Neidio i'r prif gynnwy

Mae STG Aerospace yn un o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd ym maes technolegau goleuo cabanau awyrennau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan STG Aerospace swyddfeydd yn Norfolk, Fflorida yn yr Unol Daleithiau a Shanghai yn Tsieina, ac mae'n datblygu ffyrdd arloesol a chosteffeithiol o oleuo cabanau awyrennau. Mae’r goleuadau hynny’n trawsnewid y profiad o hedfan. Mae ei gynhyrchion wedi'u gosod mewn dros 11,000 o awyrennau ledled y byd, sy'n ddwy ran o dair o fflyd cludo teithwyr y byd, ac mae ganddo gwsmeriaid ym mhob cwr o'r byd, gan amrywio o'r cwmnïau mwyaf sy'n gweithgynhyrchu offer gwreiddiol ar gyfer awyrennau, i gwmnïau hedfan, darparwyr sy'n cynnal a chadw ac yn atgyweirio awyrennau, a leswyr awyrennau.   

Denodd y diwrnod agored amryw o gwsmeriaid a chyflenwyr allweddol y cwmni, yn ogystal â phrifysgolion a'r partneriaid sydd ganddo ym maes ymchwil a datblygu. Cawsant gyfle i ymuno â'r rheolwyr a staff ar gyfer taith o amgylch ei Ganolfan Arloesedd a Pheirianneg, sy'n un o safon fyd-eang.  

Gan groesawu'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Cydnabyddir bod STG Aerospace yn arwain y farchnad yn y maes hwn ac mae'n allforio i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd. Cydnabyddir hefyd fod ei gynhyrchion ef ymhlith y goreuon yn y diwydiant. Mae hynny'n dipyn o gamp ac rydyn ni'n falch iawn o gael croesawu STG Aerospace i'r sector awyrofod dynamig sydd gennym yma yng Nghymru.  

"Dw i'n hynod falch bod y cymorth a gafodd y cwmni oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi'i helpu i sefydlu ei ganolfan newydd yng Nghymru. Mae hefyd wedi creu llawer mwy o swyddi na'r disgwyl, sy'n newyddion gwych.   

"Mae heddiw'n ddiwrnod pwysig yng nghalendr busnes STG Aerospace, a hynny am ei fod yn gyfle iddo nodi'r ffaith ei fod wedi cwblhau ei fuddsoddiad strategol mawr cyntaf,  yn ogystal â’r gwaith i ddatblygu ei allu. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r cwmni yn y dyfodol"  

Dywedodd Nigel Duncan, Prif Weithredwr STG Aerospace:

"Mae'r cymorth gawson ni oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol o ran ein helpu i sefydlu'n Canolfan Arloesedd a Pheirianneg. Mae'n gam mawr ymlaen i STG Aerospace, ac mae'n golygu ein bod yn gallu gwireddu'n weledigaeth a rhoi anghenion pobl yn gyntaf wrth fynd ati i greu ffyrdd o oleuo cabanau awyrennau.  

"Mae'r ffaith fod y Ganolfan yng Nghymru, sy'n ganolfan gynyddol bwysig i'r diwydiant awyrofod, yn golygu bod gweithwyr medrus ar gael inni eu recriwtio. Gallwn ni hefyd gryfhau'n partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, sy'n bartner pwysig yn yr ymchwil rydyn ni'n ei wneud i effaith goleuadau."

Sefydlwyd STG Aerospace ym 1995 i greu technoleg ffoto-ymoleuol ar gyfer y diwydiant awyrennau, ac mae  wedi gweld twf sylweddol o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae wedi cael cryn lwyddiant wrth lansio nifer o gynhyrchion newydd, gan gynnwys ei oleuadau  liTeMood® ar gyfer cabanau awyrennau. Mae'r goleuadau hynny’n gwella'r awyrgylch mewn cabanau awyrennau lle nad oes goleuadau LED (Deuodau Allyrru Golau), gan sicrhau eu bod yn cyrraedd yr un safon ag awyrennau newydd sbon sydd â'r goleuadau LED diweddaraf.   

Cafodd ymwelwyr, gan gynnwys cwsmeriaid a chyflenwyr, yn ogystal ag academyddion a gwesteion eraill, gipolwg ar rai o'r cynhyrchion diweddaraf i'w datblygu gan y cwmni, gan gynnwys y Golau Darllen LED newydd. Mae gan y golau hwnnw, sydd wedi cael patent, ddyluniad ffotometrig unigryw ac mae ganddo broffil goleuo sgwâr yn lle ffynhonnell olau ar ffurf cylch. Cafodd yr ymwelwyr gyfle hefyd i weld y system ffoto-ymoleuol gyntaf i ddefnyddio golau glas i ddangos llwybr ar y llawr. Cyflwynwyd y system hon i'r farchnad dan frand saf-Tglo®, sy'n un o arweinwyr y farchnad ac sydd eisoes wedi ennill gwobr fyd-eang am arloesi ym maes cabanau awyrennau.