Yn y canllaw hwn
2. Cofrestru eich sefydliad er mwyn ffeilio Treth Trafodiadau Tir ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru eich sefydliad a’ch gweinyddwr ar-lein er mwyn ffeilio'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ar-lein fel gweithredwr safle tirlenwi.
Dylech ganiatáu hyd at bythefnos i gwblhau'r broses.
Cyn i chi ddechrau
Ni allwch gofrestru sefydliad fwy nag unwaith, felly gwiriwch yn gyntaf a yw eich sefydliad eisoes wedi’i gofrestru ar gyfer ffeilio TGT ar-lein.
Os ydych yn rhiant-gwmni neu'n grŵp corfforaethol sy'n cynrychioli mwy nag un sefydliad, cysylltwch â ni i ofyn am gofrestriad grŵp. Gallwn drefnu cofrestriad ar wahân ar gyfer pob cwmni. E-bost posttgt@acc.llyw.cymru
Os nad ydych yn siŵr a oes cyfrif eisoes yn bodoli, cysylltwch â ni.
Beth fydd ei angen arnoch
Fe fydd arnoch chi angen y wybodaeth ganlynol:
- enw, cyfeiriad a rhif Tŷ'r Cwmnïau eich sefydliad
- rhifau eich trwyddedau Cyfoeth Naturiol Cymru
- gwybodaeth am y safleoedd yr hoffech eu cofrestru, er enghraifft cyfeiriad y safle
- enw, cyfeiriad post, e-bost a rhif ffôn y person fydd yn gweithredu fel gweinyddwr eich cyfrif ar-lein
- manylion prif gyswllt o fewn eich sefydliad
Rhaid i gyfeiriadau e-bost fod yn gyfeiriad e-bost unigol fel 'enw.cyntaf@', ac nid blwch post a rennir fel 'gwybodaeth@'.
I gwblhau’r broses gofrestru
Bydd eich gweinyddwr ar-lein yn derbyn rhif cofrestru eich sefydliad drwy e-bost wedi'i amgryptio o fewn pythefnos.
Rhaid iddynt ddefnyddio hwn i greu eu cyfrif defnyddiwr eu hunain.
Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru
Sut i greu cyfrif defnyddiwr gweinyddwr ar-lein
- Rhowch yr un cyfeiriad e-bost ar gyfer y gweinyddwr ar-lein ag a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru'r sefydliad a dewiswch Anfon cod dilysu.
- Bydd cod dilysu gan Microsoft yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost hwn. Mae angen i chi ddefnyddio'r cod o fewn 10 munud.
- Os na fyddwch yn ei dderbyn ar unwaith, edrychwch yn eich ffolder 'sothach' neu 'sbam'. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi ei dderbyn.
- Ar ôl ei dderbyn, rhowch y cod dilysu (peidiwch â gludo) a dewiswch Gwirio'r cod.
- Dewiswch a chadarnhewch gyfrinair, yna dewiswch Creu.
- Bydd y sgrin nesaf yn gofyn am eich enw, rhowch hwn a dewiswch Nesaf.
- Rhowch rif cofrestru eich sefydliad a anfonwyd atoch gennym.
- Bydd eich cyfrif defnyddiwr yn cael ei actifadu'n awtomatig.
Peidiwch â rhannu manylion eich cyfrif a'ch cyfrinair. Os oes angen mynediad ar rywun arall yn eich sefydliad, gallant greu cyfrif defnyddiwr newydd wedi hynny.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i ni.
Cymorth
Cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid neu e-bostiwch posttgt@acc.llyw.cymru os oes angen unrhyw help arnoch gyda'r broses hon.