Strwythur y Flwyddyn Ysgol: asesiad effaith
Sut y bydd newid dyddiadau tymhorau ysgol yn effeithio ar addysgu a dysgu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?
Ystyried Strwythur y Flwyddyn Ysgol
Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio yn cynnwys ymrwymiad i edrych ar ddyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir, er mwyn sicrhau eu bod yn fwy cydnaws â phatrymau bywyd teuluol a gweithio cyfoes. Mae ysgolion a gynhelir yn ysgolion sy'n eiddo yn llwyr ac yn cael eu cynnal yn llwyr gan Awdurdodau Lleol, fel: ysgolion meithrin; ysgolion cynradd, canol ac uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau).
Wrth ystyried patrwm y flwyddyn ysgol, y flaenoriaeth yw sicrhau calendr modern, mwy cyfartal sy'n canolbwyntio ar y canlynol:
Cefnogi llesiant dysgwyr a'r gweithlu.
- Gwella cynnydd a deilliannau addysgol.
- Lliniaru effeithiau anfantais.
- Sicrhau cysondeb â bywyd modern a bywyd yn y dyfodol.
Rydym yn byw ac yn gweithio mewn byd gwahanol iawn i'r byd a oedd ohoni 150 mlynedd yn ôl pan gafodd patrwm y flwyddyn ysgol ei bennu. Mae ein system addysg wedi newid mewn sawl ffordd ers hynny. Mae plant a phobl ifanc bellach yn aros ym myd addysg a dysgu hyd nes eu bod yn 16 oed, mae arholiadau allanol yn rhan arferol o'r broses ac mae mwy o bobl ifanc nag erioed o'r blaen yn mynd ati i astudio yn y brifysgol, ac mae'r drefn cosbi corfforol wedi hen ddiflannu. Rydym wedi gweld datblygiadau arloesol sylweddol o ran y defnydd o dechnoleg ym myd addysg, newidiadau i'r cwricwlwm er mwyn cynnig amrywiaeth ehangach o gyfleoedd dysgu a chamau cadarnhaol tuag at greu amgylchedd dysgu cynhwysol ac amrywiol. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn oll, ar y cyfan, nid yw'r calendr ysgol wedi newid.
Yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) (2019) “today’s innovations often become tomorrow’s commonplace” (OECD, 2019).
“Humans navigate through uncertainty by being adaptable learners. When placed in a novel circumstance – such as a new country, new school or new workplace – people learn the new structure in the environment and adapt or replace old structures or beliefs that are no longer relevant”.
(OECD Future of Education and Skills 2030 OECD Learning Compass 2030 A Series of Concept Notes [ar-lein]. [Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2022])
Wrth ystyried y flwyddyn ysgol ar hyn o bryd, yr agwedd bwysicaf wrth reswm yw sut y gall y ddarpariaeth o 39 o wythnosau (sy'n cyfateb i 380 o sesiynau) bob blwyddyn sicrhau'r deilliannau addysgol gorau posibl i'n plant a'n pobl ifanc. Gwyddom fod cyrhaeddiad addysgol gwell yn arwain at well rhagolygon bywyd ac os gellir strwythuro'r calendr ysgol mewn ffordd sy'n helpu dysgwyr i wneud mwy o gynnydd ac i gyflawni lefelau cyrhaeddiad gwell, rhaid i ni ystyried hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â chymorth i'r dysgwyr hynny o gefndiroedd mwy difreintiedig a'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i'w dysgu.
Fodd bynnag, er ei bod hi'n hanfodol bod strwythur y flwyddyn ysgol yn seiliedig ar gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr ac yn rhoi blaenoriaeth i hynny, rydym yn cydnabod bod gwyliau ysgol yn bwysig er mwyn sicrhau digon o amser hamdden ac amser gorffwys. Ni waeth beth yw'ch oedran, mae plentyndod yn gyfnod lle dylai plant allu chwarae, archwilio ac ymgysylltu â'r byd o'u cwmpas y tu allan i leoliadau dysgu ffurfiol. Ac mae angen amser gyda'i gilydd ar deuluoedd i greu profiadau cadarnhaol a ffurfiannol. Mae cydbwyso'r gofynion hynny ar hyd y flwyddyn ysgol yn golygu nad yw'r opsiynau sy'n cael eu hystyried yn newid cyfanswm nifer wythnosau gwyliau ysgol, er eu bod yn ystyried patrymau gwahanol. Nid ydynt ychwaith yn ystyried gwyliau ysgol sy'n fyrrach na phedair wythnos o hyd, gan gydnabod yr angen am gyfnod hirach o wyliau ar adeg pan fo'r tywydd yn cynnig y cyfleoedd gorau ar gyfer y profiadau holl bwysig hynny i blant a theuluoedd.
Y Safbwynt Polisi
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ategu'r newidiadau a'r gwelliannau blaengar niferus rydym wedi'u gwneud i addysg yng Nghymru yn ddiweddar. Mae gennym Gwricwlwm newydd i Gymru, rhoddir mwy o bwyslais ar ddysgu proffesiynol i athrawon, mae gennym ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a thros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno cymwysterau Gwneud-i-Gymru, sy'n gyson ag uchelgeisiau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi nifer o gynigion sy'n adlewyrchu'r egwyddorion canlynol, a ddatblygwyd yn dilyn gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu a chan gyfeirio at bolisïau ehangach y llywodraeth ar addysg, tegwch, cyrhaeddiad a mynd i'r afael ag anfantais:
Hyd tymhorau cyffredinol gyson
- Tymhorau sy'n cynnwys tua'r un nifer o wythnosau. D.S. Er mai hyd tymhorau cwbl gyfartal fyddai'r drefn ddelfrydol, mae'n bosibl na fydd hynny'n bosibl o ystyried ein bod yn awyddus i gadw gwyliau'r Nadolig dros gyfnod y Nadolig, hyd yn oed os caiff y newidiadau Cam 1 a Cham 2 arfaethedig eu cyflwyno.
- Yn yr un modd, mae tymhorau strwythuredig yn hyrwyddo rhythm mwy sefydlog ar gyfer dysgu parhaus drwy gydol y flwyddyn ac yn helpu athrawon i gynllunio.
- Mae cynllunio'r addysgu a'r dysgu yn seiliedig ar flociau amser cyson hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion ddewis pryd i ymgymryd â'r addysgu hwnnw yn ystod y flwyddyn.
- Gallai hyd tymhorau cyson gefnogi llesiant a lleihau blinder.
- Gallai tymhorau sydd wedi'u strwythuro i flociau cymharol gyfartal fod yn fwy effeithiol o ran cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr na thymhorau a gwyliau sy'n cynnwys hanner wythnosau.
Ailddosbarthu cyfnodau o wyliau
- Gallai gwyliau haf byrrach helpu i liniaru achosion o golli'r hyn a ddysgwyd a chefnogi dysgwyr difreintiedig (yn arbennig). Gellid ailddosbarthu hyd at bythefnos o'r haf i ryw gyfnod arall.
