Newidiadau i statws buches TB mewn gwartheg o 17 Ionawr 2022.
Cynnwys
Statws heb TB swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW)
O 17 Ionawr 2022 ymlaen, bydd pob achos newydd o TB ledled Cymru, gyda dau eithriad yn unig, yn cael eu categoreiddio fel Statws heb TB swyddogol wedi’i Ddiddymu (OTFW).
Yr unig ddau eithriad, a fydd yn parhau i gael eu categoreiddio fel Statws heb TB swyddogol (OFTS) yw:
- buchesi OFT lle yr amheuir bod un neu fwy o achosion lladd-dy wedi cael eu datgelu ac maent dal i aros am ganlyniadau profion labordy
- buchesi wedi'u heintio â TB lle mae dim ond anifeiliaid na fagwyd ar y fferm sydd wedi cael profion positif ar gyfer gwrthgyrff gama interfferon a/neu IDEXX (h.y. dim adweithyddion croen) wedi cael eu datgelu ac nid oes clefyd wedi’i gadarnhau yn y canlyniadau archwiliad post mortem/profion labordy.
Bydd buchesi OTFS lle ddechreuodd yr achos o TB cyn 15 Tachwedd yn aros yn OTFS oni bai y caiff unrhyw adweithydd prawf croen pellach ei ddatgelu, neu y mae ffactorau risg epidemiolegol yn gymwys.
TB mewn gwartheg: Statws Heb TB Swyddogol wedi’i Ddiddymu: cwestiynau cyffredin
Adweithyddion Amhendant newidiadau i reolau 3 blynedd
Ar 17 Ionawr 2022, bydd pob buches OTF (statws heb TB swyddogol) yng Nghymru lle datgelir adweithyddion amhendant yn unig, yn parhau o dan gyfyngiadau nes:
- y bydd yr adweithyddion amhendant yn cael eu hailbrofi a’r canlyniadau’n negyddol
- a nes bod y cyfyngiadau ar symud buchesi ac unigolion yn cael eu codi, neu tan i un neu fwy o'r adweithyddion amhendant droi’n adweithyddion a/neu tan iddynt gael adwaith amhendant am yr eildro (os felly, byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn adweithyddion) a bydd statws OTF y fuches yn cael ei dynnu'n ôl ( OTFW).
Dyma’r rhesymau dros y newid hwn, a’r manteision a ddisgwylir:
- Mae astudiaethau yn Iwerddon a Lloegr wedi dangos bod mwy o risg i wartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i brawf ar ôl dehongliad safonol mewn buchesi ac ynddynt adweithyddion amhendant yn unig, droi’n adweithyddion wedyn nag anifeiliaid sydd wedi cael prawf clir.
- Mae'n atal gwartheg sydd wedi cael prawf clir rhag cael eu symud allan o'r fuches ar adeg pan fo mwy o risg i'r fuches golli ei statws OTF yn y dyfodol agos.
- Mae'n sicrhau na chaiff anifeiliaid risg uwch a fyddai'n adweithyddion amhendant ar ôl ail brawf oherwydd bod achosion o TB, symud o’r safle.
TB mewn gwartheg: Adweithyddion Amhendant Newidiadau i reolau 3 blynedd: cwestiynau cyffredin
Canllawiau pellach
Mae canllawiau pellach hefyd ar gael: