Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaeth 1: Adnabod a gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl

Ymrwymiadau’r strategaeth

Mae’r ymrwymiadau a wnaethom yn y Strategaeth o dan y thema hon yn cynnwys annog gofalwyr di-dâl i hunanadnabod a chodi ymwybyddiaeth o werth gofalwyr di-dâl drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi digwyddiadau blynyddol sy’n dathlu hawliau gofalwyr.
  • Defnyddio negeseuon Gweinidogol a sianeli’r cyfryngau i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi a’u cydnabod.
  • Sicrhau bod yr holl negeseuon yn hygyrch i ofalwyr ifanc ac i ofalwyr sy’n oedolion ifanc.
Ymrwymiadau’r strategaeth
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol am werth gofalwyr di-dâl i economi, cymunedau a system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Bydd negeseuon o leiaf yn cysylltu â digwyddiadau blynyddol fel bo hawliau gofalwyr yn cael eu hyrwyddo fesul cam. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector

Parhaus, blynyddol. Er enghraifft:

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc (Mawrth), Wythnos Gofalwyr (Mehefin), Diwrnod Hawliau Gofalwyr (Tachwedd)

Hyrwyddo cyfleoedd i Weinidogion gyfarfod a chlywed yn uniongyrchol gan ofalwyr di-dâl o bob oed.

Llywodraeth Cymru

Yn syth a pharhaus
Gweithio gyda gofalwyr di-dâl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau byw, a sefydliadau cynrychioliadol i sicrhau bod negeseuon yn hygyrch i ystod eang o bobl. Er enghraifft yn Gymraeg, mewn ieithoedd lleiafrifoedd ethnig, yn Iaith Arwyddion Prydain, fel copi sain neu braille, hawdd ei ddarllen, ac mewn fformatau sy’n hygyrch i blant a phobl ifanc. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Yn syth
Gweithio gyda rhanddeiliaid i feddwl yn greadigol am sut y gallwn ni hyrwyddo negeseuon mewn llefydd lle bydd ystod eang o ofalwyr di-dâl yn gallu cael gafael arnynt. Er enghraifft, amgylcheddau dysgu, clybiau ieuenctid/cymdeithasol, siopau lleol a busnesau preifat, canolfannau cymunedol ac ati. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Yn syth
Adolygu’r data sydd ar gael ar werth economaidd gofal di-dâl, ar lefel genedlaethol ac unigol, ac ystyried a yw’n adlewyrchu’r darlun cyfredol neu a oes angen mwy o ddadansoddi. Llywodraeth Cymru Erbyn diwedd 2022
Cysylltu â phobl sydd yn llygad y cyhoedd ac sy’n barod i fod yn llysgenhadon a hyrwyddo a dathlu gofalwyr di-dâl. Llywodraeth Cymru, y trydydd sector Erbyn diwedd 2022

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda phartneriaid i barhau â’n Hymgyrch Ymwybyddiaeth o Hawliau Gofalwyr Di-dâl ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo ei negeseuon i ystod eang o ofalwyr.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Cyflawni ail gam yr ymgyrch hawliau gofalwyr. Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr Cymru, Gofalwyr Cymru. Ymgyrch hawliau gofalwyr – rhwng Hydref-Tachwedd 2021

Byddwn yn: 

  • Mabwysiadu’r term ‘gofalwr di-dâl’ ac yn annog ein partneriaid i ddefnyddio’r un derminoleg.
  • Gweithio gyda gofalwyr di-dâl a’u cynrychiolwyr i herio unrhyw stigma sy’n gysylltiedig â’u rôl ofalu.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Cydweithio i bennu cyfres o egwyddorion iaith i’w defnyddio ar gyfer pob agwedd ar ofal di-dâl, cymorth a chodi ymwybyddiaeth. Fel rhan o’r gweithredu hwn byddwn yn:

  • Sicrhau bod yr egwyddorion yn crisialu’r angen sylfaenol i lawer o bobl o allu cael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod yr egwyddorion yn adlewyrchu’r angen i sicrhau bod cyfathrebu’n hawdd a hwylus i ofalwyr di-dâl gydag amrywiaeth eang o brofiadau byw, gofynion iaith ac anghenion cyfathrebu hygyrch.
  • Osgoi iaith sy’n stigmateiddio a blaenoriaethu’r berthynas ofalu rhwng y gofalwr a’r sawl sy’n derbyn gofal ganddo lle bo’n bosibl (e.e. aelod o’r teulu, ffrind, cymydog).
Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr gofalwyr di-dâl, Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Erbyn diwedd 2022

Thema blaenoriaeth 1: Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl

Byddwn yn:

  • Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl ymysg gweithwyr proffesiynol a allai ddod i gysylltiad â nhw ar draws pob sector a lleoliad.
  • Archwilio sut y gall gwasanaethau statudol nodi a chofnodi gwybodaeth am ofalwyr di-dâl yn well.
  • Sicrhau bod gwasanaethau wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion yr unigolyn sy’n cynnwys derbyn triniaeth a gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Drwy’r Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, ariannu a darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr, gan weithio gyda staff ar bob lefel o systemau gofal cymdeithasol ac iechyd i godi ymwybyddiaeth o hawliau, rhannu arferion da ac annog cydgynhyrchu. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector 31 Mawrth 2023

Hyfforddiant

Adolygu’r cyfoeth o opsiynau hyfforddiant a gynigir ledled Cymru ar hyn o bryd, nodi bylchau ac archwilio opsiynau i ddatblygu a rhannu enghreifftiau o arferion gorau i gefnogi gweithwyr proffesiynol mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol.