- Gallai ailddosbarthu wythnos o wyliau i dymor yr hydref er mwyn ehangu hanner tymor mis Hydref gefnogi llesiant a lleihau blinder yn ystod y tymor hiraf.
- Gallai gwyliau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn gefnogi llesiant a lleihau blinder.
Caiff y meysydd hyn eu hystyried heb newidiadau i'r canlynol
- Faint o ddysgu a wneir: gan barhau â 190 o ddiwrnodau/380 o sesiynau dysgu bob blwyddyn.
- Parhau â'r ddarpariaeth gydnabyddedig o ran diwrnodau hyfforddi staff (5 diwrnod ar hyn o bryd).
- Dim newid i'r cyfanswm o 13 wythnos o wyliau ysgol.
- Ni fydd gwyliau'r haf yn fyrrach na phedair wythnos.
- Bydd yr holl wyliau cyhoeddus yn gymwys.
Rydym hefyd yn ystyried nad oes modd newid y canlynol
- Rhaid i'r flwyddyn academaidd ddechrau ar 1 Medi neu ar ôl hynny.
- Rhaid i wyliau'r Nadolig gyd-fynd â'r ŵyl.
- Ni ddylai tymor y Gwanwyn ddechrau cyn 1 Ionawr.
- Dim newid i'r diwrnod ysgol cydnabyddedig nac i hyd neu strwythur yr wythnos.
- Bydd cyfnod paratoi o 12 mis o leiaf o'r adeg y caiff unrhyw newidiadau eu cyhoeddi i'r adeg y cânt eu rhoi ar waith.
Gall hyd tymhorau anghyson gael effaith negyddol ar ddysgwyr a'r gweithlu addysg. Pan fydd hyd hanner tymor yn fyr iawn, bydd gan athrawon lai o amser i gyflwyno cynnwys y cwricwlwm a bydd gan ddysgwyr lai o amser i archwilio'r cwricwlwm a allai effeithio ar ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Ar y llaw arall, pan fydd tymhorau yn rhy hir, gall blinder effeithio ar faint o addysgu a dysgu a wneir mewn ystafelloedd dosbarth. Yn yr un modd, gall blinder waethygu amrywiaeth o faterion a all gael effaith negyddol ar ddysgu a llesiant yn yr ystafell ddosbarth, er enghraifft, achosion o darfu lefel isel yn yr ystafell ddosbarth a diffyg ymgysylltu.
Rydym yn cydnabod bod gwyliau'r haf, yn arbennig, yn cyflwyno heriau penodol. Mae achosion o golli'r hyn a ddysgwyd (sef dysgwyr yn mynd ar ei hôl hi yn academaidd yn ystod gwyliau'r ysgol) yn fwy amlwg yn ystod gwyliau'r haf o gymharu â'r gwyliau eraill, oherwydd hyd y gwyliau hynny. Mae hyd egwyl yr haf a strwythur cyffredinol y calendr ysgol hefyd yn creu anfanteision i rai dysgwyr yn fwy nag eraill, er enghraifft, y rhai hynny ag ADY a dysgwyr sydd o dan anfantais gymdeithasol ac economaidd.
Mae hwn yn gyfle i edrych ar y system gyfan, i ystyried a allwn lunio calendr modern mwy cyfartal sy'n lliniaru effeithiau anfantais, yn gwella cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr, yn cefnogi llesiant dysgwyr a'r gweithlu addysg ac sy'n fwy cyson â phatrymau bywyd cyfoes – sef yr holl bethau y mae ein diwygiadau addysgol ehangach yn anelu at eu cyflawni.
Wrth reswm, dysgwyr a'r gweithlu addysg yw'r flaenoriaeth wrth ystyried patrwm y flwyddyn ysgol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall unrhyw ddiwygiadau i'r strwythur effeithio ar sectorau eraill y tu hwnt i'r sector addysg, gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch, trafnidiaeth, gofal plant a chwarae, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus, yn ogystal â grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Gwnaed gwaith ymgysylltu cynhwysfawr eisoes â chynrychiolwyr o'r grwpiau hyn er mwyn cael gwybod eu pryderon a goblygiadau unrhyw newidiadau i'r calendr ysgol. Bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn parhau drwy gydol yr ymgynghoriad.
Newidiadau a Awgrymir
Er mwyn creu calendr ysgol mwy cyfartal sydd wedi'i lunio i gefnogi deilliannau addysgol i bawb, llesiant dysgwyr a'r gweithlu ac i gyd-fynd â phatrymau bywyd cyfoes, rydym yn cynnig calendr ysgol newydd i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae pob opsiwn yn cynnwys yr hyblygrwydd neu weithiau'r gofyniad i ddefnyddio hanner wythnosau er mwyn sicrhau y darperir 190 o ddiwrnodau dysgu.
Rydym yn gofyn am sylwadau ar dri mater:
- (a) Egwyddor diwygio'r flwyddyn ysgol.
- (b) Opsiynau ar gyfer rhoi unrhyw addasiadau i'r flwyddyn ysgol ar waith, gan gynnwys gwneud rhai newidiadau yn 2025 i 2026.
- (c) Dyddiadau tymhorau a awgrymir ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026.
Opsiwn 1: Y calendr ysgol presennol (Y Status Quo)
Byddai'r opsiwn hwn yn golygu cadw'r calendr ysgol presennol. Mae strwythur cyfredol y flwyddyn ysgol yn cynnwys wythnos o wyliau ym mis Hydref, pythefnos o wyliau dros y Nadolig, wythnos o wyliau ym mis Chwefror, pythefnos o wyliau dros y Pasg, wythnos o wyliau ym mis Mai a chwe wythnos o wyliau dros yr haf.
Tymor yr Hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)
Tymor y Gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill ar yr un pryd â gŵyl gyhoeddus y Pasg)
Tymor yr Haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Mai/Mehefin)
- Gwyliau diwedd y tymor: 6 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)
Opsiwn 2: Calendr ysgol newydd (“Yr Opsiwn Newydd”) o 2025 i 2026
Yn yr opsiwn hwn, rydym yn cynnig calendr ysgol newydd â phythefnos o wyliau ym mis Hydref, yr hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau'r gwanwyn (“Y Pasg”) o ŵyl gyhoeddus y Pasg, a phum wythnos o wyliau dros yr haf, i'w cyflwyno o flwyddyn ysgol 2025 i 2026.
Ni fyddai gwyliau mis Chwefror, y Nadolig na mis Mai yn newid yn yr opsiwn hwn.
