Strategaethau ac ymyriadau i gefnogi'r diwydiant pren: adolygiad llenyddiaeth (crynodeb)
Mae'r adolygiadau hyn yn archwilio strategaethau presennol i annog rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, gan ddefnyddio pren ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel a'r manteision cymdeithasol cysylltiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir a nodau
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn y Rhaglen Lywodraethu - Diweddariad i greu strategaeth ddiwydiannol pren a all ddatblygu a chynnal cynhyrchu a phrosesu gwerth uchel i bren Cymru. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn gan argymhellion gan y Tasglu Coed a Phren i ddatblygu Strategaeth Ddiwydiannol Pren.
Comisiynodd y Tîm Polisi Strategaeth Ddiwydiannol Pren y tîm Ymchwil i'r Hinsawdd ac i'r Amgylchedd yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i gynnal adolygiad llenyddiaeth o'r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch datblygu diwydiant pren gwerth uchel yn effeithiol. Yn yr adolygiad hwn, mae diwydiant pren gwerth uchel yn ymwneud â defnyddio pren o ansawdd uchel ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel, er enghraifft, lle mae gan gynhyrchion ddefnyddiau hirhoedlog neu le mae ganddynt y gallu i gael eu hailddefnyddio.
Nod yr adolygiad llenyddiaeth oedd ateb y pum cwestiwn ymchwil canlynol, a gafodd eu llywio gan chwiliad llenyddiaeth cychwynnol a gynhaliwyd gan Wasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2022.
- Beth mae gwledydd eraill wedi'i wneud / pa fath o fodelau cyflawni y mae gwledydd eraill wedi'u mabwysiadu sydd wedi bod yn effeithiol wrth wella cynhyrchiant coetiroedd ar yr un pryd â chefnogi bioamrywiaeth, bioddiogelwch ac atafaelu carbon?
- Pa ymyriadau y mae llywodraethau wedi'u rhoi ar waith, drwy'r gadwyn gyflenwi, mewn gwledydd eraill i annog defnyddio pren mewn cynhyrchion gwerth uchel?
- Sut mae gwledydd eraill wedi llwyddo i hyrwyddo'r defnydd o gynhyrchion pren yn y diwydiant adeiladu
- Sut mae gwledydd eraill wedi mynd ati’n effeithiol i gynyddu derbyniad a gweithrediad arferion coedwigaeth gynhyrchiol ymhlith ffermwyr?
- Beth mae llenyddiaeth bresennol yn ei nodi yw manteision cymdeithasol diwydiant pren gwerth uchel, gan gynnwys manteision cymdeithasol sy'n deillio o gyfleoedd economaidd?
Cafodd y cwestiynau ymchwil eu grwpio i dri maes eang a oedd yn sail i dri chwiliad llenyddiaeth unigol pellach.
- Modelau cyflawni rhyngwladol, enghreifftiau, ac arfer gorau wrth hyrwyddo coetiroedd cynhyrchiol ac annog defnyddio pren ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel ar draws y gadwyn gyflenwi.
- Derbyn a gweithredu arferion coedwigaeth gynhyrchiol ymhlith ffermwyr.
- Manteision cymdeithasol diwydiant pren gwerth uchel.
Cynhaliwyd y tri chwiliad rhwng 17 Hydref a 28 Tachwedd 2023. Roedd chwiliadau wedi'u cyfyngu i ffynonellau tystiolaeth o Ewrop a Chanada ac yn ymwneud â’r gwledydd hyn oherwydd eu tebygrwydd daearyddol i Gymru. Penderfynwyd cynnwys Awstralia a Seland Newydd yn yr adolygiad llenyddiaeth hefyd oherwydd cyffredinrwydd tir amaethyddol yn y ddwy wlad.
Wrth adolygu'r canfyddiadau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn, dylid ystyried cyfyngiadau’r astudiaeth. Prif gyfyngiadau'r adolygiad llenyddiaeth hwn oedd bod y termau chwilio a ddefnyddiwyd wedi dylanwadu ar y ffynonellau tystiolaeth a ddychwelwyd. Efallai fod rhagor o lenyddiaeth berthnasol wedi'i chyhoeddi na chafodd ei nodi gan nad oedd y termau chwilio a ddefnyddiwyd wedi'i chipio. Yn ogystal, ychydig o werthusiadau a thystiolaeth empirig a nodwyd drwy'r adolygiad llenyddiaeth hwn; fodd bynnag, gallai hyn fod oherwydd cryn ffocws ar strategaethau rhyngwladol ac arfer gorau. Mae'r strategaethau hyn yn nodi'r camau bwriedig i'w cymryd ac ychydig iawn o werthusiadau o'r camau hyn a ddeilliodd o'r termau chwilio. Hwyrach fod hyn oherwydd mai dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd y strategaeth.
