Stephen Marston Aelod
Gwasanaethodd Stephen Marston fel Is-Ganghellor Prifysgol Swydd Gaerloyw rhwng 2011 a 2023.
Cafodd ei ethol yn Drysorydd ac Aelod Anweithredol o fwrdd Universities UK yn 2022, a gwasanaethodd fel Cadeirydd y Bwrdd AdvanceHE.
Cyn ymuno â'r Brifysgol, bu'n gweithio yng Ngwasanaeth Sifil Whitehall, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Prifysgolion a Sgiliau. Mae'n Aelod Anweithredol o fyrddau’r Comisiwn Ansawdd Gofal a Phrifysgol Derby.