Tymor yr Hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)
- Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)
Tymor y Gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill y gellid eu datgysylltu o ŵyl gyhoeddus y Pasg)
Tymor yr Haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Mai/Mehefin)
- Gwyliau diwedd y tymor: 5 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)
Opsiwn 3: Calendr Ysgol Newydd (“Yr Opsiwn Newydd a Mwy”) yn y dyfodol
Byddai'r opsiwn hwn ar gyfer calendr ysgol newydd yn cael ei gyflwyno mewn dau gam.
Opsiwn 3 Cam 1
Byddai Cam 1 yn cael ei roi ar waith o flwyddyn ysgol 2025 i 2026 ymlaen a byddai yr un peth ag Opsiwn 2. Yn y cam hwn, rydym yn cynnig calendr ysgol â phythefnos o wyliau ym mis Hydref, yr hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau'r gwanwyn (“Y Pasg”) o ŵyl gyhoeddus y Pasg, a phum wythnos o wyliau dros yr haf.
Tymor yr Hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)
- Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)
Tymor y Gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill y gellid eu datgysylltu o'r Pasg)
Tymor yr Haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Mai/Mehefin)
- Gwyliau diwedd y tymor: 5 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)
Opsiwn 3 Cam 2
Yn ychwanegol at y newidiadau yng Ngham 1, rydym yn cynnig newidiadau ychwanegol i'r calendr ysgol ar ôl rhoi newidiadau Cam 1 ar waith. Mae'r newidiadau ychwanegol hyn yn cynnwys symud i bythefnos o wyliau ym mis Mai a phedair wythnos o wyliau dros yr haf. Gallai newidiadau pellach hefyd gynnwys cynnal diwrnodau canlyniadau'r arholiadau Safon UG/Safon Uwch a TGAU yn ystod yr un wythnos.
Ni fyddai gwyliau mis Chwefror na gwyliau'r Nadolig yn newid yn y naill gam na'r llall o'r opsiwn hwn.
Tymor yr Hydref (mis Medi i fis Rhagfyr)
- Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Hydref/Tachwedd)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Rhagfyr/Ionawr)
Tymor y Gwanwyn (mis Ionawr i fis Mawrth/Ebrill)
- Gwyliau hanner tymor: 1 wythnos (ym mis Chwefror)
- Gwyliau diwedd y tymor: 2 wythnos (ym mis Mawrth/Ebrill y gellid eu datgysylltu o ŵyl gyhoeddus y Pasg)
Tymor yr Haf (mis Ebrill i fis Gorffennaf)
- Gwyliau hanner tymor: 2 wythnos (ym mis Mai/Mehefin)
- Gwyliau diwedd y tymor: 4 wythnos (ym mis Gorffennaf/Awst)
Dyddiadau gweithredu arfaethedig ar gyfer Opsiwn 2 ac Opsiwn 3: Dyddiadau tymhorau blwyddyn ysgol 2025 i 2026
Os bydd cefnogaeth o blaid Opsiwn 2 neu 3 uchod ac yn unol â'r ymrwymiad i ddarparu cyfnod paratoi o 12 mis o leiaf o adeg cyhoeddi unrhyw newidiadau hyd at eu rhoi ar waith, rydym yn cynnig y dyddiadau tymhorau canlynol ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026.
- Tymor yr Hydref 2025 – Dydd Llun 1 Medi i ddydd Gwener 19 Rhagfyr
- Hanner Tymor yr Hydref 2025 – Dydd Llun 20 Hydref i ddydd Gwener 31 Hydref
- Tymor y Gwanwyn 2026 – Dydd Llun 5 Ionawr i ddydd Iau 2 Ebrill (Dydd Gwener y Groglith, 3 Ebrill)
- Hanner Tymor y Gwanwyn 2026 – Dydd Llun 16 Chwefror i ddydd Gwener 20 Chwefror
- Tymor yr Haf 2026 – Dydd Llun 20 Ebrill i ddydd Mercher 29 Gorffennaf
- Hanner Tymor yr Haf 2026 - Dydd Llun 25 Mai i ddydd Gwener 29 Mai
Mae'r dyddiadau hyn yn creu calendr ysgol sy'n cynnwys y canlynol:
- 190 o ddiwrnodau dysgu (defnyddir pum diwrnod o'r opsiwn uchod fel diwrnodau HMS i'w pennu gan y cyrff perthnasol ar lefel leol).
- Pythefnos o wyliau ym mis Hydref, a phum wythnos o wyliau dros yr haf.
- Gwyliau'r gwanwyn wedi'u datgysylltu o'r Pasg er mwyn creu tymhorau sy'n fwy cyfartal o ran hyn.
- Bydd yr holl wyliau eraill yn aros yr un peth â'r rhai cyfredol o ran eu hamseriad a'u hyd.
Ystyriaethau
Rydym yn cydnabod bod yr egwyddor o wyliau haf ysgolion fel y maent ar hyn o bryd wedi'i gwreiddio'n gadarn mewn cymdeithas. Mae llawer o deuluoedd yn manteisio ar y cyfnod hwn i gymryd gwyliau hirach, gan ymweld â theulu estynedig a mwynhau amrywiaeth o brofiadau gartref, yn eu hardal leol a thu hwnt iddi. Mae'n adeg bwysig i blant chwarae, archwilio a dysgu y tu allan i'w haddysg strwythuredig, gan feithrin sgiliau newydd.
Mae hefyd yn gyfnod pwysig i dwristiaeth, busnesau ac atyniadau yng Nghymru. Mis Awst yw'r mis prysuraf i'r sector twristiaeth yng Nghymru a mis Chwefror yw'r mis tawelaf. Fodd bynnag, yn ôl data derbyniadau Cadw ar gyfer mis Gorffennaf a mis Awst 2022, 28 a 29 Awst, sef penwythnos gŵyl y banc, oedd y dyddiadau lle daeth y nifer uchaf o ymwelwyr i safleoedd Cadw. Ar wahân i hynny, penwythnosau ym mis Gorffennaf a mis Awst oedd y dyddiadau mwyaf poblogaidd. Dylid ystyried hyn wrth edrych ar strwythur y flwyddyn ysgol. Mae adran llesiant economaidd yr Asesiad Effaith Integredig yn asesu effaith strwythur y flwyddyn ysgol ar y sector twristiaeth neu atyniadau yng Nghymru.
Mae angen ystyried y tywydd yng Nghymru hefyd, yn enwedig i'r rhai hynny sy'n awyddus i ymgymryd â gweithgareddau awyr agored neu ymweld ag atyniadau awyr agored. Er enghraifft, Rhoddir graddau ‘tywydd da’ i fisoedd rhwng mis Mehefin a mis Medi.