Prif ganfyddiadau
Dulliau o wella cynhyrchiant coetiroedd ar yr un pryd â chefnogi bioamrywiaeth, bioddiogelwch ac atafaelu carbon
Ar y cyfan, mae dulliau o wella cynhyrchiant coetiroedd – y potensial ar gyfer cynaeafu coed er budd masnachol - a chefnogi bioamrywiaeth, bioddiogelwch ac atafaelu carbon yn dod o dan y term ambarél rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy (SFM).
Nododd y llenyddiaeth ffyrdd y mae SFM wedi'i roi ar waith yn rhyngwladol, gan gynnwys drwy ddulliau megis coedwigaeth agos at natur (CNF) a choedwigaeth gorchudd parhaus (CCF). Mae tystiolaeth wedi amlygu bod y dulliau hyn yn cael eu defnyddio ledled Ewrop. Mae dulliau CNF / CCF yn amrywio ond maent fel arfer yn cynnwys cadw o leiaf rhan o'r coetir bob amser – gall hyn fod drwy blannu gwahanol rywogaethau o goed. Mae llenyddiaeth yn awgrymu y gallai hyn gynnig manteision megis cynyddu amrywiaeth rhywogaethau coed sy'n lleihau'r risg o glefyd ac yn lleihau'r tebygolrwydd o darfu ar y gadwyn gyflenwi. Gallai llai o aflonyddu ar bridd drwy lai o gwympo coed hefyd gynyddu cyfraddau atafaelu carbon net coetiroedd.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth hefyd wedi canfod, dros gyfnodau byrrach o amser (2022 i 2050), fod gan blanhigfeydd pren meddal sy'n tyfu'n gyflymach, a reolir yn weithredol drwy deneuo a llwyrgwympo, mwy o botensial atafaelu carbon na senarios eraill a fodelwyd, gan gynnwys CCF. Dros y tymor hwy (2022 i 2100), roedd y gwahaniaeth mewn atafaelu carbon rhwng senarios rheoli yn llai amlwg.
Mae'r dystiolaeth a nodwyd yn awgrymu bod arferion SFM wedi cael eu hyrwyddo'n rhyngwladol drwy gyflwyno safonau coedwigaeth y mae'n rhaid i ddulliau rheoli coetiroedd lynu atynt. Yn y DU, gan gynnwys Cymru, mae Safon Coedwigaeth y DU yn berthnasol i reoli coedwigoedd.
Yn ogystal â chyflwyno safonau, mae'r llenyddiaeth a nodwyd yn awgrymu bod ardystiadau ar gyfer cynhyrchion pren wedi'u cyflwyno yn seiliedig ar y farn y bydd yn hyrwyddo ymddiriedaeth mewn cynhyrchion, gyda rhywfaint o ddefnydd wedi’i ganfod o brosiectau pren ardystiedig mewn adeiladau. Roedd i ba raddau y mae hyn wedi meithrin ymddiriedaeth yn llai eglur yn y llenyddiaeth a adolygwyd.
Mae cynlluniau grant hefyd wedi'u cyflwyno i gefnogi coetiroedd i ymgymryd ag arferion rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy. Mae gan Gymru amrywiaeth o gynlluniau ar gyfer cynllunio a chreu coetir ac yn flaenorol roedd wedi darparu'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren gyda chyllid gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae strategaethau a chynlluniau o bob rhan o Ewrop yn nodi pwysigrwydd rhannu gwybodaeth ac addysg i gefnogi gweithredu arferion rheoli cynaliadwy, ond nid yw'r ffynonellau a nodwyd yn nodi sut y gellid cyflawni hyn yn ymarferol neu ddulliau penodol sydd wedi bod yn llwyddiannus.
Ymyriadau llywodraeth ar hyd y gadwyn gyflenwi i annog defnyddio pren ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel
Mae llawer o'r dystiolaeth a nodwyd drwy'r adolygiad llenyddiaeth hwn ar y gadwyn gyflenwi pren yn canolbwyntio ar y defnydd terfynol, yn enwedig sut i hyrwyddo defnyddio pren fel cynnyrch adeiladu.