Fel rhan o’r adolygiad uchod, archwilio cynnwys modiwlau ar anghenion y Gymraeg, a phwysigrwydd nodi a diwallu anghenion grwpiau ymylol a rhai na chlywir ganddynt yn aml, a gofalwyr ifanc.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus Erbyn diwedd 2024

Hyfforddiant

Archwilio opsiynau i gynnwys hyfforddiant cyn ac ôl gymhwyster a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i’w helpu i nodi a diwallu anghenion gofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru Erbyn diwedd 2024

Hyfforddiant

Archwilio ansawdd ac argaeledd modiwlau ar ofalwyr di-dâl mewn cyrsiau addysg uwch, ac a ydynt yn diwallu anghenion gweithwyr proffesiynol y dyfodol a ddaw i gysylltiad â gofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru, Addysg Uwch  Erbyn diwedd 2023

Achrediad

Adolygu argaeledd ac effaith cynlluniau achredu cyfredol, fel y Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, y Cynllun Cyfeillgar i Ofalwyr a rhaglen Gofalwyr Ifanc yn yr Ysgol a nodi bylchau ac archwilio opsiynau i ddatblygu a rhannu arferion gorau.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Erbyn diwedd 2024

Adnoddau a chanllawiau

Hyrwyddo’r adnoddau a’r canllawiau a gynigir gan Gofal Cymdeithasol Cymru i helpu ymarferwyr gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda gofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Yn syth

Cofnodi statws gofalwr

Archwilio manteision, cyfyngiadau ac ystyriaethau moesegol cofrestr genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl, ac a oes angen mecanwaith cenedlaethol i gefnogi meddygon teulu i gynnal gwybodaeth am ofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru, Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr di-dâl Erbyn diwedd 2023

Hyrwyddwyr gofalwyr

Annog sefydliadau i benodi hyrwyddwr gofalwyr, a’u cefnogi yn eu rôl drwy adnoddau a hyfforddiant cyfredol ac arfaethedig.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y sector preifat Yn syth

Cefnogi gofalwyr di-dâl drwy ryddhau o’r ysbyty

Archwilio opsiynau i rannu cynlluniau arferion da cyfredol yn ehangach – cynlluniau sy’n nodi a chynnig cymorth i ofalwyr di-dâl drwy broses rhyddhau o’r ysbyty, er enghraifft Hwyluswyr Ysbyty (y Gogledd). Bydd hyn yn arbennig o bwysig i unigolion sy’n ymgymryd â’u rôl fel gofalwyr am y tro cyntaf. 

Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, y trydydd sector Erbyn diwedd 2023

Thema Blaenoriaeth 1: Gweithio gydag awdurdodau lleol i wella asesiadau gofalwyr

Byddwn yn:

  • Defnyddio’r data a gasglwn i ddatblygu ystod o atebion sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau statudol sy'n ymatebol i anghenion unigol gofalwyr di-dâl mewn modd amserol ac effeithiol.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Defnyddio’r canfyddiadau o ymchwil SCIE a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Prosiect Datblygu Data Iechyd Cyhoeddus Cymru, a data o’r Fframwaith Perfformiad a Gwella i benderfynu pa gamau gweithredu penodol sydd eu hangen i wella’r nifer sy’n cael asesiadau o anghenion gofalwyr. Llywodraeth Cymru    Erbyn diwedd 2022

Byddwn yn:

Trafod gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yr angen i ddatblygu rhagor o adnoddau hyfforddi a gwybodaeth ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac awdurdodau lleol i benderfynu pa ganllawiau ac adnoddau pellach sydd eu hangen i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol gydag asesiadau o anghenion gofalwyr.

Gallai hyn gynnwys adolygiad o ffynonellau cyfredol o ganllawiau arfer da ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n cynnal asesiadau, er enghraifft canllawiau Sgyrsiau Gofalwyr Rhondda Cynon Taf.

Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol   Erbyn diwedd 2023

Thema blaenoriaeth 1: Cefnogi gofalwyr di-dâl i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed

Byddwn yn: 

  • Buddsoddi mewn mecanweithiau sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl i leisio’u barn ar lefelau cenedlaethol, lleol a rhanbarthol.
     
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Adolygu aelodaeth y Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr i sicrhau ei fod yn cynnwys cynrychiolaeth o ystod eang o brofiadau gofalwyr. Llywodraeth Cymru   Erbyn Mawrth 2022
Rhannu enghreifftiau o arferion gorau mewn perthynas â phaneli ymgysylltu â gofalwyr rhanbarthol neu grwpiau llywio sy’n hwyluso cynnwys llais a phrofiad gofalwyr wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau. Awdurdodau Lleol Erbyn Mawrth 2022

Archwilio gwahanol fformatau ar gyfer cael barn gofalwyr di-dâl i lywio datblygiad a darpariaeth gwasanaethau sy’n ystyried y ffaith y gall gofalwyr di-dâl fod yn brin o amser yn aml a hwyrach yn methu ymrwymo i gyfarfodydd rheolaidd. Er enghraifft, holiaduron, ymarferion gwrando.

Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Erbyn Mawrth 2022

Byddwn yn:

  • Cefnogi gofalwyr di-dâl ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac mewn cymunedau lleol i deimlo’n fwy hyderus yn eu rolau cynrychioliadol.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Adolygu’r gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiad sbotolau y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ym mis Mehefin 2021 ac archwilio sut y gellir gweithredu’r awgrymiadau a wnaed i gefnogi cynrychiolwyr gofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Erbyn canol 2022

Parhau i ariannu a darparu hyfforddiant cynrychioli gofalwyr a hyfforddiant hunaneiriolaeth gofalwyr drwy’r Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Llywodraeth Cymru / Gofalwyr Cymru     31 Mawrth 2023

Blaenoriaeth 2: Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth

Mae'n hanfodol bod gan bob gofalwr fynediad at y wybodaeth a'r cyngor cywir ar yr amser cywir ac mewn fformat priodol. 

Bydd y camau gweithredu o dan Flaenoriaeth 1 ynghylch hyfforddiant, achrediad a chanllawiau ac adnoddau i weithwyr proffesiynol hefyd yn cyfrannu at Flaenoriaeth 2.

Thema Blaenoriaeth 2: Codi ymwybyddiaeth o ffyrdd o gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth    

Byddwn yn:

  • Gwella mynediad cyfartal i wybodaeth, cyngor a chymorth ar draws pob rhan o Gymru.
  • Codi ymwybyddiaeth o ffyrdd amgen o gael gafael ar wybodaeth fel meddygfeydd, gwasanaethau cymunedol, neu adnoddau ar-lein fel DEWIS Cymru.
  • Cydnabod bod gan ofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill fel tai, trafnidiaeth, gwasanaethau amddiffynnol a chynlluniau cyflogadwyedd i gyd gyfrifoldeb i ddarparu gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl.
  • Parhau i ddysgu o'r addasiad llwyddiannus o wasanaethau mewn ymateb i'r pandemig.    
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Adolygu hybiau gwybodaeth a chymorth a llinellau cymorth lleol a chenedlaethol er mwyn archwilio opsiynau i hyrwyddo a rhannu arferion gorau’n ehangach. Mae enghreifftiau’n cynnwys llinell gyngor genedlaethol Gofalwyr Cymru, Hyb Gofalwyr Gwent a Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Ceredigion. Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, y trydydd sector Erbyn diwedd 2023
Rhannu arferion gorau ar sut mae sefydliadau’n darparu adnoddau, canllawiau a chyfeiriadau mewn lleoliadau sy’n hygyrch i ystod eang o ofalwyr di-dâl, yn cynnwys unigolion sy’n llai tebygol o nodi eu hunain yn ofalwyr di-dâl. Gweithio gyda phartneriaid a sefydliadau sy’n derbyn y Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i lenwi unrhyw fylchau a nodwyd lle nad yw rhai cohortau o ofalwyr di-dâl yn cael eu cyrraedd o bosibl.      Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Erbyn diwedd 2023
Archwilio a all arferion gorau presennol hyfforddiant i ofalwyr di-dâl i gefnogi’r rhai sy’n derbyn gofal ganddynt, gael eu rhannu’n ehangach neu eu cynyddu i ddarparu cynnig cenedlaethol.   Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus Erbyn diwedd 2023

Byddwn yn:

  • Archwilio sut i wella mynediad ymhellach i wasanaethau eiriolaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn Sector / sefydliad Amserlen
Parhau i ariannu a darparu hyfforddiant ar Hawliau Gofalwyr ac ar Hunaneiriolaeth i ofalwyr di-dâl drwy’r Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Cynnal gwerthusiad o’r prosiect a nodi pa wersi y gellir eu rhannu a’u mabwysiadu.  Llywodraeth Cymru, Gofalwyr Cymru Cyllid cyfredol hyd 2023
Sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hystyried yn benodol fel rhan o bolisïau a mentrau i wella gwasanaethau eiriolaeth a’r nifer sy’n manteisio arnynt. Llywodraeth Cymru Yn syth

Byddwn yn:

Parhau i weithio gyda phartneriaid i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar yr hawliau a chodi ymwybyddiaeth ohonynt.

Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Mae’r ymrwymiad hwn yn cysylltu â chamau gweithredu Blaenoriaeth Pedwar – Cynyddu gwytnwch ariannol.     
Sicrhau bod anghenion gofalwyr di-dâl yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau manteisio i’r eithaf ar incwm a system budd-daliadau Cymru. Llywodraeth Cymru Yn syth

Thema Blaenoriaeth 2: Mynd i’r afael â’r gagendor digidol

Byddwn yn:

  • Mynd i’r afael â’r gagendor digidol sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil y pandemig.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Sicrhau bod anghenion gofalwyr di-dâl yn cael eu hystyried wrth ddarparu Strategaeth Ddigidol i Gymru.         Llywodraeth Cymru Yn syth
Rhannu arferion gorau cynlluniau lleol gan ddarparu cyfarpar, adnoddau a sgiliau TG a chymorth i helpu gofalwyr di-dâl i ddefnyddio technoleg er mwyn cynnal eu lles eu hunain a’r rhai sy’n derbyn gofal ganddynt. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Erbyn canol 2022

O ran gwasanaethau a negeseuon i ofalwyr di-dâl, sicrhau bod yna opsiynau hygyrch eraill i unigolion, sy’n methu neu’n amharod i ddefnyddio gwasanaethau digidol.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector

Erbyn diwedd 2022

Archwilio’r defnydd o Ofal a Alluogir gan Dechnoleg sy’n galluogi unigolion ag anghenion gofal a chymorth i fod yn fwy annibynnol ac yn lleihau’r pwysau ar ofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus

Erbyn diwedd 2023

Blaenoriaeth 3: Helpu i fyw yn ogystal â gofalu

Rhaid i bob gofalwr di-dâl gael cyfle i gymryd seibiannau o'i rôl ofalu i’w alluogi i gynnal ei iechyd a'i lesiant ei hun a byw yn ogystal â gofalu.

