Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi lansio strategaeth ddiwygiedig i helpu i reoli'r clefyd sy'n effeithio ar goed llarwydd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y strategaeth ddiwygiedig yn arwain at gyhoeddi cynllun rheoli newydd ar gyfer rheoli'r clefyd ac yn ymateb i'r ffaith fod y clefyd wedi lledaenu i effeithio ar goed llarwydd yn y Canolbarth a'r Gorllewin. 

Pathogen tebyg i ffwng yw Phytophthora ramorum sy'n effeithio ar amrywiaeth o blanhigion a choed. Cafodd ei weld y tro cyntaf erioed yn y DU yn 2002 ar rododendron. Yn 2009, fe'i gwelwyd ar goed llarwydd yn Ne-orllewin Lloegr ac yn 2010, roedd wedi taro coed llarwydd yng Nghwm Afan yn y De. 

Ers hynny, mae'r clefyd wedi bod yn lledaenu ar sborau sy'n teithio mewn dafnau dŵr yn yr awyr a gall ledaenu'n bell iawn pan fydd hi'n wlyb ac yn wyntog. 

Er mwyn helpu i reoli'r clefyd, cafodd Strategaeth Rheoli'r Phytophthera ei llunio yn 2010 gan Lywodraeth Cymru ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid preifat a chyhoeddus. 

Yn sgil y Strategaeth, crewyd dwy ardal reoli - yr Ardal Reoli Graidd (CDZ) lle nad oes gofyn i berchennog y tir dorri na difetha coed o fewn terfyn amser ac Ardal Cyfyngu ar y Clefyd (DLZ) lle bydd gofyn i'r perchennog dorri a difetha coed o fewn terfyn amser i rwystro'r clefyd rhag lledaenu i ardaloedd diglefyd. 

Wrth ddilyn hynt y clefyd yn y blynyddoedd diwethaf a sut y bu iddo ledaenu i rannau o'r Canolbarth a'r Gorllewin, mae'r strategaeth wedi cael ei diweddaru i greu Ardal Reoli Graidd newydd (CDZ2) yng Ngorllewin y Canolbarth rhwng Brechfa a Dolgellau. Yn y CDZ2, caiff arolygon o'r awyr eu cynnal a fydd yn canolbwyntio ar ardaloedd y ffin â'r DLZ. 

Bydd yr arolygon yn targedu llwybrau posibl ar gyfer heintiadau mwy yn ardaloedd y CDZ. Mae CNC yn defnyddio gwybodaeth leol, data am ledaeniad y clefyd a data meteorolegol ac olygon tir i gael hyd i'r clefyd yn yr ardal hon. 

Os cadarnheir bod safle wedi'i heintio, bydd staff rheoli'r CNC gan ymgynghori â pherchennog y tir, yn rhoi Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol fydd yn nodi'r triniaethau gofynnol i'w cynnal o fewn 3 blynedd. 

Mae'r ardal newydd wedi'i chreu i amddiffyn y cymunedau yn y Canolbarth y mae'r pathogen wedi'u taro rhag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol. 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae ecosystemau coed o ansawdd uchel yn gallu darparu manteision go iawn yn lleol ac ar lefel gwlad. Rydyn ni'n gwybod bod coetiroedd Cymru'n gwella'n tirwedd ac yn cynyddu bioamrywiaeth ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau ecosystemau yn gallu ymateb i'r newid yn yr hinsawdd a chefnogi diwydiannau pren. 

"Rydyn ni'n cydnabod bod plaon, pathogenau a rhywogaethau estron goresgynnol yn gallu effeithio ar iechyd coed a choetiroedd yng Nghymru. Bydd gan y strategaeth ddiwygiedig rôl allweddol o ran lleihau effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd P. ramorum yn yr ardal CDZ2 a pharhau â'r ymrwymiad i reoli'r clefyd rhag lledaenu.