Mae llywodraethau ledled Ewrop a Seland Newydd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddiad mewn ymchwil i gefnogi'r diwydiant pren. Mae meysydd a awgrymir ar gyfer hyrwyddo ymchwil yn cynnwys technoleg newydd, rheoli coedwigoedd ac iechyd coedwigoedd, y gadwyn gyflenwi a phren yn y diwydiant adeiladu. Yn Seland Newydd, mae Timber Design Centre wedi'i chreu fel pwynt cyswllt clir ar gyfer gwybodaeth a chyngor ar bren yn y diwydiant adeiladu.
Mae rhai gwledydd yn Ewrop, yn ogystal â Seland Newydd, wedi cyflwyno deddfwriaeth neu ddiweddariadau i godau adeiladu sy'n cefnogi defnyddio pren yn y diwydiant adeiladu naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno gofynion i ganran o ddeunyddiau pren gael eu defnyddio mewn gwaith adeiladu, cyflwyno dadansoddiadau cylch bywyd a'r defnydd o bren mewn mathau penodol o adeiladau (adeiladau uchder canolig). Mae'r rhan fwyaf o'r newidiadau hyn wedi digwydd yn ddiweddar (yn ystod y 3 blynedd diwethaf) ac ni amlygwyd unrhyw dystiolaeth yn yr adolygiad i bennu effeithiau hynny eto.
Mae strategaethau ar draws gwledydd Ewrop a Seland Newydd wedi nodi pwysigrwydd addysg a rhannu gwybodaeth ynghylch manteision defnyddio pren fel cynnyrch adeiladu, yn bennaf i weithwyr proffesiynol y diwydiant ond hefyd i aelodau'r cyhoedd. Fel y cyfeiriwyd ato uchod, mae Seland Newydd wedi cyflwyno canolfan ddylunio i wneud hyn.
Mae rhai llywodraethau wedi cyflwyno gofynion i adeiladau'r llywodraeth neu'r sector cyhoeddus gael eu hadeiladu gan ddefnyddio pren neu mewn ffordd sy'n lleihau'r ôl troed carbon. Y bwriad yw y gall llywodraethau arwain drwy esiampl i annog prosiectau adeiladu preifat i ddefnyddio pren, er na nododd yr adolygiad llenyddiaeth hwn a yw hyn wedi digwydd.
Hyrwyddo arferion coedwigaeth gynhyrchiol ymhlith ffermwyr
Mae tystiolaeth wedi dangos mai tir fferm yw 90% o'r tir a ddefnyddir yng Nghymru, sy'n awgrymu y bydd yn bwysig ymgysylltu â ffermwyr er mwyn annog arferion coedwigaeth gynhyrchiol ledled Cymru.
Fel yn y ddwy is-adran arall, nodwyd yn y llenyddiaeth fod hybu a rhannu gwybodaeth yn bwysig. Mae ffynonellau'n tynnu sylw at fanteision y gall coetiroedd eu cynnig i ffermydd ar dir amaethyddol a reolir yn weithredol i gysgodi da byw a gwella rheoleiddio dŵr, yn ogystal â'r manteision ariannol a all ddod o werthu cynhyrchion coetir. Mae astudiaethau achos wedi'u nodi yn yr adolygiad llenyddiaeth sy'n rhoi enghreifftiau o sut mae ffermwyr wedi arallgyfeirio i reoli coetiroedd. Nid oedd yr adolygiad mor llwyddiannus wrth nodi a fu'r rhannu gwybodaeth hwn yn llwyddiannus neu ba ddulliau penodol oedd yn effeithiol.
Mae'r ffynonellau a nodwyd yn tynnu sylw at y defnydd o gymorth ariannol i ffermwyr i annog arallgyfeirio i reoli coedwigaeth, ond mae'r ffynonellau hyn yn llai clir ynghylch a fyddai'r cymorth ariannol hwn yn arwain at y fabwysiadu dulliau rheoli coedwigaeth ar gyfer coedwigoedd cynhyrchiol ymhlith ffermwyr yn yr hirdymor. Yng Nghymru, nodwyd cynlluniau creu coetir a rheoli coetir Glastir fel enghreifftiau o gymorth ariannol i ffermwyr, er nad oedd y rhain ar gyfer coedwigaeth gynhyrchiol yn benodol.
