Stephen Gifford Comisiynydd
Mae Stephen Gifford yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.
Mae Stephen Gifford yn economydd sydd â 25 mlynedd o brofiad proffesiynol, gan gynnwys fel y Prif Economydd yn Grant Thornton, Cyfarwyddwr Economeg Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ac uwch-economydd yn KPMG, Oxford Economics, yr Awdurdod Hedfan Sifil ac Uned Strategaeth Prif Weinidog y DU.
Mae Stephen yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ac ef yw Pennaeth Economeg Sefydliad Faraday. Mae ganddo arbenigedd ym maes economeg trafnidiaeth, cynllunio trafnidiaeth, polisi economaidd, rheoleiddio economaidd, llywodraeth a seilwaith. Mae wedi gweithio ar lawer o brosiectau seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys Cyswllt Rheilffordd Twnnel y Sianel, Crossrail a rhedfa newydd Heathrow. Mae hefyd wedi amcangyfrif effaith achosion o oedi trafnidiaeth yn Llundain ar yr economi ar ran Awdurdod Llundain Fwyaf ac yn ddiweddar yn Sefydliad Faraday mae wedi datblygu model i ragweld y galw am gerbydau trydan a’u cyflenwad yn y DU hyd at 2040. Mae Stephen yn byw yn Rhydychen.