Neidio i'r prif gynnwy

'Ffyniant i Bawb' − strategaeth genedlaethol, er mwyn gwireddu ei phrif flaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y strategaeth, sy'n adeiladu ar y prif ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, yw sbarduno integreiddio a chydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, a rhoi lle canolog i bobl wrth fynd ati i wella'r modd y darperir gwasanaethau.

Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth a chamau gweithredu o dan bob un o themâu allweddol y Rhaglen Lywodraethu − Ffyniannus a Diogel, Iach ac Egnïol, Uchelgais a Dysgu, ac Unedig a Chysylltiedig.

Mae hefyd yn nodi pum maes blaenoriaeth – y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a sgiliau − sydd â'r potensial i wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a llesiant yn y tymor hir. Dyma'r meysydd lle y dangoswyd bod ymyrryd yn gynt a gwasanaethau mwy integredig yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

"Ddoe, roedden ni’n dathlu ugain mlynedd ers y bleidlais o blaid datganoli i Gymru.  Mae datganoli wedi bod yn daith o aeddfedu'n wleidyddol, ac o fagu mwy a mwy o hyder a phenderfyniad cadarn i gyflawni dros Gymru.

"Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi strategaeth genedlaethol newydd sydd â'r nod o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn ymdrechu ar y cyd i wireddu cenhadaeth ganolog y Llywodraeth o sicrhau Ffyniant I Bawb.

"Mae ffyniant yn fwy o lawer na chyfoeth materol yn unig, ac nid drwy dwf economaidd yn unig y gallwn ni ei sicrhau. Ei hanfod yw bod pob unigolyn yng Nghymru yn mwynhau bywyd o ansawdd da, yn byw mewn cymuned ddiogel a chryf, ac yn cael rhannu ffyniant Cymru.

"Mae'r strategaeth hon yn mynd i'r afael â'r ymrwymiadau a wnaethon ni yn Symud Cymru Ymlaen. Mae’n eu rhoi mewn cyd-destun hirdymor, ac yn nodi sut y byddan nhw'n cael eu gwireddu mewn ffordd fwy clyfar a chydgysylltiedig ar draws ffiniau traddodiadol, y tu mewn a'r tu allan i lywodraeth."