Yn y canllaw hwn
3. Creu cyfrif defnyddiwr er mwyn ffeilio Treth Trafodiadau Tir ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i greu cyfrif defnyddiwr er mwyn ffeilio Treth Gwarediadau Tirlenwi ar-lein, fel gweithredwr safle tirlenwi.
Bydd angen i’ch sefydliad fod wedi’i gofrestru cyn y gallwch greu cyfrif defnyddiwr.
Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru
Cyn i chi ddechrau
Os nad ydych yn siŵr a oes cyfrif eisoes yn bodoli, e-bostiwch posttgt@acc.llyw.cymru
Bydd angen rhif cofrestru eich sefydliad arnoch gan eich gweinyddwr ar-lein i gofrestru.
Darllenwch ein telerau ac amodau gwasanaethau ar-lein a’n polisi preifatrwydd.
Sut i greu cyfrif defnyddiwr
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost a dewiswch Anfon cod dilysu.
- Bydd cod dilysu gan Microsoft yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost hwn. Mae angen i chi ddefnyddio'r cod o fewn 10 munud.
- Os na fyddwch yn ei dderbyn ar unwaith, edrychwch yn eich ffolder 'sothach' neu 'sbam'. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi ei dderbyn.
- Ar ôl ei dderbyn, rhowch y cod dilysu (peidiwch â gludo) a dewiswch Gwirio'r cod.
- Dewiswch a chadarnhewch gyfrinair, yna dewiswch Creu.
- Bydd y sgrin nesaf yn gofyn am eich enw, rhowch hwn a dewiswch Nesaf.
- Rhowch rif cofrestru eich sefydliad gan eich gweinyddwr ar-lein.
- Rhowch wybod i ni drwy e-bostio posttgt@acc.llyw.cymru pan fyddwch wedi creu defnyddiwr newydd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y cyfrif defnyddiwr yn cael ei actifadu.
Cymorth
Cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid neu e-bostiwch posttgt@acc.llyw.cymru os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'r broses hon.