I'n helpu i ddatblygu sail dystiolaeth eang sy'n benodol i Gymru ac fel rhan o waith ehangach i ddatblygu polisïau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwnaethom gomisiynu partneriaid ymchwil allanol i gasglu safbwyntiau mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol gyfredol, gan gynnwys sylwadau o ran sut y gallai newidiadau posibl gefnogi dysgu ac effeithio ar deuluoedd, cymunedau, cyflogwyr a gweithwyr, a grwpiau eraill. Fe'u hamlinellir fel a ganlyn:
Cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022
Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth cyflym i asesu'r dystiolaeth yn 2021 er mwyn ystyried tystiolaeth ryngwladol ar effaith newidiadau i'r flwyddyn ysgol ar gyrhaeddiad, iechyd a llesiant dysgwyr, ac er mwyn ystyried unrhyw effeithiau ar y ddarpariaeth gofal cofleidiol, bywyd teuluol ac effeithiau cymdeithasol eraill.
Roedd rhai o'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys tystiolaeth gyfyngedig a oedd yn awgrymu bod addysg gydol y flwyddyn yn cael effeithiau cadarnhaol bach ar ganlyniadau iechyd plant, er nad oedd llawer o'r effeithiau hyn i'w gweld drwy gydol y flwyddyn ysgol. Ar y cyfan, tystiolaeth ryngwladol gyfyngedig, gymysg ac amhendant a nodwyd gan y gwaith ymchwil ac felly argymhellodd yr adroddiad y dylai unrhyw raglen arfaethedig i newid y calendr ysgol yng Nghymru gynnwys proses o gasglu tystiolaeth drylwyr o ansawdd uchel.
Cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022
Comisiynwyd Beaufort Research i gynnal gwaith ymchwil er mwyn deall canfyddiadau mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol. Fel rhan o'r adroddiad, ymgysylltwyd ag amrywiaeth eang o 13,000 o aelodau cynulleidfa (gan gynnwys rhieni, dysgwyr, perchnogion busnes, ymarferwyr ysgol a'r cyhoedd) drwy arolygon meintiol, grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl. Gofynnwyd cwestiynau i'r cyfranogwyr am eu canfyddiadau o'r calendr ysgol, p'un a oedd diddordeb ganddynt mewn newid y calendr ysgol cyfredol a'u barn ar y strwythurau ar gyfer calendr ysgol amgen a gyflwynwyd iddynt.
Nododd y canfyddiadau allweddol fod y cyfranogwyr yn weddol fodlon ar y flwyddyn ysgol gyfredol, ond eu bod yn agored i ystyried newid. Argymhellodd yr adroddiad fod angen mwy o waith ymgysylltu er mwyn sicrhau bod canfyddiadau gwahanol grwpiau wedi'u cynrychioli'n ddigonol, er enghraifft dysgwyr ag ADY a'u rhieni a gofalwyr.
Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2023
Comisiynwyd Miller Research i ymgymryd â gwaith ymchwil yn ystyried profiadau a chanfyddiadau dysgwyr, rhieni neu gofalwyr ac ymarferwyr ysgol o'r calendr ysgol cyfredol a'r effaith ar gynnydd, cyrhaeddiad, ymddygiad dysgwyr, blinder, llesiant a'r cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd, fel yr argymhellwyd gan Beaufort Research. Mae'r gwaith hwn hefyd yn argymell y dylid datblygu'r sail dystiolaeth drwy ddarparu canfyddiadau a safbwyntiau unigol am y calendr ysgol cyfredol.
Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau yn awgrymu fod cysylltiad rhwng strwythur y calendr ysgol a llesiant dysgwyr ac ymarferwyr ysgol. Yn ogystal, o ran cynnydd a chyrhaeddiad, mae mwy o effaith ar y rhai hynny o gefndiroedd ag anfantais gymdeithasol ac economaidd, ynghyd â dysgwyr ag ADY.
Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2023
Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau adolygiad diwygiedig o'r sail dystiolaeth yn ystyried newidiadau i'r calendr ysgol, ac yn cynnwys canfyddiadau yn deillio o gyfweliadau â rhanddeiliaid mewn awdurdodau lleol (dau o Loegr a saith o'r Alban) lle y gwnaed newidiadau i'r calendr.
Mae'r canfyddiadau allweddol yn dangos tystiolaeth sy'n destun pryder y gall y calendr ysgol cyfredol gael effaith andwyol ar bresenoldeb myfyrwyr ac arwain at golli'r hyn a ddysgwyd yn y byrdymor. Yn arbennig, gallai'r gwyliau haf hir gyfrannu at gynnydd yn y bwlch anfantais. Yn ogystal, roedd cyfweleion o'r farn fod gwyliau hanner tymor hirach ym mis Hydref yn cyfrannu at lesiant staff a myfyrwyr mewn ffordd gadarnhaol.
Ystyried Pum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Meddwl o safbwynt hirdymor
Bydd strwythur y calendr ysgol o fudd yn yr hirdymor, gan y bydd dysgwyr ac athrawon yn llai blinedig, gan y bydd hyd tymhorau yn fwy cyfartal. Yn ogystal, gallai safoni hyd tymhorau (a gwyliau) ac ailddosbarthu'r gwyliau gefnogi cynnydd cynaliadwy gwell i ddysgwyr a'u parodrwydd i ddysgu, gan ar yr un pryd gefnogi'r trefniadau ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm, yn enwedig i ddysgwyr difreintiedig.
Atal
Rhoddir ystyriaeth i'r materion ymarferol sy'n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau i'r calendr ysgol.
Integreiddio, Cydweithio a Chynnwys
Fel y dangoswyd uchod, cynhaliwyd gwaith ymchwil gan Beaufort Research a Miller Research, gan gydweithio â llawer randdeiliaid gwahanol a'u cynnwys yn y broses. Caiff casgliadau'r gwaith ymchwil hwnnw eu hintegreiddio i'r Asesiad Effaith Integredig hwn.
Adran 8: casgliad
8.1 Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu
Rydym wedi ymgysylltu'n ffurfiol ac yn anffurfiol â rhanddeiliaid fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r polisi, gan gynnwys: Awdurdodau Lleol; Penaethiaid; Athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion; Undebau'r gweithlu addysg; Prifathrawon Colegau; ffora'r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae; Comisiynwyr; plant a theuluoedd; Senedd Ieuenctid Cymru a Plant yng Nghymru. Yn ogystal â chynrychiolwyr, grwpiau a sefydliadau o'r sectorau canlynol: lletygarwch; twristiaeth a'r economi ymwelwyr; Ffydd; Gofal Cymdeithasol; cyfiawnder; trafnidiaeth a sefydliadau busnes.
Gellir darparu rhestr lawn o'r rhanddeiliaid hyn a'r dulliau ymgynghori ar gais, os bydd angen.
Er mwyn deall effeithiau newidiadau i'r calendr ysgol yn ffurfiol, caiff ymgynghoriad cyhoeddus llawn 12 wythnos o hyd ei lansio ym mis Tachwedd 2023.
Rydym yn gofyn am sylwadau ar dri mater:
- (a) Egwyddor diwygio'r flwyddyn ysgol.
- (b) Opsiynau ar gyfer rhoi unrhyw addasiadau i'r flwyddyn ysgol ar waith, gan gynnwys gwneud rhai newidiadau yn 2025 i 2026.
