Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ennill statws athro cymwysedig (SAC) i addysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Statws Athro Cymwysedig yn eich galluogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae hefyd yn eich galluogi i addysgu mewn ysgol arbennig nas cynhelir. 

Er mwyn ennill SAC mae'n rhaid ichi: 

  • fodloni cyfres o safonau proffesiynol sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth 
  • cofrestru yng nghategori athrawon ysgol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.  

Cyngor y Gweithlu Addysg sy'n gyfrifol am ddyfarnu SAC. Gallant hefyd ddyfarnu SAC i athrawon o wledydd eraill y DU neu wledydd y tu allan i'r DU.  

Cymhwyso fel athro yng Nghymru

Er mwyn ennill Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru, rhaid ichi gwblhau cyfnod o Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA). Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, bydd eich Partneriaeth AGA yn rhoi eich canlyniadau i Gyngor y Gweithlu Addysg.   

Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn dyfarnu Statws Athro Cymwysedig ichi ac yn darparu eich tystysgrif SAC.  

Ar ôl ichi gael hwn, mae angen ichi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Yna bydd angen ichi gwblhau cyfnod sefydlu.

Pan fyddwch wedi cwblhau eich cyfnod sefydlu, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn darparu eich tystysgrif sefydlu.  

Athrawon a gymhwysodd yn Lloegr

Bydd eich SAC yn cael ei gydnabod yn awtomatig. Mae angen ichi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn addysgu mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru. 

Athrawon a gymhwysodd yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban

Os ydych wedi cwblhau eich AGA yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn i'ch SAC gael ei gydnabod a chofrestru.

Athrawon a gymhwysodd y tu allan i’r DU

Os ydych wedi cwblhau eich AGA y tu allan i'r DU, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn i'ch SAC gael ei gydnabod a chofrestru. 

Os ydych wedi cymhwyso y tu allan i'r DU ac wedi derbyn SAC yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban 

Ni fyddwch yn cael cydnabyddiaeth awtomatig i addysgu yng Nghymru. Rhaid ichi wneud cais yn uniongyrchol i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn i'ch SAC gael ei gydnabod a chofrestru.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am y broses o wneud cais am SAC ac i gael ffurflenni cais, ewch i wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae rhagor o wybodaeth am fod yn athro yng Nghymru hefyd ar gael. Mae gennym ardal benodol ar sianel YouTube Addysg Cymru ar gyfer Ymgyrch Addysgu Cymru.