Neidio i'r prif gynnwy

Nifer o unedau tai sydd yn berchen neu’n rhannol berchen ac yn cael eu rheoli gan holl landlordiaid cymdeithasol ar 31 Mawrth 2019.

Mae hyn yn cynnwys y 11 awdurdod lleol sydd yn cadw stoc a holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.  Bydd yn cynnwys tai cymdeithasol a mathau eraill o dai.

Stoc

  • Parhaodd cynnydd bychan (1%)  yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd 231,413 o  unedau tai cymdeithasol ar 31 o Fawrth 2019 o gymharu gyda 230,017(r) flwyddyn yn gynt.
  • O’r  231,413 o unedau tai cymdeithasol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd berchen ar 62% ac awdurdodau lleol oedd berchen ar y 38% arall.
  • Ar 31 Mawrth 2019, roedd 15,508 o unedau tai eraill yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol neu'n rhannol berchen arnynt. O’r rhain, roedd 99% yn eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

(r) 2017-18 data sydd wedi ei diwygiedig  ers iddi gael ei gyhoeddi o’r blaen.

Rhent

  • Y rhenti wythnosol gyfartalog a osodwyd gan awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2019 ar gyfer 2019-20 ar gyfer yr holl dai cymdeithasol hunangynhwysol oedd £ 92.26. Mae'r holl dai cymdeithasol hunangynhwysol yn cynnwys anghenion cyffredinol, cysgodol, tai â chymorth eraill a gofal ychwanegol. Mae hyn yn gynnydd o 3% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Y rhent wythnosol cyfartalog cyfatebol ar gyfer stoc landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2019-20 oedd £93.77. Mae hyn hefyd yn gynnydd o 3% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd y bwlch rhwng rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn 2019-20 yr isaf a gofnodwyd hyd yma (£1.51).

Adroddiadau

Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhent, ar 31 Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 840 KB

PDF
Saesneg yn unig
840 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.