Neidio i'r prif gynnwy

Nifer o unedau tai sydd yn berchen neu’n rhannol berchen ac yn cael eu rheoli gan holl landlordiaid cymdeithasol ar 31 Mawrth 2021.

Mae hyn yn cynnwys y 11 awdurdod lleol sydd yn cadw stoc a holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.  Bydd yn cynnwys tai cymdeithasol a mathau eraill o dai.

Sylwer, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae’r data ar stoc tai landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2019-20 a rhenti ar gyfer 2020-21 yn anghyflawn. Gweler y COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol am ragor o wybodaeth.

Stoc

  • Parhaodd cynnydd bychan (2%) yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd 235,557 o unedau tai cymdeithasol ar 31 o Fawrth 2021 o gymharu gyda 231,408(r) flwyddyn yn gynt. Roedd 235,557 o unedau tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2021 o gymharu â 231,408(r) ddwy flynedd ynghynt.
  • O’r 235,557 o unedau tai cymdeithasol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd berchen ar 63% ac awdurdodau lleol oedd berchen ar y 37% arall.
  • Ar 31 Mawrth 2021, roedd 15,480 o unedau tai eraill yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol neu'n rhannol berchen arnynt. O’r rhain, roedd 98% yn eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

(r) 2018-19 data sydd wedi ei diwygiedig  ers iddi gael ei gyhoeddi o’r blaen.

Rhent

  • Y rhenti wythnosol gyfartalog a osodwyd gan awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2021 ar gyfer 2021-22 ar gyfer yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol oedd £96.53. Mae'r holl dai cymdeithasol hunangynhwysol yn cynnwys anghenion cyffredinol, cysgodol, tai â chymorth eraill a gofal ychwanegol. Mae hyn yn gynnydd o 5% o'i gymharu â 2019-20.
  • Y rhent wythnosol cyfartalog cyfatebol ar gyfer stoc landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2021-22 oedd £98.17. Mae hyn hefyd yn gynnydd o 5% o'i gymharu â 2019-20.
  • Mae'r bwlch rhwng lefelau rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar gyfer 2021-22, roedd rhent wythnosol cyfartalog a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn uwch gan £1.64.

Adroddiadau

Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhent, ar 31 Mawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1015 KB

PDF
Saesneg yn unig
1015 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.