Neidio i'r prif gynnwy

Mae sicrhau bod pobl yn hyderus ac yn llawn cymhelliant i wneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol, yn gallu cael gafael ar wasanaethau allweddol mewn ffyrdd newydd a bod ganddynt y cysylltedd sydd ei angen arnynt wrth wraidd Strategaeth Ddigidol newydd Llywodraeth Cymru i Gymru sydd wedi cael ei chyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi casglu syniadau gan amrywiaeth o bobl mewn dull arloesol i gasglu syniadau a barn ar gyfer y strategaeth drwy annog pobl, busnesau a sefydliadau ledled Cymru i ddweud eu dweud a'i wneud cystal ag y gall fod.

Nod y strategaeth yw sicrhau bod digidol yn gwella bywydau pawb yng Nghymru ac yn helpu'r economi i dyfu. Mae hefyd yn adeiladu ar fuddsoddiadau blaenorol Llywodraeth Cymru fel Iechyd Digidol, Rhaglen Technoleg Addysg Hwb a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Mae cynllun cyflawni sy'n nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd hefyd wedi cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae cynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr yn hollbwysig i gyflawni’r strategaeth, yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o ddata a chefnogi busnesau i gyflymu'r broses o fabwysiadu digidol i weithio'n ddoethach a sbarduno arloesedd a fydd yn eu rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd yn y dyfodol.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi:

"Mae pandemig COVID-19 wir wedi dangos i ni bwysigrwydd digidol a thechnoleg o ran sut rydym yn cysylltu â'n gilydd, yn cael mynediad at wasanaethau ac yn prynu nwyddau, a sut rydym yn gweithio.

"Mae ein Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi ein dull o wneud y rhain i gyd yn well ac yn haws i bobl, cymunedau a busnesau.

"Nid yw hyn yn ymwneud â chyfrifiaduron yn unig na sut rydym yn defnyddio ein ffonau clyfar, mae hyn yn ymwneud â gyrru gwasanaethau gwell ymlaen i bobl.

"Mae'n ymwneud â chreu ac adeiladu gwasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon, dwyieithog a symlach fel y gallwn elwa o'r canlyniadau gorau nawr ac yn y dyfodol.

"Rydyn ni eisiau i bobl o bob oed allu manteisio ar y rhyngrwyd a theimlo'n hyderus yn gwneud hynny a datblygu eu sgiliau ar hyd y ffordd.

"Byddwn hefyd yn gweithio i annog busnesau i gofleidio digidol yn llawn fel bod economi Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad fyd-eang tra'n lledaenu cyfoeth, gwydnwch a lles ledled Cymru.

"Mae digidol a thechnoleg yn mynd i chwarae rhan fwy fyth yn ein bywydau yn y dyfodol ac mae'n hanfodol ein bod yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd sy'n dod gyda hwy.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu ein strategaeth, ond dim ond dechrau sgwrs gyda phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau yw hyn wrth i ni adeiladu Cymru gwirioneddol ddigidol.