Thema Blaenoriaeth 3: Gwella mynediad i wyliau byr a gofal seibiant ac ehangu’r ystod o opsiynau seibiant sydd ar gael  

Byddwn yn:

  • Datblygu model cenedlaethol ar gyfer opsiynau seibiant yng Nghymru.
  • Deall sut y gellir ailddiffinio opsiynau seibiant i ddiwallu angen yr unigolyn, yn cynnwys dewisiadau eraill i’r model “traddodiadol” o ofal dros nos i’r unigolyn ag anghenion gofal.
  • Gweithio tuag at ddealltwriaeth well o sut y gellir cael seibiant o ofalu, sut y gellir ei ariannu a’i ddarparu gan amrywiaeth o ddarparwyr.
  • Archwilio sut y gellir cyflwyno dulliau arloesol o gynnig opsiynau seibiant, yn cynnwys model ‘seibiantgarwch’ (‘respitality’) yr Alban yng Nghymru.    
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen  
Adolygu argymhellion a 12 egwyddor adroddiad Pa wahaniaeth y mae seibiant yn ei wneud: gweledigaeth ar gyfer dyfodol seibiannau byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru a chydweithio i gytuno ar lwybr gweithredu. Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector Erbyn diwedd 2021  
Datblygu model ‘seibiantgarwch’ Cymru, gan ddysgu o wersi’r Alban a phrosiect Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, ‘Cymunedau Gofalu o Newid’ a ariennir drwy Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy y Trydydd Sector. Llywodraeth Cymru, y sector preifat, y trydydd sector Erbyn diwedd 2023  
NEWCIS i hyrwyddo eu model llwyddiannus o gronfa seibiannau byr i leoliadau ledled Cymru. NEWCIS – corff trydydd sector 2021 i 2022  

Annog y rhai sy’n cynnal asesiadau o anghenion gofalwyr i gynnwys seibiannau a gwyliau byr fel elfen allweddol o’r sgyrsiau hynny.

Awdurdodau lleol

Yn syth

 

Parhau i archwilio’r rhesymau sy’n sail i wahanol ddehongliadau o ganllawiau a deddfwriaeth wrth wneud penderfyniadau ar ddyrannu seibiant i’r gofalwr neu i’r unigolyn sy’n derbyn gofal. Datblygu canllawiau egluro sy’n seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth.

Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol

Erbyn diwedd 2022

 

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda gofalwyr di-dâl a'n partneriaid i sicrhau bod y derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio gofal seibiant yn gweddu i'r cyd-destun a'r gwasanaeth a gynigir ac i'w gwneud yn glir y gall gofal seibiant fod yn ataliol.  
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen
Cynnwys terminoleg seibiannau byr gyda’r cam gweithredu ar egwyddorion iaith o dan Flaenoriaeth Un. Bydd egwyddorion iaith sy’n gysylltiedig â seibiannau byr yn briodol ac yn adlewyrchu y gellir cymryd seibiannau gyda’i gilydd neu ar wahân, ac y gallant fod yn ataliol eu natur. Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr gofalwyr di-dâl. Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, y sector cyhoeddus, y trydydd sector   Parhaus

Byddwn yn:

  • Blaenoriaethu’r galw cynyddol am ganolfannau dydd a gwasanaethau eistedd gyda rhywun a gofal amgen mwy traddodiadol, a modelau arloesol o ddarparu seibiannau dros y flwyddyn i ddod.

Ystyriaethau ychwanegol

Y Gymraeg

Er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru, cynnig cyfleoedd i ddysgu neu wella sgiliau Cymraeg fel math o weithgaredd seibiant byr.

Awdurdodau Lleol, y trydydd sector

Erbyn diwedd 2022

 

 

Thema blaenoriaeth 3: Ehangu mynediad at gymorth seicolegol

Byddwn yn:

  • Sicrhau bod ystod o gymorth seicolegol ar gael i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn ystod asesiad o anghenion gofalwyr.
  • Sicrhau bod gwasanaethau sydd ar gael yn cael eu teilwra i anghenion ac amgylchiadau unigol y gofalwr.
  • Cydnabod y gallai gofalwyr di-dâl elwa ar gymorth seicolegol ar ffurf cwnsela ar gyfer straen neu alar.
  • Buddsoddi mewn amrywiaeth o gymorth seicolegol.
  • Archwilio sut y gall modelau cymorth newydd a ddatblygodd yn ystod y pandemig arwain at welliannau yn narpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen  
Sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu polisi ehangach ym maes iechyd meddwl.       Llywodraeth Cymru   Yn syth  

Codi ymwybyddiaeth ymarferwyr o’r cymorth seicolegol lleol sydd ar gael fel y gallant gynnig gwasanaethau i ofalwyr di-dâl i gyflawni’r canlyniadau a nodwyd yn ystod asesiad o anghenion gofalwyr.

Awdurdodau Lleol

Erbyn canol 2022

 

Ariannu a darparu gweithgareddau sy’n cynnig seibiant byr o ofalu a chymorth lles.

Mae enghreifftiau cyfredol yn cynnwys sesiynau ‘Amser i Fi’ Gofalwyr Cymru a Hyb Lles ar-lein Gofalwyr Cymru.

Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat

Parhaus

 

Thema blaenoriaeth 4: Annog awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth i adnabod gofalwyr ifanc

Mae hwn yn cysylltu â Blaenoriaeth 1 – gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl a chodi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl.

