Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Ni chaiff y Strategaeth effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, bydd yn cydlynu ac yn darparu fframwaith ar gyfer gweithgareddau eraill y disgwylir iddynt gael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys meithrin sgiliau ac ennyn hyder digidol, gwella cysylltedd a chefnogi dulliau dysgu cyfunol yn eu tro, ac annog diwylliant o arloesi sy'n denu talent a buddsoddiad newydd i Gymru.

Bydd y gweithgareddau a'r prosiectau a fydd yn deillio o'r Strategaeth yn cael effeithiau amrywiol ar blant a phobl ifanc, a byddwn yn eu hasesu ar wahân. Defnyddiwyd adborth y cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i ddatblygu’r Strategaeth ei hun. Dywedodd plant a phobl ifanc fod y digidol (dysgu gartref, cyfryngau cymdeithasol, apiau) yn hanfodol i'w bywydau. Dywedon nhw fod cysylltiad â'r rhyngrwyd yn bwysig iawn a'u bod yn deall nad oedd gan rai plant gysylltedd digon da neu na allent ei fforddio. Roeddent hefyd yn cydnabod nad oedd gan bob plentyn ei ddyfais ei hun a thynnwyd sylw bod angen i sgiliau digidol a enillir mewn addysg gyd-fynd â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithlu'r dyfodol. Nodwyd bod rhai athrawon yn cael trafferth gyda thechnoleg ac yn mynegwyd pryder nad oedd pob ysgol yn cynnig y cymwysterau TGAU neu Safon Uwch roeddent am eu cael. Roedd plant a phobl ifanc am barhau i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth a'r camau a fyddai'n dod ohoni.     

2. Esboniwch sut bydd y cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Er na fydd y Strategaeth yn cael effaith uniongyrchol ar hawliau plant, mae'n helpu i ddiogelu eu hawliau a'u mynediad iddynt mewn nifer o ffyrdd. Ystyrir bod yr erthyglau canlynol o’r Gonfensiwn Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig yn berthnasol i'r cynnig hwn: 

Erthygl 16 – Hawl i breifatrwydd: Mae gwella sgiliau ac ennyn hyder digidol wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol yn cefnogi hawliau plant i breifatrwydd. Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall sut mae'r wybodaeth amdanyn nhw eu hunain maen nhw'n ei rhoi ar-lein neu'n creu drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol yn allweddol i'w helpu i wneud dewisiadau gwybodus, moesegol ynglŷn â faint maen nhw'n ei roi ar-lein, a sut i ddelio â phroblemau os ydyn nhw'n digwydd.

Erthygl 17 – Hawl i weld gwybodaeth trwy’r cyfryngau: Mae'r cyfryngau'n symud fwyfwy oddi wrth sianeli traddodiadol i'r gofod digidol. Er mwyn gallu cael gafael ar wybodaeth gan y cyfryngau, mae’n allweddol sicrhau bod gan bob plentyn gysylltiadau dibynadwy â'r rhyngrwyd, y sgiliau a'r hyder i fynd ar-lein yn ddiogel, a’u bod yn deall manteision a chyfyngiadau cyfryngau ar-lein

Erthygl 23 – Plant ag anableddau yn defnyddio gwasanaethau ac yn ymgysylltu â'u cymunedau ehangach: Bydd sicrhau bod pob gwasanaeth digidol newydd yn bodloni gwasanaethau hygyrchedd llym yn sicrhau y bydd plant sy'n anabl yn gallu cael gafael ar wasanaethau digidol yn annibynnol lle bynnag y bo modd. Bydd cysylltiadau dibynadwy, a sicrhau bod gan bob plentyn sgiliau a hyder priodol i fynd ar-lein hefyd yn cefnogi plant anabl i ymgysylltu â'u cymunedau, gan gynnwys cymunedau ar-lein neu ddigidol.

Erthygl 24 – Yr hawl i’r iechyd a’r gofal iechyd gorau posibl: Trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn gallu defnyddio’r gwasanaethau hyn a’u bod yn diwallu’u hanghenion.

Erthygl 28 – Yr hawl i addysg: Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw sgiliau digidol yn gyffredinol ar gyfer addysg plant. Mae sicrhau bod gan blant y sgiliau cywir i allu manteisio ar adnoddau addysgol digidol a bod ganddynt gysylltiadau dibynadwy i'w defnyddio a’r hyder i wneud hynny, i gyd yn cefnogi eu hawl i gael addysg

Erthygl 31 – Yr hawl i hamdden, chwarae a diwylliant: Mae’r digidol yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer hamdden, chwarae a diwylliant; o hapchwarae ar-lein i deithiau rhithwir o safleoedd a chasgliadau diwylliannol. Mae sicrhau bod gan blant y gallu, y sgiliau a'r hyder i fynd ar-lein yn ddiogel yn hanfodol er mwyn diogelu eu hawliau i gael hamdden, chwarae a diwylliant yn yr oes ddigidol.

Erthyglau 34 a 36 – diogelu rhag cael eu camfanteisio’n rhywiol ac mewn ffyrdd eraill: Bydd datblygu sgiliau digidol da, hyder ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein yn helpu i amddiffyn plant rhag pob math o gamfanteisio. Mae darparu gwasanaethau digidol cadarn y gall plant eu defnyddio i geisio cymorth a chyngor, os ydynt yn teimlo'n anghyfforddus neu dan fygythiad, hefyd yn allweddol.