SAC

  1. Bydd angen eich tystysgrifau SAC ac ymsefydlu i lenwi’r adran hon.
  2. Defnyddiwch yr union ddyddiadau a ddarperir ar eich tystysgrifau.
  3. Rhowch gopi wedi’i sganio o’r dystysgrif ymsefydlu a ddarparwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i’ch ysgol ymsefydlu.

Adran C: datganiad

  1. Llofnodwch a nodwch y dyddiad. Ar ôl ei llenwi, bydd angen i chi llofnodi a nodi’r dyddiad.
  2. Rhaid rhannu’r ffurflen hawlio hon wedyn â’ch ysgol ymsefydlu.

Adran D: manylion y taliad

Caiff yr arian a hawlir ei dalu’n uniongyrchol i’r cyfrif a ddarparwyd ar eich ffurflen gofrestru. Os yw’r cyfrif hwn wedi newid, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru i newid eich manylion.

Adran E: cadarnhau cymhwysedd: datganiad yr ysgol ymsefydlu

  1. Rhaid i’r adran hon gael ei llenwi a’i llofnodi gan Bennaeth, Dirprwy Bennaeth neu Bennaeth Adran yr ysgol lle cwblhawyd y cyfnod ymsefydlu.
  2. Ni ddylid llenwi na llofnodi’r ffurflen hon cyn diwedd y cyfnod ymsefydlu.
  3. Rhaid i’r llofnodwr awdurdodedig sicrhau bod manylion y myfyriwr yn gywir.
  4. Rhaid i’r llofnodwr awdurdodedig lenwi’r holl fanylion yn yr adran hon.
  5. Llofnodwch a nodwch y dyddiad.

Cyflwyno ffurflen hawlio SAC gan yr ysgol ymsefydlu

Ar ôl i’r myfyriwr a’r ysgol ymsefydlu lofnodi’r ffurflen hawlio ymsefydlu a nodi’r dyddiad, bydd y llofnodwr ar ran yr ysgol yn gyfrifol am ei dychwelyd ar fformat PDF at ITEIncentives@llyw.cymru ynghyd â chopi wedi’i sganio o’r dystysgrif ymsefydlu a ddarparwyd gan CGA. Dylid copïo’r myfyriwr i’r e-bost hwn.

Sicrhewch fod y ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir.

Sicrhewch eich bod wedi cynnwys copi wedi’i sganio o’ch tystysgrif ymsefydlu. Ni fydd modd inni ddychwelyd y rhai gwreiddiol.

Ni fydd ffurflenni anghywir, anghyflawn neu nad ydynt yn cynnwys copi wedi’i sganio o’r dystysgrif ymsefydlu yn cael eu derbyn, ac fe fyddant yn cael eu dychwelyd i’r ysgol.

Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod negeseuon e-bost yn cyrraedd yn ddiogel. Dylai myfyrwyr weithio gyda’u hysgolion ymsefydlu i gael cadarnhad eu bod wedi’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dylai myfyrwyr gadw copïau o hawliadau ac e-byst a anfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cofnodion. Dylid cadw hefyd bob cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod negeseuon e-bost wedi’u derbyn. Dylid eu storio'n ddiogel a dylent fod yn hawdd cael gafael arnynt ar ôl gadael y brifysgol a'r ysgol ymsefydlu. Os nad yw myfyriwr wedi cael e-bost yn cadarnhau bod ei hawliad neu neges wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru o fewn 10 diwrnod, dylai gymryd yn ganiataol nad yw wedi cyrraedd.

Mewn canllawiau blaenorol rydym yn cyferio at ffurflen manylion cyflenwr, mae hon wedi cael ei disodli gan ffurflen gofrestru. Derbynnir ffurflen manylion cyflenwr a gyflawnyd yn flaenorol. Ni dderbynir ffurflen manylion cyflenwr a gyflwynir ar ol Ebril 2022.