Byddwn yn:

  • Defnyddio’r cwricwlwm newydd – y Cwricwlwm i Gymru – gyda’i ffocws llawer cryfach ar lesiant, ac ar greu dysgwyr uchelgeisiol a galluog i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau y mae gofalwyr ifanc yn eu hwynebu.
  • Annog mwy o gysondeb wrth adnabod gofalwyr ifanc mewn lleoliadau addysg a’u cyfeirio at wasanaethau gofalwyr ifanc.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Hyrwyddo hyrwyddwyr gofalwyr ifanc ysgol unigol a hyrwyddo arferion gorau, er enghraifft fel y nodwyd gan Adolygiad Thematig Estyn 2019.

Llywodraeth Cymru / Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru / awdurdodau lleol / y sector addysg ac ysgolion

Erbyn diwedd tymor y llywodraeth gyfredol – 2025

Datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr ysgol ar draws rhanbarthau. Annog hyrwyddwyr i fabwysiadu dull ‘ysgol gyfan’.

Llywodraeth Cymru / awdurdodau lleol / y sector addysg ac ysgolion / y trydydd sector

Erbyn diwedd tymor y llywodraeth gyfredol 2025

Hyrwyddo newid diwylliannol a chodi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion ymysg gweithwyr addysg proffesiynol a’u hanghenion am gymorth a chefnogaeth, a’u cyfeirio at wasanaethau awdurdodau lleol a gwasanaethau gofalwyr a gomisiynir.

Llywodraeth Cymru / Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru / awdurdodau lleol

Parhaus

Hyrwyddo’r broses o adnabod gofalwyr ifanc drwy brosiect cerdyn adnabod gofalwyr ifanc cenedlaethol a gyd-gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, hyfforddiant ac adnoddau cenedlaethol a gynhyrchir  gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. <https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/young-carers-id-card-welsh. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cerdyn mewn ysgolion a cholegau.

Llywodraeth Cymru / Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru / awdurdodau lleol / y sector addysg / y sector cyhoeddus / y trydydd sector

Parhaus

Defnyddio cynlluniau a mecanweithiau cenedlaethol fel y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid i helpu i adnabod gofalwyr ifanc fel dysgwyr agored i niwed ac mewn perygl o fod yn NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

Llywodraeth Cymru / awdurdodau lleol / y sector addysg / sector cyhoeddus a’r trydydd sector / ysgolion

Parhaus

Ystyriaethau ychwanegol    

Cyfleoedd addysg bellach ac addysg uwch i gefnogi mynediad gofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion at ddysgu.

Fel rhan o’r diwygiadau addysg a hyfforddiant ôl-16 ehangach, annog y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd arfaethedig i ddarparu arweiniad a chymorth i ddarparwyr ôl-16.

Llywodraeth Cymru

Erbyn diwedd 2025

Cyfleoedd addysg bellach ac addysg uwch i gefnogi mynediad gofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion at ddysgu.

Defnyddio adnoddau presennol i helpu i hyrwyddo adnabod gofalwyr gan gyrff a darparwyr addysg, a nodi anghenion ymhlith gweithwyr proffesiynol am ddeunyddiau gwybodaeth / adnoddau neu hyfforddiant ar-lein newydd.

Llywodraeth Cymru / Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru / y trydydd sector / y sector addysg – AB ac AU

Parhaus

Cyfleoedd addysg bellach ac addysg uwch i gefnogi mynediad gofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion at ddysgu.

Hyrwyddo mecanweithiau cymorth ariannol Cymru i fyfyrwyr ac ymwybyddiaeth o gynlluniau cymorth, yn cynnwys benthyciadau myfyrwyr, a chymorth fel bwrsarïau prifysgol i ofalwyr di-dâl.

Llywodraeth Cymru / y sector addysg

Parhaus

Hyrwyddo cyfleoedd addysg a hyfforddiant a dysgu seiliedig ar waith i bob grŵp oedran o ofalwyr di-dâl (yn cynnwys cyfleoedd mynediad agored, addysg bellach ac uwch a datblygiad proffesiynol).

Gweithio gyda chyrff cenedlaethol cynrychioliadol yn cynnwys CCAUC, Colegau Cymru a’r Brifysgol Agored a phrifysgolion Cymru i annog gofalwyr o bob oedran i fanteisio ar gyrsiau datblygu sgiliau / cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.

Llywodraeth Cymru / CCAUC a’i gorff olynol / y sector addysg / prifysgolion / darparwyr hyfforddiant / cyflogwyr / y trydydd sector

Erbyn diwedd 2022 a pharhaus

Thema blaenoriaeth 4: Gweithio gyda chyflogwyr a’u cyrff cynrychioliadol i hyrwyddo gweithleoedd sy’n gyfeillgar i ofalwyr di-dâl

Byddwn yn:

  • Helpu cyflogwyr i addasu a gweithredu polisi sy’n seiliedig ar y diffiniad o Waith Teg a’i nodweddion.
  • Cysoni’r gwaith hwn â’n hymrwymiad i’r diffiniad o Waith Teg a’i nodweddion a bennwyd gan y Comisiwn Gwaith Teg, ac yn ceisio darparu cymorth gwell i’r nifer cynyddol o weithwyr hŷn, gofalwyr di-dâl, a gofalwyr ifanc sy’n oedolion.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Defnyddio mecanweithiau partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r cyhoedd, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynnwys undebau llafur, i wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad wrth gefnogi gofalwyr di-dâl yn y gweithle.