- (c) Dyddiadau tymhorau a awgrymir ar gyfer blwyddyn ysgol 2025 i 2026.
Caiff ymatebion o'r ymgynghoriad ac o'r grwpiau ffocws a'r cyfweliadau a gynhelir fel rhan o'r ymgynghoriad eu cynnwys (pan fyddant wedi dod i law) fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig hwn. Mae hyn yn cynnwys 25 o grwpiau ffocws sy'n cynnwys:
- O leiaf chwe grŵp ffocws â gweithwyr addysgu proffesiynol gan gynnwys arweinwyr, athrawon, Cynorthwywyr Addysgu a staff cymorth. Bydd y grwpiau ffocws yn cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
- O leiaf chwe grŵp ffocws â rhieni neu gofalwyr gan gynnwys rhieni ac gofalwyr plant neu pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n mynychu lleoliadau prif ffrwd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Bydd y grwpiau ffocws yn cynnwys rhieni neu gofalwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
- O leiaf chwe grŵp ffocws â dysgwyr. Bydd y grwpiau ffocws yn cynnwys dysgwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd a dysgwyr sy'n mynychu lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
- Cynhelir saith grŵp ffocws arall â chynrychiolwyr o Gyrff Llywodraethu, gweithwyr ieuenctid, y blynyddoedd cynnar, lletygarwch a thwristiaeth.
- Cynhelir cyfweliadau fel rhan o'r ymgynghoriad, gan gynnwys cyfweliadau â grwpiau ffydd a chred a Trafnidiaeth Cymru.
Gwaith Ymchwil Blaenorol
Beaufort Research
Plant a'u cynrychiolwyr
Yn 2021, ymgysylltodd Beaufort Research â nifer eang o blant a phobl ifanc a oedd yn cynnwys 3,131 o ymatebion i arolwg ar-lein dwyieithog i ddysgwyr rhwng 7 ac 18 oed mewn addysg yng Nghymru. Roedd sampl yr arolwg yn cynnwys y canlynol: 1,031 o ddysgwyr rhwng 7 ac 11 oed; 1,045 o ddysgwyr rhwng 12 a 15 oed; 651 o ddysgwyr rhwng 16 a 18 oed a 404 o ddysgwyr na wnaethant nodi eu hoedran.
Yn ogystal â'r arolwg ar-lein, cynhaliwyd tri grŵp ffocws: un grŵp gyda dysgwyr blwyddyn 6 (wyth cyfranogwr); un grŵp gyda dysgwyr blwyddyn 10 (pum cyfranogwr); ac un grŵp gyda dysgwyr blwyddyn 12 (naw cyfranogwr, Cymraeg), cyfanswm o 22 o gyfranogwyr. Roedd y grwpiau ffocws yn cynnwys cymysgedd o ddysgwyr benywaidd (12 cyfranogwr), dysgwyr gwrywaidd (naw cyfranogwr) a dysgwyr anneuaidd (un cyfranogwr), grwpiau economaidd-gymdeithasol a rhanbarthau (Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Bro Morgannwg, Wrecsam ac Ynys Môn). Roedd y sampl yn cynnwys tri chyfranogwr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, dau o ysgolion ffydd a saith o ysgolion â lefel uwch na chyfartaledd yr Awdurdod Lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Fel rhan o'r gwaith ymchwil a wnaed gan Beaufort Research, ymgysylltwyd â nifer o unigolion â nodweddion gwarchodedig gan gynnwys y canlynol: rhieni neu gofalwyr o leiafrifoedd ethnig (2); unigolion sy'n dilyn ffydd (6); unigolion â phlant ag ADY (3) ac unigolion â phlant sy'n mynychu ysgolion â lefel uwch na chyfartaledd yr Awdurdod Lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim (6).
Siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol Cymraeg
Ymgysylltodd Beaufort Research â nifer eang o blant a phobl ifanc, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, drwy dri grŵp ffocws. Roedd hyn yn cynnwys grwpiau ffocws Cymraeg penodol i ddysgwyr (naw cyfranogwr) a rhieni neu gofalwyr dysgwyr mewn ysgolion Cymraeg (11 cyfranogwr).
Pobl eraill y gallai'r cynnig effeithio arnynt
Ymgysylltodd Beaufort Research â nifer eang o gynrychiolwyr sector yn ystod ei waith ymchwil ansoddol. Fel rhan o'r gwaith hwn, cafwyd 8,696 o ymatebion i arolwg ar-lein dwyieithog. Roedd pob un a ymatebodd yn gweithio yn y sector addysg yng Nghymru. Roedd y sampl yn cynnwys y canlynol: 1,125 o benaethiaid a dirprwy benaethiaid; 1,120 o benaethiaid adran; 3,337 o athrawon; 2,018 o gynorthwywyr addysgu a 1,096 o weithwyr addysg eraill (gan gynnwys staff gweinyddol, swyddogion addysg, llywodraethwyr, technegwyr, staff arlwyo ac unigolion sy'n gweithio mewn amrywiaeth o rolau eraill).
Cynhaliwyd tri grŵp ffocws hefyd, yr oedd pob un ohonynt yn cynnwys cymysgedd o staff ysgolion cynradd ac uwchradd, a chymysgedd o ddynion a menywod, cyfanswm o 23 o gyfranogwyr: un grŵp gyda staff cymorth ysgolion; un grŵp gydag athrawon (grŵp Cymraeg); un grŵp gyda phenaethiaid, gan gynnwys 12 o gyfranogwyr sy'n gweithio gyda phlant ag ADY (12); 11 o ysgolion â lefel uwch na chyfartaledd yr Awdurdod Lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim (11); un UCD (1) ac un ysgol ffydd. Roedd cymysgedd o ranbarthau gan gwmpasu Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg.
Yn ogystal â'r gweithdai a'r gwaith ymgysylltu penodol ar gyfer y gweithlu addysg, cynhaliwyd dwy sesiwn ymgysylltu i 98 o randdeiliaid allweddol. Roedd yr unigolion a ddaeth i'r sesiynau hyn yn cynnwys y canlynol: cynrychiolaeth eang o'r sector addysg (cynradd, uwchradd, Addysg Bellach, Awdurdodau Lleol, cymwysterau, rheoleiddio, hyfforddi); busnes (cyllid, hamdden, twristiaeth, trafnidiaeth, gofal plant); gwasanaethau plant a phobl ifanc; sefydliadau ffydd; cyrff cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector sy'n cefnogi pobl ifanc. Yn ogystal, cynhaliwyd 10 cyfweliad manwl ar-lein, gan gynnwys sefydliadau sy'n gysylltiedig ag academia, busnes, addysg, ffydd, iechyd a chefnogi pobl ifanc.
