Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith gweithredu hyblyg ac ymatebol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Strategaeth gwyddoniaeth ac arloesi ar gyfer coedwigaeth ym Mhrydain , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Hydref 2020. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer ymchwil wyddonol sy'n gysylltiedig â choedwigaeth. Ei nod yw cefnogi'r gwaith o reoli ein coedwigoedd, coetiroedd a choed yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r fframwaith hwn yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan y sector o ran:

  • mynd i'r afael â'r heriau o wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd, a
  • cefnogi'r adferiad gwyrdd o COVID-19, a chyfraniad gwyddoniaeth ac arloesi at hyn

Mae'r strategaeth yn nodi deilliannau, themâu a meysydd o ddiddordeb ymchwilio ar lefel uchel. Nodwyd y rhain gan Lywodraethau Cymru, y DU a'r Alban a rhanddeiliaid coedwigaeth.  Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar y themâu canlynol:

  • rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yng ngoleuni newid amgylcheddol
  • marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd
  • manteision cymdeithasol o goed, coetiroedd a choedwigoedd
  • asesu adnoddau a monitro'r sector
  • sicrhau manteision lluosog i ecosystemau
  • creu ac ehangu coetiroedd
  • iechyd coed a bioddiogelwch

Dechreuodd y gwaith o gyflawni'r ymchwil hwn ar 1 Ebrill 2021 a bydd yn rhedeg am 5 mlynedd.