Cyfarwyddiadau i wella hygyrchedd cyflwyniadau PowerPoint.
Cynnwys
Trefnu sleidiau'n gywir
Rhowch gynnwys eich sleid yn y drefn darllen gywir fel y gall meddalwedd darllen sgrin ei ddarllen yn uchel yn gywir i ddefnyddwyr sydd â nam ar y golwg.
Trefn darllen
I osod trefn darllen, cliciwch ar Hafan > Trefnu > Dewis Chwarel.
Rhestrwch wrthrychau yn y sleid mewn trefn resymegol fel y bydd unrhyw feddalwedd darllen sgrin yn eu darllen yn uchel yn y drefn gywir.
Er mwyn aildrefnu'r gwrthrychau mewn trefn darllen newydd, llusgwch y gwrthrych i leoliad newydd neu cliciwch arno a dewiswch Dod Ymlaen neu Anfon Yn ôl.
I gadarnhau'r drefn darllen, dewiswch sleid a gwasgwch y fysell Tab. Bob tro rydych yn gwasgu'r fysell, mae’r ffocws yn symud i'r gwrthrych nesaf y bydd darllenydd sgrin yn ei ddarllen.
Gwella hygyrchedd delweddau
Sut i wneud y siartiau, y graffau a'r delweddau yn eich sleidiau PowerPoint yn hygyrch i ddefnyddwyr sydd ag anableddau golwg neu wybyddol.
I wneud eich delweddau'n fwy hygyrch:
- defnyddiwch liw, testun, patrymau, neu siapiau i gyfleu syniadau
- ychwanegwch destun amgen disgrifiadol at luniau, siartiau a gwrthrychau gweledol eraill
- trefnwch ddelweddau mewn haenau, fel llun sydd â llinellau tynnu sylw, yn un gwrthrych
- dewiswch Gweld > Graddfa er mwyn cael amcan o'r ffordd y gallai eich sleidiau ymddangos i rywun sydd â diffyg golwg lliw
Ychwanegu Testun Amgen at siart
- Uwcholeuwch y siart drwy glicio arni.
- De-gliciwch y siart a dewiswch Fformatio Ardal Siart.
- Dewiswch Maint a Phriodweddau > Testun Amgen.
- Ychwanegwch Deitl a Disgrifiad ystyrlon.
Ychwanegu Testun Amgen at ddelwedd
- De-gliciwch y llun a dewiswch Fformatio Llun.
- Dewiswch y panel Maint a Phriodweddau.
- Cliciwch ar y gwymplen Testun Amgen.
- Ychwanegwch Deitl a Disgrifiad ystyrlon.
Trefnu delweddau mewn haenau er symlrwydd
- Dewiswch bob un o'r delweddau rydych am eu trefnu mewn grŵp.
- Cliciwch ar y tab Fformatio a dewiswch Grŵp
Defnyddiwch liwiau ac arddulliau hygyrch
Adnodd gweledol yw PowerPoint yn bennaf a chaiff ei arddangos ar bellter o'r gynulleidfa yn aml. Fodd bynnag, gallwch wneud eich sleidiau PowerPoint yn fwy hygyrch drwy ddilyn ychydig o arferion gorau.
Mae'r lliwiau a'r arddulliau a ddefnyddiwch ar gyfer sleidiau, testun, siartiau a graffeg yn mynd tipyn o’r ffordd tuag at wella hygyrchedd yn PowerPoint.
Dechrau gyda thempled
Gall templedi PowerPoint parod helpu i arbed amser a gwella hygyrchedd yn y cynnwys a grëir gennych. Mae amrywiaeth o'r templedi hyn ar gael gan Microsoft i ddefnyddwyr eu lawrlwytho yn office.com.
Mae templedi o'r casgliad hwn yn cynnwys sawl nodwedd sy'n cefnogi hygyrchedd.
Awgrymiadau ynglŷn â dewis lliwiau ac arddulliau hygyrch
- Mae cefndiroedd llwydwyn yn well i bobl sydd â gwahaniaethau canfyddiadol, fel dyslecsia.
- Dewiswch dempledi a themâu â ffontiau sans serif 18 pwynt neu fwy.
- Defnyddiwch gefndiroedd solet sydd â lliw testun cyferbyniol. Mae hyn yn well na chefndiroedd patrymog / â dyfrnod a themâu testun cyferbyniad isel
- I wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch, fformatiwch hi yn wahanol mewn mwy nag un ffordd. Er enghraifft, defnyddiwch liw a thestun i nodi elfennau gwahanol siart.
Dylunio sleidiau i bobl sydd â dyslecsia
Mae'r elfennau sy'n gwneud cyflwyniadau'n gliriach ac yn haws i'w deall i bobl sydd â dyslecsia hefyd yn eu gwneud yn well yn gyffredinol.
Mae'r awgrymiadau hyn yn eich helpu i wneud y ddau beth:
Ffontiau
Defnyddiwch ffontiau sans serif syml sydd â digon o le rhwng llythrennau.
Defnyddiwch ffont 18 pwynt o leiaf. Mae enghreifftiau o ffontiau Sans Serif da yn cynnwys: Calibri, Franklin Gothic Book, Lucida Sans a Segoe UI.