Yn ogystal â'r uchod, cynhaliwyd gwaith maes penodol mewn perthynas â busnesau. Cafwyd 314 o ymatebion i'r arolwg ar-lein dwyieithog gan berchnogion busnes neu uwch-swyddogion sy'n gwneud penderfyniadau neu rheolwyr llinell neu goruchwylwyr. Cynhaliwyd dau grŵp ffocws hefyd gyda chynrychiolwyr o'r sector twristiaeth (gwesty, gwesty gwely a brecwast, bwthyn gwyliau, cwmni teithio), gofal plant (meithrinfeydd), lletygarwch (arlwyo), gweithgynhyrchu (yn gysylltiedig â phlastigion), gwasanaethau proffesiynol (gwasanaeth cymorth busnes) a manwerthu (siop, siop trin gwallt) o gymysgedd o ranbarthau – cyfanswm o 14 o gyfranogwyr.
Miller Research
Plant a'u cynrychiolwyr
Yn 2022, cynhaliodd Miller Research waith ymchwil sylfaenol mewn partneriaeth â Plant yng Nghymru â deg dosbarth mewn wyth ysgol a nodwyd ganddynt drwy ddull samplu cyfleus (roedd dwy ysgol Gymraeg, chwech ysgol Saesneg ac un ysgol arbennig). Roedd y dosbarthiadau yn cwmpasu blynyddoedd 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12. Cymerodd cyfanswm o 73 o ddysgwyr ran. Roedd 34 ohonynt yn fechgyn, 34 ohonynt yn ferched, dau ohonynt yn anneuaidd ac ni chofnodwyd rhywedd tri ohonynt. Roedd 19 o'r 73 yn mynychu ysgol Gymraeg neu ddwyieithog a nododd wyth eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Rhannwyd holiadur hefyd â'r 60 o aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, gan ymgysylltu â dysgwyr ledled Cymru yn ddaearyddol ac o ystod o grwpiau oedran. Cynlluniwyd yr holiadur hwn gan Miller Research ac fe'i dosbarthwyd drwy Plant yng Nghymru.
Pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Ar gyfer y gwaith ymchwil uchod, o blith y 73 o ddysgwyr yr ymgysylltodd Miller Research â nhw, roedd 23 o ddysgwyr yn Ddu, Asiaidd, ethnig lleiafrifol, neu'n sipsiwn, Roma, teithiwr. Yn ogystal â hyn, roedd 24 o'r 73 o ddysgwyr a gymerodd ran yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd gan 16 o'r 73 ADY ac roedd Cymraeg neu Saesneg yn Iaith Ychwanegol (CIY/SIY) i bump o'r 73. O'r grwpiau ffocws i staff, roedd pedair ysgol yn cynrychioli ysgolion ffydd, roedd dau grŵp ffocws yn cynrychioli rhieni neu gofalwyr dysgwyr sy'n mynychu ysgolion arbennig, a chynhaliwyd un grŵp ffocws i rieni neu gofalwyr dysgwyr ag ADY sy'n mynychu ysgolion prif ffrwd.
Siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol Cymraeg
Ymgysylltodd Miller Research ag 19 o ddysgwyr o ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfanswm o 11 o grwpiau ffocws â rhieni neu gofalwyr, yr oedd pedwar ohonynt yng Nghymru yn unig. Cafodd staff o dair ysgol gynradd Gymraeg a phump ysgol uwchradd Gymraeg hefyd eu cynnwys.
Pobl eraill y gallai'r cynnig effeithio arnynt
Ymgysylltodd Miller Research yn benodol â dysgwyr, rhieni neu gofalwyr a'r gweithlu addysg er mwyn deall canfyddiadau o'r calendr ysgol cyfredol.
Roedd hyn yn cynnwys y canlynol:
- 10 grŵp ffocws â dysgwyr (73 o ddysgwyr).
- 11 o grwpiau ffocws â rhieni neu gofalwyr (62 o rieni neu gofalwyr).
- 28 o grwpiau ffocws ag ymarferwyr ysgol (wedi'u rhannu yn ôl ysgolion cynradd neu uwchradd neu arbennig neu UCD, cyfrwng iaith a rolau staff).
- Dau grŵp ffocws â gweithwyr ieuenctid.
8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol
Byddai'r effeithiau uniongyrchol mwyaf arwyddocaol yn deillio o newidiadau i'r flwyddyn ysgol ar ddysgwyr mewn lleoliadau a gynhelir, eu rhieni neu teuluoedd a'r gweithlu addysg, gan y byddai strwythur y calendr ysgol yn wahanol i'r Status Quo. Ysgolion a gynhelir yw'r ysgolion hynny a gaiff eu hariannu'n llwyr gan Awdurdod Lleol. Mae hyn yn cynnwys ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd ac UCDau. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd effeithiau cadarnhaol a negyddol hefyd ar grwpiau eraill, gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch, trafnidiaeth, gofal plant a chwarae, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus, yn ogystal â'r cyhoedd ehangach.
Mae agweddau cadarnhaol newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn cynnwys manteision addysgol. Mae pennu hyd tymhorau mwy cyfartal yn cynnig dwy fantais bwysig o ran cynnydd dysgwyr. Gallai'r strwythur hwn helpu dysgwyr i wneud cynnydd mwy cyson, gan eu galluogi i atgyfnerthu eu dysgu'n well ac adeiladu arno dros amser. Yn ogystal, gallai'r strwythur hwn gynnig mwy o gyfle i ysgolion gynllunio cynnydd sy'n fwy cyson drwy gydol y flwyddyn ysgol ac i ddefnyddio pob tymor yn llawn. Mae'r rhesymau penodol dros ystyried newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn cynnwys y canlynol:
- Rheswm 1: Calendr ysgol wedi'i newid i ddiwallu anghenion dysgwyr dan anfantais a'u teuluoedd yn well.
- Rheswm 2: Calendr ysgol wedi'i newid i gefnogi llesiant dysgwyr ac athrawon yn well a lleihau blinder.
- Rheswm 3: Calendar ysgol wedi'i newid i gefnogi'r dysgu a'r addysgu yn well.
- Rheswm 4: Calendar ysgol wedi'i newid i gefnogi patrymau byw a gweithio modern yn well.
