Neidio i'r prif gynnwy
Ffoto o Stephen Brooks

Mae Stephen Brooks yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae Steve Brooks yn ymgynghorydd polisi, materion cyhoeddus a strategaeth sy'n canolbwyntio ar helpu sefydliadau i gyflawni newid cymdeithasol ac amgylcheddol. Rhwng 2016 a 2021, ef oedd Cyfarwyddwr Gweithredol y DU dros Faterion Allanol a Chyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru ar gyfer yr elusen cerdded a beicio Sustrans. Mae Steve hefyd yn aelod o fwrdd cymdeithas dai Trivallis, Living Streets, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – sefydliad aelodaeth cenedlaethol y trydydd sector. Yn flaenorol, mae wedi dal swyddi uwch yn Oxfam, y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, a Sefydliad Bevan.