Nodwyd camau gweithredu uniongyrchol gan lywodraethau fel ffordd o annog ffermwyr i blannu coed at ddibenion masnachol. Yn Seland Newydd, roedd hyn yn cynnwys cynghorwyr sy'n gallu mynd ati i rannu gwybodaeth â ffermwyr, sy’n rhywbeth sydd wedi’i argymell yn Lloegr. Roedd deddfwriaeth yn ffordd arall y bydd plannu a rheoli coed, gan gynnwys ar gyfer coedwigaeth gynhyrchiol, ymysg ffermwyr yn cael eu hannog ledled y DU. Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yn cynnwys amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy y gellid eu cefnogi drwy blannu coed.
Manteision cymdeithasol defnyddio pren ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel
Mae'r llenyddiaeth a nodwyd yn awgrymu y gall pren heb ei orchuddio mewn prosiectau adeiladu ddod â manteision seicolegol a ffisiolegol i bobl, gan gynnwys pwysedd gwaed is a chyflymder y galon is a llai o orbryder a gorflinder goddrychol.
Yn anuniongyrchol, mae mantais arall a amlygwyd yn ymwneud â chefnogi'r cyflenwad tai. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall pren mewn prosiectau adeiladu gefnogi'r cyflenwad tai drwy amseroedd adeiladu byrrach, gan ganiatáu i fwy o dai gael eu hadeiladu mewn cyfnod byrrach o amser. Awgrymir y gallai hyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai drwy adeiladu tai yn gyflymach. Yng Nghymru, mae safonau ansawdd wedi'u cyflwyno ar gyfer tai fforddiadwy er mwyn cynyddu cyfraddau storio carbon. Gallai pren fel cynnyrch adeiladu gefnogi'r safon hon drwy ei allu i storio carbon.
Nododd y llenyddiaeth ystod o dystiolaeth ar effaith twf y diwydiant pren ar swyddi. Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd nifer y swyddi yn y sector coedwigaeth yn debygol o gynyddu dros amser i gefnogi sector pren a choedwigaeth sy'n tyfu. Awgrymwyd y bydd natur rolau'n newid wrth i dechnoleg ddatblygu, ond efallai y bydd cyfleoedd eraill hefyd o ran rheoli coedwigoedd, masnach, cyfathrebu a marchnata. Mae'n llai eglur o'r ffynonellau a nodwyd a fydd y cynnydd mewn rhai swyddi yn arwain at gynnydd neu ostyngiad net cyffredinol mewn swyddi yn y sector coed a choedwigaeth.
Casgliadau
Nodwyd nifer o themâu ar draws y pum cwestiwn ymchwil a archwiliwyd yn yr adroddiad. Gall y rhain fod yn berthnasol wrth ystyried dulliau o ddatblygu diwydiant pren gwerth uchel yng Nghymru.
Y prif themâu a nodwyd
- Defnyddio pren yn benodol fel cynnyrch yn y diwydiant adeiladu.
- Rôl addysg a rhannu gwybodaeth i gefnogi dealltwriaeth o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, dylunio adeiladau ac adeiladwaith pren, manteision defnyddio pren yn y sector adeiladu a manteision plannu coed i gefnogi amrywio incwm ffermwyr.
- Defnyddio grantiau a chymhellion ariannol i hyrwyddo plannu coed neu reoli coedwigoedd yn gynaliadwy (gan gynnwys ymhlith ffermwyr).
- Camau gweithredu uniongyrchol gan y wladwriaeth drwy bolisïau a safonau i hyrwyddo rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy a defnyddio pren mewn prosiectau adeiladu.
O ran ansawdd y dystiolaeth a'r math o dystiolaeth a nodwyd, nododd yr adolygiad strategaethau, polisïau a chynlluniau llywodraethau a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd diwethaf sy'n golygu nad oes canlyniadau arsylladwy ar gael eto. Efallai fod y termau chwilio a ddefnyddiwyd wedi dylanwadu ar y dystiolaeth a ganfuwyd yn yr adolygiad hwn ac, fel y cyfryw, efallai y byddai gwahanol dermau chwilio wedi esgor ar ganlyniadau gwahanol.
Mae gan Gymru gyfle i sicrhau bod monitro a gwerthuso yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gyflawni'r strategaeth ddiwydiannol pren yng Nghymru i gefnogi'r sylfaen dystiolaeth gyffredinol ar sut i gefnogi'r diwydiant pren yn effeithiol.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Zach Shirra
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Aimee Krishan
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth,
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
Ebost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 7/2025
ISBN digidol 978-1-83715-129-5
