Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn lansio'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd ar gyfer ymgynghori arnynt.
"Mae angen inni feddwl yn fwy eang ac yn fwy creadigol am sut rydyn ni'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl," dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle heddiw (dydd Mawrth 20 Chwefror) wrth iddi lansio'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd ar gyfer ymgynghori arnynt.
Nod y strategaethau drafft, sydd ar gael i ymgynghori arnynt nes 11 Mehefin, yw newid sut rydym yn meddwl am iechyd meddwl, grymuso pobl i wella eu hiechyd meddwl a chael gwared ar y rhwystrau a'r stigma sy'n ymwneud â chael cymorth.
Gyda hanner y cyflyrau iechyd meddwl yn effeithio ar bobl cyn y byddant yn 14 oed a 75% cyn y byddant yn 23 oed, canolbwyntir yn helaeth ar atal drwy sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar y pethau sydd eu hangen arnynt i gynnal iechyd meddwl da, fel ymarfer corff, yr amgylchedd naturiol a pherthyn i'r gymuned.
Canolbwyntir hefyd ar achosion ehangach iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, gan gynnwys tai, cyflogaeth a chyllid. Nodir hefyd fod angen gwaith ar draws y Llywodraeth gyfan ac ar draws sectorau i wella iechyd meddwl a llesiant meddyliol a lleihau hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.
Mae rhai grwpiau yn wynebu mwy o berygl o iechyd meddwl gwael nag eraill a gall anghydraddoldebau gyfrannu at iechyd meddwl gwael. Dyma'r rheswm y bydd y strategaethau yn hyrwyddo tegwch o ran mynediad, profiadau a chanlyniadau i bawb.
Pan fydd angen cymorth ar bobl, mae'r strategaethau yn cydnabod bod anghenion pobl yn amrywiol ac nad pawb fydd angen gwasanaethau iechyd meddwl clinigol neu arbenigol. Y nod yw adeiladu ar lwyddiant cymorth sy'n hawdd cael gafael arno fel y gwasanaeth 111 pwyso 2 a therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein, ochr yn ochr â dulliau ehangach er mwyn parhau i wella cymorth mewn ysgolion a gweithleoedd. Bydd hyn yn sicrhau dull 'dim drws anghywir' i gefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol.
Yn siarad cyn lansiad y strategaethau drafft yn yr Hangout, sef canolfan cymorth iechyd meddwl a gweithgareddau i bobl ifanc yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
Mae iechyd meddwl da yr un mor bwysig i'n llesiant ni ag iechyd corfforol, ac mae gymaint o bethau yn ein bywydau ni yn effeithio arno. Nid yw'n fater i faes iechyd a gofal cymdeithasol yn unig; mae angen i bob rhan o gymdeithas a'r Llywodraeth weithio gyda'i gilydd i helpu pobl i gynnal iechyd meddwl da.
Mae angen inni newid sut rydyn ni'n siarad am faterion iechyd meddwl, ac yn eu cefnogi, er mwyn adlewyrchu anghenion unigolion yn well. Rydyn ni wedi gwrando ar ystod o safbwyntiau wrth ddatblygu'r strategaethau ac mae pobl wedi dweud wrthyn ni am beidio â thrin iechyd meddwl fel rhywbeth meddygol yn unig. I'r rhan fwyaf o bobl, er bod angen cymorth arnyn nhw, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu gwasanaethau iechyd meddwl clinigol neu arbenigol.
Mae'r ganolfan lle rydym yn lansio'r strategaeth heddiw yn ganlyniad partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r elusen Platfform. Mae'n ffordd arloesol o roi cymorth tosturiol sy'n ystyriol o drawma i bobl ifanc mewn amgylchedd diogel a chyfforddus. Mae angen i bob sector weithio gyda'i gilydd, gan gydnabod eu rôl o ran cefnogi iechyd meddwl a llesiant meddyliol.
Dywedodd Ewan Hilton, Prif Weithredwr Platfform:
Rydyn ni'n falch iawn o fod yn yr Hangout heddiw, wrth i ymgynghoriad y strategaethau gael ei lansio. Mae'r ganolfan lesiant yma yn enghraifft o ddull iechyd meddwl newydd rydyn ni'n ei hyrwyddo, sy'n rhydd rhag beirniadaeth, yn dosturiol ac yn hygyrch. Mae'n fan lle mae pobl yn gallu cysylltu ag eraill a chael cymorth pan fyddan nhw ei angen – ac rydyn ni'n falch iawn o'r dull hwn.
Byddwn yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, gan argymell dulliau blaengar a hyrwyddo'r gwaith rhagorol sy'n digwydd yn barod.
Dywedodd Katie Simpson, Dirprwy Reolwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
Mae'r Hangout wedi ein galluogi ni i ailddiffinio sut mae plant a phobl ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael gafael ar gymorth iechyd meddwl a llesiant emosiynol.
Ein nod bob amser yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn yn y lle iawn a'r gobaith yw bod yr Hangout yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gyflawni hyn.
Mae wedi bod yn daith wych ac mae gweld syniadau eich pobl ifanc yn dwyn ffrwyth o'r diwedd drwy wasanaeth sydd wedi'i sefydlu ar y cyd yn garreg filltir anhygoel. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddal i gydweithio â phobl ifanc a Platfform i ddatblygu a gwella gwasanaethau'n gyson.
Ychwanegodd Lynne Neagle:
Mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, anwyliaid, gweithwyr proffesiynol a chymunedau. Er bod hunanladdiad a hunan-niweidio yn gymhleth, mae modd eu hatal ac nid ydyn nhw byth yn anorfod.
Mae yna gamdybiaeth gyffredinol bod gan bobl sy'n marw drwy hunanladdiad broblem neu salwch iechyd meddwl. Bydd y strategaeth hon yn ein helpu i ddeall yr achosion yn well a deall pa grwpiau yw'r rhai mwyaf agored i niwed, fel y gallwn ni roi mesurau atal, ymyrraeth a chymorth cyflym ac effeithiol ar waith.