Sut i wneud cais i ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Cynnwys
Pwy sy'n cael gwneud cais
Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol:
- bod yn berchen ar goetir neu reoli coetir yng Nghymru
- dangos bod eich safle yn bodloni canlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru
- bod â chynllun rheoli coetir yn ei le
Sut i wneud cais
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â Swyddog Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru. Gallant siarad â chi am eich cymhwystra. Gallant hefyd eich cefnogi drwy'r broses ymgeisio.
Dylech hefyd ddarllen y canllawiau a deall yr hyn y bydd angen i chi ei wneud. Statws Coedwig Genedlaethol Cymru: canllawiau a ffurflen gais
Byddwn yn ystyried ceisiadau bob chwarter.