Llywodraeth Cymru / y sector cyhoeddus / preifat a’r trydydd sector

Erbyn diwedd 2022 ac yn yr hirdymor

Archwilio cyfleoedd a gyflwynir gan ddeddfwriaeth y dyfodol a deddfwriaeth newydd, er enghraifft cynigion gan Lywodraeth y DU ar gyfer arferion Gweithio Hyblyg newydd.

Llywodraeth Cymru / y sector cyhoeddus / preifat a’r trydydd sector

Dibynnol ar gamau gweithredu a / neu ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU

Byddwn yn:

  • Sicrhau bod cyflogwyr di-dâl nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn gallu cael gafael ar y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth cywir i ddatblygu'r sgiliau i gael gwaith addas, p'un a ydynt yn ailymuno â'r gweithlu, neu'n cael swydd am y tro cyntaf.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Gweithio gyda sefydliadau yn cynnwys Gyrfa Cymru (Cymru’n Gweithio), Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, a’r trydydd sector, i hyrwyddo mynediad pob gofalwr 16 oed a hŷn at gyfleoedd cyflogaeth.

Llywodraeth Cymru / Adrannau Llywodraeth y DU / y sector cyhoeddus / y trydydd sector / y sector preifat

Erbyn diwedd 2022 a pharhaus

Archwilio’r cyfleoedd a gyflwynir ar gyfer gofalwyr ifanc sy’n oedolion yn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu newydd ar gyfer Gwarant Person Ifanc, a fydd yn ceisio darparu cynnig o le mewn addysg neu hyfforddiant i bawb o dan 25 oed ledled Cymru,  neu gymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.

Llywodraeth Cymru / y sector cyhoeddus / y sector preifat / y trydydd sector

Erbyn diwedd 2022 a pharhaus

Byddwn yn:

  • Parhau i weithio gyda Hwb Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru, sy’n helpu sefydliadau yng Nghymru i gefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Cynyddu hygyrchedd ac aelodaeth y cynllun Cyflogwyr i Ofalwyr, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith gofalwyr sy’n gweithio a’u rheolwyr fel eu bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael o fewn sefydliadau.

Gofalwyr Cymru / Llywodraeth Cymru

Parhaus

Annog pob corff cyhoeddus i gael polisi gofalwyr, datblygu datganiad lles, a chynnig cynllun Pasbort Gofalwyr i’w gweithwyr.

Gofalwyr Cymru / Llywodraeth Cymru

Erbyn diwedd 2022 a pharhaus

Annog cyflogwyr y sector cyhoeddus ac eraill i nodi aelod arweiniol o staff i hyrwyddo mentrau gofalwyr di-dâl a chodi ymwybyddiaeth o effaith cyfrifoldebau gofalu ar weithwyr.

Gofalwyr Cymru / Llywodraeth Cymru

Erbyn diwedd 2022 a pharhaus

Byddwn yn:

  • Parhau i gefnogi'r cynnig gan Lywodraeth y DU am hawl cyflogaeth newydd, sef wythnos o absenoldeb di-dâl i ofalwyr ar gyfer gweithwyr cymwys.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Gweithio gyda’r llywodraeth ganolog i gefnogi cynigion deddfwriaethol a darparu mewnbwn o safbwynt Cymru.

Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU

Erbyn diwedd tymor y llywodraeth gyfredol (yn amodol ar ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU y dyfodol)

Annog cyflogwyr ym mhob sector i weithredu polisïau absenoldeb gofalwyr (cysylltiadau â gweithgarwch Cyflogwyr i Ofalwyr).

Gofalwyr Cymru / Llywodraeth Cymru

Parhaus

Byddwn yn:

  • Cysylltu'r flaenoriaeth newydd hon â phryderon cymdeithasol ac economaidd ehangach gan gynnwys cydraddoldeb rhywiol, incwm isel ac effaith gofalu ar dlodi.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Cefnogi gofalwyr di-waith a chyflogedig i fanteisio ar gyfleoedd i ddychwelyd i addysg neu hyfforddiant.

Llywodraeth Cymru / Gyrfa Cymru (Cymru’n Gweithio) / yr Adran Gwaith a Phensiynau / y sector addysg / y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector

Parhaus

Hyrwyddo prosiect Grymuso a Llesiant Gofalwyr Cymru sy’n cynnwys cynorthwyo menywod sy’n gofalu i ddychwelyd i’r gweithle neu gamu ymlaen yn y gweithle (gweithio gyda Chwarae Teg fel partner darparu).

Gofalwyr Cymru / Llywodraeth Cymru

31 Mawrth 2023

Hyrwyddo cwrs e-ddysgu achrededig Gofalwyr Cymru ‘Dysgu ar gyfer Byw’ ar gyfer gofalwyr di-dâl i nodi sgiliau trosglwyddadwy a enillwyd drwy ofalu; a darpariaeth ddysgu berthnasol arall.

Gofalwyr Cymru / Llywodraeth Cymru / y sector addysg

Parhaus

Thema blaenoriaeth 4: Hyrwyddo gwytnwch ariannol

Byddwn yn:

  • Ystyried newidiadau pellach i'r system Budd-daliadau Lles a Nawdd Cymdeithasol ac mae Gweinidogion Cymru yn parhau i wneud sylwadau ar y newidiadau hyn ac yn gweithredu polisi i ddiogelu'r rhai sydd yn y perygl mwyaf yn ein cymunedau.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn     Sector/sefydliad     Amserlen

Hyrwyddo a chynorthwyo gofalwyr i gael gafael ar amrywiaeth o fudd-daliadau lles, gwybodaeth am gymorth ariannol a gwasanaethau.

