Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau digidol

Nawr

Nesaf

Dyfodol

  • Adolygu sut mae gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn cael eu darparu'n ddigidol a defnyddio'r wybodaeth hon i sbarduno trawsnewid strategol pellach mewn meysydd allweddol.
  • Datblygu a hyrwyddo canllawiau i gefnogi'r gwaith o fabwysiadu a gweithredu'r safonau gwasanaeth digidol.
  • Adolygu canfyddiadau o gam alpha Campws Digidol, academi sgiliau digidol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a datblygu cyfres o hyfforddiant sgiliau digidol sy'n diwallu anghenion y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
  • Ehangu ein harweinyddiaeth ddigidol yng Nghymru drwy benodi Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal a sicrhau bod y Prif Swyddogion Digidol a'r  Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol.
  • Creu cymuned hyfforddi a rhannu gwybodaeth i gefnogi'r gwaith o greu a darparu gwasanaethau digidol da gydag offer gweithredu a chanllawiau i ymarferwyr.
  • Ymgymryd â cham darganfod er mwyn edrych ar sut y gall defnydd priodol o dechnoleg a’r byd digidol gyfrannu at lwyddo i gyrraedd y targed allyriadau carbon sero net. 
  • Parhau i gefnogi sefydliadau ar draws sectorau yng Nghymru i gryfhau eu gwydnwch seiber drwy hyfforddiant a thrwy weithio mewn partneriaeth.
  • Cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ymgymryd ag ymchwil defnyddwyr gyda gwahanol grwpiau poblogaeth wrth ddatblygu gwasanaethau.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod polisi a rheoleiddio digidol a data ar gyfer y DU yn cael eu darparu yng Nghymru yn briodol ac yn diwallu ein hanghenion.
  • Cyflwyno cyfres o brosiectau arddangos fel enghreifftiau o adeiladu gwasanaethau da yn seiliedig ar egwyddorion dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Creu a hyrwyddo cyfres o safonau technoleg i gefnogi’r gwaith o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus gwell.
  • Datblygu dealltwriaeth o ofynion a chynllun ar gyfer dulliau hunaniaeth ddigidol a rennir ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
  • Datblygu meysydd ar gyfer cydweithio ar draws arweinyddiaeth y Prif Swyddog Digidol ac ymwneud ag arweinyddion digidol yn ehangach ar draws cyrff cyhoeddus.
  • Cyhoeddi'r Strategaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Digidol yng Nghymru.
  • Creu a hyrwyddo canllawiau a deunyddiau cymorth eraill i helpu gwasanaethau cyhoeddus Cymru i wneud penderfyniadau a gweithredu arferion gorau ar ddefnyddio technoleg sy'n lleihau’r effaith amgylcheddol o ddarparu gwasanaethau.
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru i ddwyn ynghyd ddatganiad uchelgais a gweithgareddau cydlynol mewn perthynas â seiber yng Nghymru.
  • Bwrw ymlaen â gwaith i sicrhau bod sefydliadau'r sector cyhoeddus yn adolygu eu seilwaith etifeddol ac yn eu moderneiddio yn briodol.
  • Cytuno a nodi cyfleoedd ar gyfer pensaernïaeth a rennir ar gyfer systemau a gwasanaethau sector cyhoeddus.
  • Cyflawni'r Strategaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

 

Cynhwysiant digidol

Nawr

Nesaf

Dyfodol

  • Archwilio safon byw'n ddigidol gofynnol i Gymru sy'n cynnwys llinell sylfaen gydnabyddedig ar gyfer yr hyn y mae'n ei olygu i gael eich cynnwys yn ddigidol e.e. cyflymder cysylltedd, dyfeisiau a sgiliau digidol sylfaenol.
  • Sicrhau bod ymyriadau priodol ar waith i gefnogi pobl i fagu'r hyder digidol i ddefnyddio gwasanaethau digidol a gwybod ble i fynd am gymorth.
  • Sicrhau bod staff rheng flaen a gwirfoddolwyr yn gallu cael hyfforddiant i fod yn ddigidol hyderus.
  • Comisiynu ymchwil i ddeall y rhwystrau a wynebir gan y rhai nad ydynt yn defnyddio gwasanaethau digidol.
  • Adeiladu ar y gwaith o fapio gweithgarwch cynhwysiant digidol sy’n digwydd ledled Cymru.
  • Defnyddio'r mecanweithiau sydd ar gael i ddylanwadu ar gwmnïau telegyfathrebiadau i ddarparu tariffau sydd wedi'u hanelu at y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
  • Gweithio gyda phob sector i sicrhau bod opsiynau amgen ar gyfer defnyddio gwasanaethau digidol ar gael i bawb ac wedi'u cynllunio i'r un safon â'r rhai a ddisgwylir gan wasanaethau digidol.

