Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Awst 2014.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 277 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Bydd yr ymgynghoriad hwn o gymorth i lunio strategaeth newydd i Gymru ar dipio anghyfreithlon.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu cyfres o brif gamau gweithredu. Pan fyddant yn cael eu cyflawni byddant yn sicrhau’r canlyniadau a ddymunir gennym ac yn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer ‘Cymru Ddi-dipio’.
Tipio yw'r term cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwastraff sy'n cael ei adael ar dir yn anghyfreithlon. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Ers 2007 mae Llywodraeth Cymru bod yn gweithio gyda Taclo Tipio Cymru er mwyn lleihau tipio anghyfreithlon.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi rhai canlyniadau lefel uchel a bydd hynny’n pennu’r cyfeiriad ar gyfer mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn y dyfodol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pob sefydliad allweddol yng Nghymru yn ymrwymo i ddileu tipio anghyfreithlon ymrwymiad sy’n rhan annatod o’u strategaethau a’u gwaith o ddydd i dydd
- Dealltwriaeth eang bod tipio anghyfreithlon yn annerbyniol mewn cymdeithas
- Haws i bobl ddelio â’u gwastraff mewn ffordd gyfrifol
- unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon yn cael ei ddal a’i gosbi’n briodol.
Rydym am glywed eich barn ynghylch y strategaeth hon sy’n nodi yr hyn yr hoffem ni a’n partneriaid ei wneud i leihau tipio anghyfreithlon ledled Cymru.