Llywodraeth Cymru / y sector cyhoeddus a’r trydydd sector

Parhaus

Monitro gweithrediad a chynnydd y cynllun cyflawni

Mae ein hymrwymiad i gasglu a dysgu o ganfyddiadau ymchwil a'r data a gesglir yn sicrhau bod polisïau sydd â'r nod o wella profiadau gofalwyr di-dâl yn rhai goleuedig.

Bydd metrigau perfformiad yn ein helpu i nodi lle nad yw'r Cynllun Cyflawni yn gwneud cynnydd fel y dylai a pha weithgarwch pellach sydd angen inni ei gyflawni i wella'r broses weithredu. Bydd parhau i chwilio am ymchwil a data sy'n gysylltiedig â phrofiadau gofalwyr di-dâl, yn ogystal ag ymgysylltu â’r rhanddeiliaid a’r gofalwyr di-dâl eu hunain, yn ffurfio elfen hanfodol o’r gwaith monitro cynnydd er mwyn sicrhau bod manteision arfaethedig y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn cael eu gwireddu ar gyfer pob gofalwr di-dâl.  

Bydd nifer fawr o elfennau monitro yn y cynllun cyflawni yn ansoddol eu natur, ochr yn ochr â mesurau meintiol penodol. Er y bydd gan y cynllun cyflawni ei gyfres ei hun o ddangosyddion a chanlyniadau, mae'n rhan o fecanweithiau ehangach gan gynnwys y Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, a bydd yn pwyso arnynt. Ceir hefyd werthusiad ffurfiol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014. 

Byddwn yn gweithio gydag aelodau o’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ofalwyr Di-dâl i ddatblygu set glir o fetrigau yn ogystal â'r ffynonellau data a amlinellir isod ac yn y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.

Ffynonellau a fydd yn mesur ar draws themâu

Defnyddir y ffynonellau data canlynol i olrhain cynnydd ar draws y themâu amrywiol a nodir yn y cynllun yn hytrach na’u bod yn berthnasol i un neu ddau yn unig. 

  • Cyfrifiad y DU 2021.
  • Canlyniadau'r Dull Strategol o Ymdrin â Data Gofal Cymdeithasol yng Nghymru sy'n ystyried sut y gallwn ddatblygu dull mwy strategol o ymdrin â gofal cymdeithasol mewn cydweithrediad â phartneriaid gofal cymdeithasol eraill. 
  • Yr adroddiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn gan Fyrddau Iechyd Lleol ar sut maent wedi defnyddio eu dyraniad o'r £1 miliwn o gyllid i gefnogi gofalwyr di-dâl.
  • Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru sydd wedi'i gynllunio i nodi’r ardaloedd bach hynny o Gymru sy’n fwyaf difreintiedig. Mae rhai o'r ffactorau megis addysg, incwm, cyflogaeth a mynediad at wasanaethau yn faterion a fydd yn berthnasol i ofalwyr di-dâl.
  • Ymchwil gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe.
  • Mae'r trydydd sector ac academyddion bob amser yn cynhyrchu ymchwil gwerthfawr y byddwn yn ei ddefnyddio. Mae rhai enghreifftiau penodol yn cynnwys:
    • Adroddiad 'Cyflwr Gofal' Carers UK sy'n casglu adborth gan ofalwyr ar draws gwledydd y DU. Byddwn yn defnyddio canlyniadau'r arolwg ar gyfer Cymru i fonitro cynnydd y cynllun cyflawni.
    • 'Dilyn y Ddeddf' Gofalwyr Cymru sy'n casglu gwybodaeth am sut mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi effeithio ar ofalwyr di-dâl ers dod i rym.
    • Adroddiad gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sy'n edrych ar ofalwyr di-dâl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, sy'n caniatau inni asesu effaith y Cynllun Cyflawni ar aelodau o gymunedau anodd eu cyrraedd. 
    • Adroddiad 'Road to Respite' Dr Dianne Seddon, Nick Andrews ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Blaenoriaeth 1: Adnabod a gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl 

Thema: Gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl
Ffynhonnell data     Dangosyddion

 

I'w gwblhau mewn trafodaeth â’r Grŵp Cynghori Gweinidogol  ar Ofalwyr.
Thema: Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Grant trydydd sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

Prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr

  • Canlyniad 1. Ymwybyddiaeth o ofal iechyd: Grymuso gofalwyr i ymgysylltu â lleoliadau iechyd a chreu sesiynau hyfforddi ac adnoddau ar y cyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn sicrhau bod lleoliadau gofal iechyd yn cefnogi gofalwyr yn well.
  • Canlyniad 2. Ymwybyddiaeth o Ofal Cymdeithasol: Gweithio gyda gofalwyr i gyd-gynhyrchu egwyddorion ymarfer gofal cymdeithasol da a gwella gwasanaethau cymdeithasol drwy gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i fod yn fwy ymwybodol o ofalwyr.
  • Canlyniad 3. Ymwybyddiaeth y cyhoedd: Hyrwyddo hawliau ac anghenion gofalwyr yn gyhoeddus ledled Cymru, drwy ymgyrchoedd penodol ar y cyfryngau a thrwy ddigwyddiadau'r trydydd sector.
Thema: Gweithio gydag awdurdodau lleol i wella asesiadau gofalwyr
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Fframwaith Perfformiad a Gwella

  • Cyfanswm yr asesiadau o anghenion gofalwyr ar gyfer oedolion a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn.
  • Nifer yr asesiadau o anghenion gofalwyr ar gyfer oedolion a wrthodwyd yn ystod y flwyddyn.
  • Nifer yr asesiadau o anghenion gofalwyr ar gyfer oedolion a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn lle:
    • Roedd tystiolaeth o gynnig rhagweithiol o wasanaeth Cymraeg
    • Derbyniwyd Cynnig Gweithredol y Gymraeg
    • Cynhaliwyd yr asesiad gan ddefnyddio'r dewis iaith

Mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol uchod hefyd yn cael eu casglu ar gyfer gofalwyr ifanc. 

