Heddiw (dydd Llun, Mai 4) mae’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi datganiad polisi yn amlinellu beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi prifysgolion a myfyrwyr sy’n delio gydag effaith y coronafeirws.
Hefyd pwysleisiodd y Gweinidog ei hymrwymiad i weithio gyda phob llywodraeth yn y DU a Thrysorlys EM i gytuno ar setliad ar gyfer y dyfodol gan ddweud ‘mae graddfa’r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen i gynnal sefydlogrwydd yn mynd y tu hwnt i beth sydd ar gael yng nghyllidebau’r llywodraethau datganoledig’.
Dywedodd y Gweinidog:
Rydyn ni’n parhau â’n hymrwymiad i gefnogi ein prifysgolion gyda’u rhagoriaeth ymchwil, gyda’u darpariaeth profiad myfyrwyr sy’n flaenllaw yn y DU ac fel sefydliadau bro sy’n atebol i’w cymunedau ac i’r genedl.
Rydyn ni wedi cyflwyno datganiad polisi sy’n rhoi sylw i gamau gweithredu newydd a diweddar.
Fel y cydnabyddir gan y sector ar draws y DU, mae graddfa’r gefnogaeth ariannol sydd ei hangen er mwyn cynnal sefydlogrwydd yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael yng nghyllidebau’r llywodraethau datganoledig ac rydyn ni’n parhau â’n hymrwymiad i weithio gyda phob llywodraeth yn y DU a Thrysorlys EM i gytuno ar setliad ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio ar sail pedair gwlad fel rhan o dasglu ymchwil y prifysgolion.
Yn y datganiad, mae’r Gweinidog yn amlinellu’r camau gweithredu newydd a diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi ar waith i roi sylw i faterion, sy’n cynnwys y canlynol:
- rheoli recriwtio
- cynnal sefydlogrwydd i fyfyrwyr
- cefnogi myfyrwyr
- gweithgarwch rhyngwladol
- sefydlogrwydd ariannol i ddarparwyr
- ymchwil ac arloesi
Meddai’r Gweinidog wedyn:
Mae Llywodraeth Cymru yn eithriadol ddiolchgar am y ffordd y mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru wedi delio gyda her argyfwng COVID-19 a gweithio i liniaru’r effaith ar fyfyrwyr a staff.
Maen nhw’n gweithio mewn ffordd sy’n dangos ymdeimlad o genhadaeth ranbarthol, sy’n parhau i nodweddu addysg uwch yng Nghymru.