 

Sgiliau digidol

Nawr

Nesaf

Dyfodol

  • Parhau i ddarparu cymorth drwy hyfforddiant sgiliau ac ymwybyddiaeth sy'n gwella gwasanaethau digidol wrth gyflwyno dysgu ac yn nodi cyfleoedd i wneud mwy.
  • Parhau i gynnig darpariaeth TG a phrentisiaethau digidol helaeth yng Nghymru ar lefel is-radd a gradd.
  • Adolygu gwaith presennol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, megis adroddiadau Covid-19, ar gyfer gwybodaeth am ofynion sgiliau digidol yng Nghymru.
  • Parhau i gyflwyno’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol sy’n darparu cyrsiau digidol i unigolion cyflogedig sydd am ennill mwy o sgiliau neu rai newydd er mwyn gwella eu cyfleoedd o ran gyrfa ac yn gysylltiedig â gwaith.
  • Parhau i gefnogi ysgolion i ddarparu cymhwysedd digidol fel sgil drawsgwricwlaidd sydd wrth galon y cwricwlwm i Gymru ac i baratoi dysgwyr i fod yn ddinasyddion digidol effeithiol a da, gan wella eu cyfleoedd o ran gyrfa ac yn gysylltiedig â gwaith.
  • Parhau i gefnogi ysgolion gyda'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol a helpu arweinwyr, athrawon a dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau, gan gynnwys eu cadw'n ddiogel ar-lein.
  • Ystyried y materion a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer dysgu digidol a dysgu cyfunol yn y sectorau Addysg Bellach a Dysgu Oedolion yn y Gymuned a chyfleoedd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod pandemig Covid-19.
  • Datblygu cefnogaeth ar gyfer cynlluniau bŵt-camp digidol drwy gyllid arloesi.
  • Cynnal peilot ar gyfer prosiect Prentisiaeth a Rennir digidol newydd a gwerthuso deilliannau.
  • Gweithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i lunio eu gwaith ar sgiliau digidol wrth iddynt ddatblygu atodiad sgiliau digidol i'w cynlluniau cyflogaeth a sgiliau tair blynedd sydd ar y gweill, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion polisi.
  • Ehangu’r ystod o gymwysterau digidol newydd ar gyfer darparu drwy Gyfrifon Dysgu Personol.
  • Adolygu a datblygu’r fframwaith cymhwysedd digidol i sicrhau y gall dysgwyr ledled Cymru ffynnu mewn byd sy’n newid drwy’r amser.
  • Adolygu ac esblygu effeithiolrwydd y Daith Dysgu Proffesiynol Digidol i sicrhau bod gan arweinwyr, athrawon a dysgwyr y sgiliau, yr wybodaeth a'r agweddau a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio digidol a thechnoleg yn hyderus ac yn greadigol.
  • Adolygu ac ystyried cynnwys prentisiaethau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion cyflogwyr. Bydd hyn yn cynnwys ystyried ehangu'r cynnwys i ddiwallu anghenion sefydliadau'r sector cyhoeddus.
  • Parhau i weithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gryfhau ymhellach eu dull o gasglu gofynion sgiliau digidol a chynyddu buddsoddiad cyflogwyr mewn sgiliau digidol.

 