Mae'r manteision pellach yn cynnwys y canlynol:
- Tymhorau â strwythur tebyg a gwyliau hanner tymor hirach er mwyn hyrwyddo rhythm mwy sefydlog ar gyfer dysgu parhaus drwy gydol y flwyddyn, gyda chyfnodau rheolaidd i ymlacio a dychwelyd
- Hyd tymhorau mwy cyson a rhagweladwy er mwyn helpu athrawon i gynllunio ymlaen llaw
- Mae cynllunio'r addysgu a'r dysgu yn seiliedig ar flociau amser cyson hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion ddewis pryd i ymgymryd â'r addysgu hwnnw yn ystod y flwyddyn
- Mae cael cyfnod penodol o amser ar gyfer y cyfnod sy'n arwain at arholiadau allanol yn cynnig cyfle cyfartal i bob dysgwr, gan sicrhau na fyddant o dan anfantais o ganlyniad i gael cyfnod byrrach cyn yr arholiadau
- Bydd gwyliau hanner tymor hirach yn ystod y tymor hiraf (hydref) o fudd i ddysgwyr a'r gweithlu addysg o ran llesiant
- Gallai gwyliau haf byrrach gynnig manteision posibl i ddysgwyr mewn ysgolion Cymraeg nad oes ganddynt lawer o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol
- Manteision posibl i ddysgwyr ag ADY a fydd o bosibl yn gwerthfawrogi cysondeb a strwythur
Mae'n bosibl y bydd agweddau cadarnhaol ychwanegol yn gysylltiedig â newidiadau i'r flwyddyn ysgol mewn perthynas â defnydd teuluoedd o ofal plant a lleihau gwyliau'r haf. Er nad yw ailddosbarthu wythnosau gwyliau yn dileu'r angen am ofal plant am 13 wythnos o'r flwyddyn, gallai gwyliau sydd wedi'u dosbarthu'n fwy cyson gynnig ffordd haws i deuluoedd gyllidebu ar gyfer cost blociau o ofal plant.
Mae llawer o deuluoedd yn dibynnu ar nifer o wahanol drefniadau i sicrhau gofal priodol i'w plentyn. Gall hyn gynnwys gofal plant anffurfiol, a gaiff ei ddarparu gan deulu a ffrindiau neu ofal mwy ffurfiol gan ddarparwyr gofal plant fel clybiau y tu allan i'r ysgol, gwarchodwyr plant neu glybiau ar ôl ysgol a ddarperir gan feithrinfeydd. Yn ogystal, gallai rhieni ddefnyddio clybiau anrheoleiddiedig fel clybiau chwaraeon neu glybiau wedi'u trefnu er mwyn iddynt allu gweithio oriau hwy, yn ogystal â chynnig gweithgaredd cyfoethogi i'w plant.
Mae'r systemau hyn yn aml yn gweithio'n dda yn ystod tymor yr ysgol ac yn cynnig ffordd gymharol fforddiadwy i rieni allu gweithio mwy o oriau. Fodd bynnag, yn ystod gwyliau'r ysgol, mae teuluoedd yn aml o dan bwysau i ddod o hyd i ddarpariaeth gofal hirach a'i hariannu, i'w galluogi i barhau i weithio neu astudio.
Canfu'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant a Parentkind (2022) fod 56% o gyfranogwyr o blaid blwyddyn ysgol fwy cyson a gwyliau haf byrrach. Roedd teuluoedd hefyd yn cefnogi'r cynnig hwn, gan gyfeirio at anawsterau presennol. Yn ogystal, nododd Beaufort Research (2022) fod y ffaith bod diffyg trefn reolaidd yn ystod gwyliau'r haf yn arwain at ddiflastod ymhlith dysgwyr tua diwedd y gwyliau yn ogystal â heriau o safbwynt rhianta, gan gynnwys “trefnu a thalu am ofal plant a gorfod cymryd gwyliau teuluol ar yr adeg ddrutaf o’r flwyddyn” yn agweddau negyddol sy'n gysylltiedig â'r calendr ysgol cyfredol.
Bwriedir i'r uchod fod yn ganlyniadau cadarnhaol mewn perthynas â newidiadau i'r flwyddyn ysgol, ond cydnabyddir na fydd pawb yn gweld effaith gadarnhaol yn sgil y newidiadau arfaethedig. Mae Undebau'r gweithlu addysg wedi nodi eu pryderon yn glir o ran ystyried unrhyw ddiwygiad i'r calendr ysgol ac mae eu hadborth yn awgrymu y byddai'n well ganddynt gadw'r ‘Status Quo’. Mae eu pryderon penodol yn cynnwys amseru'r newidiadau arfaethedig a'r rhesymeg drostynt.
Gallai unrhyw ddiwygiadau i'r flwyddyn ysgol effeithio ar lawer o sectorau neu unigolion, gan fod cysylltiad amlwg rhwng sawl agwedd ar gymdeithas a strwythur y calendr ysgol. Mae'r sector twristiaeth, yn arbennig, wedi lleisio pryderon am y polisi. Mae rhai aelodau o'r sector twristiaeth yn pryderu am leihau gwyliau'r haf a lleoliad unrhyw wythnosau a gaiff eu hailddosbarthu. Ceir pryderon hefyd o ran y posibilrwydd y gallai cyfnodau gwyliau Cymru fod yn wahanol i gyfnodau gwyliau Lloegr.
Felly, er mwyn cael gwybod am unrhyw bryderon a sylwadau cadarnhaol mewn ymateb i ailstrwythuro'r flwyddyn ysgol gyfredol, caiff y ddogfen hon ei chyhoeddi ar ffurf ddrafft, er mwyn i'r ymgynghoriad cyhoeddus llawn 12 wythnos o hyd a gaiff ei lansio ym mis Tachwedd 2023 gynnig cyfle i randdeiliaid a sefydliadau gyfleu unrhyw bryderon neu effeithiau yr hoffent eu nodi. Wedyn, caiff y rhain eu hystyried yn dilyn yr ymgynghoriad pan ddaw i ben ym mis Chwefror 2024.
8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
Yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a/neu,
Yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae llesiant yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd emosiynol ac yn ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru “Llesiant Cymru, 2022” mae saith nod llesiant.
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
“Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru" (Llywodraeth Cymru, 2021). Mae'r nod llesiant yn arbennig o bwysig mewn lleoliadau addysg.
Mae hybu llesiant mewn ysgolion yn rhan annatod o ddysgu ac ymgysylltu. Yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) “students need to develop good physical and emotional well-being if they are to learn effectively” (OECD, 2019).
Yn ogystal, yn 2023, mae mwy o bwyslais ar lesiant mewn ysgolion nag erioed o'r blaen:
“Whereas student learning outcomes and academic achievements traditionally define the effectiveness and the quality of their school experience, student well-being and students’ learning experiences – the quality of “learning processes” – have risen in value and expanded the focus beyond “outcomes”.
(OECD (2019) OECD Future of Education and Skills 2030 OECD Learning Compass 2030 A Series of Concept Notes [ar-lein] [Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2022]).
Rydym yn gofyn y canlynol:
- A ellid cefnogi neu gwella llesiant dysgwyr a'r gweithlu addysg yn well drwy gyflwyno strwythur amgen ar gyfer y flwyddyn ysgol?
- A allai lleihau nifer yr wythnosau dysgu yn nhymor yr hydref drwy ychwanegu wythnos o wyliau ychwanegol i wyliau mis Hydref gefnogi llesiant a lleihau blinder yn ystod y tymor hiraf?