Gwerthusiad Annibynnol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant dan arweiniad Prifysgol De Cymru  
Thema: Cefnogi gofalwyr di-dâl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Grant trydydd sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

Prosiect Lles a Grymuso Gofalwyr

Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cynnwys darparu hyfforddiant i ofalwyr i roi'r hyder iddynt siarad drostynt eu hunain a'r rhai sy’n derbyn gofal ganddynt.

Gwerthusiad Annibynnol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant dan arweiniad Prifysgol De Cymru  

Blaenoriaeth 2: Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth 

Thema: Codi ymwybyddiaeth o ffyrdd o gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Fframwaith Perfformiad a Gwella

  • Cyfanswm y cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol statudol gan ofalwyr sy'n oedolion neu weithwyr proffesiynol sy'n cysylltu â'r gwasanaeth ar eu rhan a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn.
  • Nifer y cysylltiadau gan oedolion sy'n ofalwyr a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn lle darparwyd cyngor neu gymorth.
  • Cyfanswm y cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol statudol gan ofalwyr ifanc neu weithwyr proffesiynol sy'n cysylltu â'r gwasanaeth ar eu rhan a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn.
  • Nifer y cysylltiadau gan ofalwyr ifanc a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn lle darparwyd cyngor neu gymorth.

Ymgyrch Hawliau Gofalwyr

Gwerthusiad o'r cynllun.

Grant trydydd sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

Prosiect Lles a Grymuso Gofalwyr

Mae’r Dangosydd Perfformiad Allweddol yn cynnwys olrhain faint sy'n defnyddio gwefan Gofalwyr Cymru a chofnodi nifer yr adnoddau IAA a ddosbarthwyd.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

  • Canran y rhai holwyd sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol fel gofalwr.
Gwerthusiad Annibynnol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant dan arweiniad Prifysgol De Cymru  
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Arolwg Cenedlaethol Cymru (Ddim yn benodol i ofalwyr)

  • Canran y rhai a holwyd sy'n defnyddio'r rhyngrwyd.
  • Canran y rhai sydd angen help i ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Iechyd y boblogaeth mewn oes ddigidol - y defnydd o dechnoleg ddigidol i gefnogi a monitro iechyd yng Nghymru (Ddim yn benodol i ofalwyr)

  • Defnyddio technoleg ddigidol i ddod o hyd i wybodaeth i gefnogi iechyd.
  • Defnyddio technoleg ddigidol i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau iechyd.
  • Defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi iechyd meddwl.

Blaenoriaeth 3: Helpu i fyw yn ogystal â gofalu

Thema: Gwella mynediad i wyliau byr a gofal seibiant ac ehangu'r ystod o opsiynau seibiant sydd ar gael
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Cyllid o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru gyfer seibiannau/gwyliau byr

Bydd adroddiadau cynnydd Awdurdodau Lleol yn darparu tystiolaeth o sut defnyddiwyd cyllid er mwyn helpu gofalwyr di-dâl i gael gwyliau byr.

Thema: Ehangu mynediad at gymorth seicolegol
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Sesiynau 'Amser i Fi' (Me Time) Gofalwyr Cymru

Gwerthusiad posibl o'r cynllun yn y dyfodol.  Nifer y gofalwyr sy'n cymryd rhan, canlyniadau (sut mae gofalwyr yn teimlo cyn ac ar ôl cymryd rhan).

Blaenoriaeth 4: Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle.

Thema: Annog awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth i adnabod gofalwyr ifanc
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Cynllun cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc

  • Gofynnir i awdurdodau lleol gofnodi nifer y gofalwyr ifanc sy'n derbyn cerdyn.
  • Gellir comisiynu gwerthusiad o'r prosiect yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Thema: Gweithio gyda chyflogwyr a'u cyrff cynrychioliadol i hyrwyddo gweithleoedd sy'n gyfeillgar i ofalwyr di-dâl
Ffynhonnell data     Dangosyddion

Grant trydydd sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

Prosiect Lles a Grymuso Gofalwyr

  • Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cynnwys nifer yr hyrwyddwyr gweithle, nifer y gweithleoedd sy'n cynnal stondinau gwybodaeth i ofalwyr neu hyfforddiant ymwybyddiaeth.
  • Mae Dangosyddion Perfformiad Allweddol wrth ddychwelyd i'r gwaith yn cynnwys cipio nifer y gofalwyr sy'n manteisio ar hyfforddiant a nifer y canolfannau gwaith/asiantaethau recriwtio sy'n derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ofalwyr.

Arolwg Cenedlaethol Cymru (ddim yn benodol i ofalwyr)

  • Rhesymau dros anawsterau chwilio am waith - gan gynnwys 'gofalu'.
Ffynhonnell data     Dangosyddion

 

I'w gytuno – cysylltiadau posibl â monitro'r Gronfa Gynghori Sengl.