Economi ddigidol

Nawr

Nesaf

Dyfodol

  • Cefnogi arloesedd digidol. Trwy weithio gyda busnesau, cyrff diwydiant, sefydliadau ymchwil ac eraill i ganolbwyntio ar glystyrau diwydiannol penodol.
  • Darparu ffrydiau gwaith ar gyfer clystyrau blaenoriaeth cychwynnol y cytunwyd arnynt.
  • Cryfhau Cymru fel allforiwr digidol drwy greu ecosystem ffyniannus o arbenigedd masnachol ac academaidd sy'n sbarduno arloesedd digidol mewn technolegau sy'n datblygu.
  • Cefnogi datblygiad Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru i sefydlu gweithgareddau cydweithredol.
  • Paratoi Canolfan Arloesi Seiber Cymru a darparu manteision i Gymru.
  • Cefnogi a hyrwyddo'r gwaith o ddarparu cymorth seiberddiogelwch i fusnesau yng Nghymru i gryfhau eu gwydnwch pan fyddant yn wynebu bygythiadau seiber.
  • Chwilio am gyfleoedd ar gyfer mannau gweithio a rennir ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat, er mwyn annog cydweithredu a lleihau teithio.
  • Darparu map ffordd i wella arferion a phrosesau caffael, gan sicrhau gwell canlyniadau i bawb.
  • Cyflymu aeddfedrwydd, cynhyrchiant a sgiliau digidol busnesau.
  • Comisiynu ymchwil i helpu i flaenoriaethu clystyrau i gael sylw yn y dyfodol.
  • Cychwyn ffrydiau gwaith a chamau gweithredu ar gyfer clystyrau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ymhellach.
  • Manteisio ar allbynnau Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru er budd Cymru.
  • Archwilio cyfleoedd i dyfu ecosystem seiber.
  • Adeiladu ar y berthynas â'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ar gyfer cyngor seiber i fusnesau.
  • Gweithredu gwelliannau gan ddefnyddio'r ddeddfwriaeth gaffael bresennol (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015).
  • Cyflawni camau gweithredu o Gynlluniau Gweithredu Clwstwr cyhoeddedig. 
  • Datblygu cynigion mewnfuddsoddi ecosystemau digidol.
  • Sbarduno gwelliannau pellach, gan gynnwys mwy o dryloywder, defnyddio'r Bil Diwygio Caffael newydd a'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael.

 

Cysylltedd digidol

Nawr

Nesaf

Dyfodol

  • Cefnogi defnydd a arweinir gan y gymuned drwy gynlluniau talebau, fel Allwedd Band Eang Cymru, cyllid grant fel y Gronfa Band Eang Lleol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £4.2 miliwn yn y Ganolfan Prosesu Signal Digidol ym Mhrifysgol Bangor i ariannu ymchwil a chysylltu safleoedd yn Ynys Môn.
  • Ystyried canfyddiadau’r tasglu ar fuddsoddiad mewn cysylltedd digidol a'i gyflwyno.
  • Parhau i ddatblygu a darparu cysylltedd rhwng y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy ddatblygu Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus ar y cyd â gofynion y sector cyhoeddus ar gyfer mwy o gysylltedd.
  • Sefydlu protocolau a phrosesau gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau'r DU fel y Rhwydwaith Rhannu Gwledig a Rhaglen Band Eang Gigabit.
  • Ail-fuddsoddi cyllid a ddychwelwyd drwy ein cynllun cyflym iawn i wella cysylltedd digidol drwy ymyriadau seilwaith wedi'u targedu.
  • Adolygu'r modelau perchnogaeth a masnachol ar gyfer asedau dwythell a ffibr y sector cyhoeddus.

 

Data a chydweithio

Nawr

Nesaf

 
  • Cynnal rhaglen waith a newid diwylliant er mwyn gwella dulliau rhannu data ar draws y sector cyhoeddus.
  • Manteisio ar ffynonellau data newydd a phresennol i lywio dadansoddiadau, gwneud penderfyniadau ac ymchwil drwy gyflawni cam nesaf Ymchwil Data Gweinyddol Cymru a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio â'r byd academaidd ac eraill ar arloesedd a yrrir gan ddata.
  • Gweithio gyda'r Ganolfan Moeseg Data ac Arloesi i ymgorffori egwyddorion moesegol ar draws yr holl gemau gweithredu yn y cynllun cyflawni hwn.
  • Datblygu fersiwn nesaf porth Stats Cymru, gan roi defnyddwyr wrth wraidd ei ddyluniad.
  • Parhau i ddatblygu Map Data Cymru, y platfform data a rennir sy'n ffynhonnell ar gyfer data geo-ofodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o gynllun beta i gynllun byw.
  • Datblygu "addewid data" ar gyfer iechyd a gofal, sy'n rhoi sicrwydd i ddinasyddion ynghylch sut mae eu data iechyd a gofal yn cael eu cadw a'u defnyddio. Gweithio gyda'r Rhaglen Ddata Genedlaethol i ymgynghori ar set ehangach o egwyddorion ar gyfer defnyddio data yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cytuno ar ddull o bennu ac ymgorffori safonau data ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Datblygu amrywiaeth o gymunedau data ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gydweithio, rhannu arbenigedd a chefnogi ei gilydd, a fydd yn gwella aeddfedrwydd ac arbenigedd data.
  • Datblygu canllawiau ar ba ddata gwasanaethau cyhoeddus ddylai fod ar gael mewn fformat agored.