Dylech osgoi ffontiau cywasgedig, ffontiau sydd â phwysau llinell anwastad, sgript / ffontiau arddangos ffansi a ffontiau italig neu wedi'u tanlinellu.
Testun
I gadw eich testun yn hawdd ei ddarllen, cyfyngwch ar nifer y llinellau ym mhob sleid a gadewch ddigon o le uwchlaw ac islaw pob llinell.
Defnyddiwch y rheol “6 gan 7”: dim ond 6 gair fesul llinell a 7 llinell fesul sleid.
Nodiadau'r siaradwr
Defnyddiwch nodiadau'r siaradwr i roi gwybodaeth fanylach.
Mae nodiadau'r siaradwr wedi'u fformatio'n ddiofyn mewn ffont sans serif darllenadwy.
Rhannwch eich sleidiau ar ôl eich cyflwyniad fel y gall eich cynulleidfa gyfeirio at y sleidiau a'r nodiadau yn ddiweddarach. Bydd hyn yn eu helpu i gofio'r cyflwyniad ar lafar a roddwyd.
Cefndir
Gall cefndiroedd sleid gwyn llachar ei gwneud yn fwy anodd darllen y testun; dewiswch gefndir llwydwyn neu hufen yn lle hynny.
Dylai testun fod yn dywyll, gyda llawer o ofod o amgylch y llythrennau.
Fel arall, mae cefndir tywyll a thestun gwyn hefyd yn gweithio'n dda.
Delweddau
Mae delweddau yn ffordd wych o dorri blociau o destun a gwneud eich sleid yn haws i'w sganio.
Cofiwch ychwanegu testun amgen at bob delwedd yn eich cyflwyniad.
Diwyg
Mae diwyg graffig lliwgar â chyferbyniad uchel, ynghyd â lluniau a thestun, yn creu dyluniad strwythuredig.
Mae diwyg strwythuredig yn haws i bobl sydd â dyslecsia ei ddeall.
Defnyddio fformatau amgen
I wneud cyflwyniad yn fwy hygyrch i bobl sydd â golwg gwan, cadwch ef mewn fformat amgen y gall darllenydd sgrin ei ddarllen. Yna, gall defnyddwyr ei agor ar ddyfais bersonol neu ei drosglwyddo i ddarllenydd Braille.
Creu fersiwn dogfen o gyflwyniad
- Agorwch y cyflwyniad PowerPoint.
- Dewiswch Ffeil > Allforio > Creu Taflenni.
- I greu fersiwn Word, dewiswch Creu Taflenni.
Opsiynau fformatio i allforio sleidiau:
- i arddangos sleidiau cyflwyniad yn gyntaf, ac wedyn nodiadau'r cyflwyniad, dewiswch Nodiadau islaw sleidiau
- i gynnwys delweddau sleidiau yn y ddogfen Word, dewiswch Gludo ac yna Iawn
Cofiwch ychwanegu Teitlau Sleidiau gan ddefnyddio Arddulliau Pennawd ac ychwanegu Testun Amgen at bob delwedd er mwyn gwella hygyrchedd yn y ddogfen Word a allforir.
Teitlau sleidiau
Ychwanegwch golon (:) ar ôl rhif pob sleid yn y ddogfen ac yna copïwch a gludwch y teitl priodol o'r cyflwyniad PowerPoint.
Arddulliau pennawd
Uwcholeuwch deitl y sleid ac yna dewiswch Hafan > Pennawd 1.
I weld amlinelliad o'r cyflwyniad gyda phenawdau sleidiau, dewiswch Gweld > Chwarel Gwe-lywio.
(Weithiau, mae pobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin neu Braille yn adolygu'r broses we-lywio gyntaf er mwyn cael trosolwg o'r ddogfen.)
Testun Amgen
- De-gliciwch ar y ddelwedd yn y sleid.
- Dewiwch Llun ac yna dewiswch Testun Amgen.
Ychwanegwch deitl ystyrlon a theitl sy'n disgrifio'r ddelwedd yn y blwch priodol.
Dileu gwybodaeth gudd
Gwiriwch y ddogfen ac, os oes angen, dilewch unrhyw wybodaeth ddiangen, er enghraifft sylwadau ac awdur y ddogfen. Fel hyn, gellir osgoi nodi mai’r sefydliad yw’r awdur.
Ewch i Ffeil ac yna Gwybodaeth. Dewiswch Chwilio am Broblemau.
Dewiswch Archwilio’r Ddogfen.
Bydd hyn yn agor yr offeryn Arolygydd Dogfennau.
Dewiswch Archwilio i sganio’r ffeil.
Os bydd yr Arolygydd Dogfennau yn dod o hyd i'r eitemau canlynol, dewiswch Tynnu’r Cyfan ar gyfer pob un ohonynt:
- sylwadau, adolygiadau a fersiynau (oni bai bod perchennog y ddogfen yn cadarnhau bod angen y rhain)
- gwybodaeth bersonol
Nid oes angen ichi ddileu eitemau eraill y mae’r Arolygydd Dogfennau yn dod o hyd iddynt.
Gwirio hygyrchedd
Defnyddiwch wirydd hygyrchedd mewnol Microsoft i helpu i sicrhau bod eich cynnwys yn hawdd i bobl o bob gallu ei ddarllen a llywio drwyddo.