- Ai'r strwythur cyfredol (sy'n cynnwys hyd tymhorau anghyson a gwyliau anghyson) yw'r strwythur cywir o ran hybu llesiant a lleihau blinder?
- A yw'r strwythur cyfredol, a luniwyd 150 mlynedd yn ôl, yn briodol ar gyfer trefniadau byw, dysgu a gweithio modern?
Gallai hyd tymhorau (a gwyliau) mwy safonedig ac ailddosbarthu'r gwyliau gefnogi cynnydd cynaliadwy i ddysgwyr a'u parodrwydd i ddysgu yn well, gan ar yr un pryd gefnogi'r trefniadau ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm.
Gallai diwygio'r flwyddyn ysgol gyfrannu at y saith nod llesiant. Nodir ystyriaethau isod:
Llewyrchus
Hoffem wybod sut y gallai newid y flwyddyn ysgol drwy gyflwyno hyd tymhorau (a gwyliau) mwy safonedig gefnogi cynnydd dysgwyr yn well drwy gynnig cyfleoedd mwy rheolaidd i ymlacio a dychwelyd. Yn y pen draw, gallai hyn helpu dysgwyr i gyflawni'n uwch er mwyn dod yn fwy llewyrchus.
Cydnerth
Hoffem wybod sut y gallai hyd tymhorau mwy cyson helpu i feithrin cydnerthedd dysgwyr.
Iachach
Hoffem wybod sut y gellid ystyried strwythur y calendr ysgol, gan gynnwys dosbarthiad cyfnodau gwyliau a chysondeb o ran hyd tymhorau, fel ffordd o wella iechyd meddwl a llesiant dysgwyr a'r gweithlu addysg.
Mwy Cyfartal
Hoffem wybod sut y gallai ystyried dyddiadau mwy cyfartal a chyson ar gyfer tymhorau, lle byddai'r rhan fwyaf o'r hanner tymhorau rhwng chwech a saith wythnos o hyd, yn hytrach na'r strwythur cyfredol o hanner tymhorau rhwng pump ac wyth wythnos o hyd, helpu i greu tegwch gan y byddai dysgwyr yn cael yr un nifer o wythnosau dysgu bob tymor o flwyddyn i flwyddyn.
Diwylliant a'r Gymraeg
Rydym o'r farn y byddai dosbarthu gwyliau'r ysgol yn wahanol yn cefnogi'r Gymraeg drwy leihau hyd gwyliau'r haf a'r ‘bloc’ o amser y mae dysgwyr mewn ysgolion Cymraeg yn ei dreulio heb ddod i gysylltiad â'r Gymraeg, yn enwedig i ddysgwyr â gwahanol lefelau mynediad at y Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
Yn Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang: Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i osgoi, lleihau neu liniaru effaith negyddol
Er mwyn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effaith negyddol sy'n gysylltiedig â newidiadau i'r flwyddyn ysgol, gan gynnwys i grwpiau ehangach fel busnesau, twristiaeth, gofal plant a chwarae, rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â chynrychiolwyr o'r sectorau hyn er mwyn nodi eu pryderon. Neges gyson gan randdeiliaid fu'r awydd am gyfnod gweithredu o 12 mis o leiaf o adeg cyhoeddi'r newidiadau i adeg eu gweithredu, er mwyn rhoi cyfle i sectorau baratoi.
Felly rydym yn anelu at gyhoeddi unrhyw newidiadau ym mis Ebrill 2024 i'w gweithredu ym mis Medi 2025 ar y cynharaf (cyfnod gweithredu o 16 mis) er mwyn cefnogi rhanddeiliaid.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
Ar ôl gweithredu unrhyw newidiadau i'r flwyddyn ysgol, gellid cwblhau gwerthusiad o'r newidiadau ar ôl blwyddyn neu ar ôl dwy flynedd er mwyn asesu'r amrywiol effeithiau cyn gwneud unrhyw newidiadau pellach. Gallai'r gwerthusiad hwn gynnwys yr effeithiau ar y canlynol:
- Cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr
- Lefelau blinder a llesiant dysgwyr a'r gweithlu addysg
- Presenoldeb ac absenoldeb dysgwyr a'r gweithlu addysg
- Lliniaru effeithiau anfantais
- Cydraddoldeb mewn addysg
- Bywyd teuluol a chyflogaeth
- Effeithiau economaidd
- Canlyniadau eraill anfwriadol
Yn ogystal, mae'r ymgynghoriad hwn yn ategu'r newidiadau a'r gwelliannau blaengar niferus rydym wedi'u gwneud i addysg yng Nghymru yn ddiweddar. Mae gennym Gwricwlwm newydd i Gymru, rhoddir mwy o bwyslais ar ddysgu proffesiynol i athrawon, mae gennym ffyrdd newydd o gefnogi dysgwyr ag ADY a thros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno cymwysterau 'Gwneud-i-Gymru', sy'n gyson ag uchelgeisiau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Gall hyd tymhorau anghyson gael effaith negyddol ar ddysgwyr a'r gweithlu addysg. Pan fydd hyd hanner tymor yn fyr iawn, bydd gan athrawon lai o amser i gyflwyno cynnwys y cwricwlwm a bydd gan ddysgwyr lai o amser i archwilio'r cwricwlwm a allai effeithio ar ansawdd yr addysgu a'r dysgu. Ar y llaw arall, pan fydd tymhorau yn rhy hir, gall blinder effeithio ar faint o addysgu a dysgu a wneir mewn ystafelloedd dosbarth. Yn yr un modd, gall blinder waethygu amrywiaeth o faterion a all gael effaith negyddol ar ddysgu a llesiant yn yr ystafell ddosbarth, er enghraifft, achosion o darfu lefel isel yn yr ystafell ddosbarth a diffyg ymgysylltu.
Rydym yn cydnabod bod gwyliau'r haf, yn arbennig, yn cyflwyno heriau penodol. Mae achosion o golli'r hyn a ddysgwyd (sef dysgwyr yn mynd ar ei hôl hi yn academaidd yn ystod gwyliau'r ysgol) yn fwy amlwg yn ystod gwyliau'r haf o gymharu â'r gwyliau eraill, gan fod gwyliau'r haf yn hirach.
Mae hyd gwyliau'r haf a strwythur cyffredinol y calendr ysgol hefyd yn creu anfanteision i rai dysgwyr yn fwy nag eraill, er enghraifft, y rhai hynny ag ADY a dysgwyr sydd o dan anfantais gymdeithasol ac economaidd.
Felly dyma gyfle i edrych ar y system gyfan, er mwyn ystyried a allwn lunio calendr modern mwy cyfartal sy'n:
- Lliniaru effeithiau anfantais
- Gwella cynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr
- Cefnogi llesiant dysgwyr a'r gweithlu addysg
- Sicrhau mwy o gysondeb â bywyd modern
Oll yn bethau y mae ein diwygiadau addysgol ehangach yn anelu at eu cyflawni.