Adroddiad ar ein cynnydd fel cenedl yn erbyn y 7 nod llesiant.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant drwy gyfeirio at 46 dangosydd cenedlaethol Cymru a rhywfaint o gyd-destun ychwanegol lle bo'n briodol.
Gosodwyd y 7 nod llesiant er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru arnynt yn 2015, ac maent wedi'u gosod yn y gyfraith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae'r adroddiad hwn yn asesu cynnydd yn erbyn y nodau cenedlaethol ar draws Cymru gyfan. Nid yw'n adroddiad am berfformiad unrhyw sefydliad, ond yn hytrach am y newidiadau rydym yn eu gweld gyda'n gilydd ar draws Cymru. Gellir defnyddio'r adroddiad hwn hefyd i ystyried cyfraniad Cymru tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, sy'n ceisio rhoi sylw i heriau argyfyngus byd-eang.
Lansiwyd yr adroddiad yn y lle cyntaf ym mis Medi 2017. Byddwn yn ei ddatblygu yn y dyfodol ac wrth i ni gasglu mwy o wybodaeth drwy’r Arolwg Cenedlaethol, bydd modd i ni roi rhagor o fanylion am dueddiadau a’n cynnydd tuag at y nodau. Nid yw’n yn ceisio rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o’r holl ddangosyddion, gan fod nifer ohonynt yn cael eu dadansoddi’n fanwl drwy ein cyhoeddiadau ystadegol rheolaidd gall eu canfod ar y gwefan hon.
Mae'r adroddiad yn dangos:
- Gwelwyd cynnydd cyffredinol mewn disgwyliad oes, ac mae’r cyfnod o amser a dreulir mewn iechyd da wedi bod yn codi. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau yn parhau ar draws gwahanol grwpiau.
- Mae llai yn smygu ac yn yfed, ond yn gyffredinol mae un person o bob deg yn dilyn llai na dau ymddygiad iach o ran eu ffordd o fyw. Gwelwyd cynnydd mewn gordewdra ymysg oedolion dros y tymor hir.
- Yn nhermau dechrau iach i fywyd, mae cynnydd da wedi bod mewn meysydd fel bwydo o’r fron a iechyd deintyddol, ond mae gordewdra yn parhau i fod yn her.
- Mae pobl yn fwy tebygol nag erioed o fod mewn gwaith yng Nghymru, er bod heriau economaidd hanesyddol yn parhau. Er bod cael swydd yn lleihau'r siawns o fod yn dlawd, mae tlodi mewn gwaith yn cynyddu wrth i fwy o bobl ddechrau gweithio. Ystyrir bod dwy ran o dair o'r gweithwyr mewn "gwaith boddhaol".
- Fel yng ngweddill y DU, ychydig o welliant a fu o ran incwm pobl, er bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau a chyrhaeddiad addysgol yn cynyddu.
- Mae tlodi incwm cymharol wedi parhau'n ystyfnig ac ar ei uchaf ymysg plant, er bod canran is o'r boblogaeth yn dweud eu bod mewn amddifadedd materol. Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn parhau i fod yn un o'r prif resymau dros anghydraddoldebau ar gyfer rhai canlyniadau fel cyrhaeddiad addysgol a disgwyliad oes.
- Mae anghydraddoldebau yn parhau mewn gwahanol ddangosyddion ac ar draws gwahanol grwpiau o'r boblogaeth. Er enghraifft, mae pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i'r ardal leol, a menywod yn teimlo'n llai diogel yn eu cymunedau na dynion.
- Mae synnwyr pobl o gymuned a pherthyn yn dibynnu ar amrywiol ffactorau. Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o bobl yn fodlon gyda'r ardal lle maent yn byw, er bod un o bob pump yn teimlo'n unig.
- Mae nifer o oedolion yn mynd i ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon neu’n cymryd rhan ynddynt, ac fe welwyd tuedd gyffredinol ar i fyny dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae cyfranogiad yn amrywio yn ôl oedran a chefndir.
- Un o bob pump sy'n siarad Cymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r data'n awgrymu bod cynnydd yn nifer y rhai sy'n siarad Cymraeg ond nid yn rhugl, ac mae'r defnydd o'r iaith wedi aros yn gyson.
- Mae ansawdd dŵr ac ansawdd aer Cymru'n parhau i wella, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi syrthio. Fodd bynnag, mae llygredd aer yn parhau i fod yn fater iechyd sylweddol.
- Gwelwyd cynnydd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Ond mae ein hôl troed ecolegol yn awgrymu bod ein prif adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gellir eu hailgyflenwi.
- Yn gyffredinol, mae amrywiaeth fiolegol yn dirywio, ac nid oes modd dweud bod gan unrhyw ecosystem yng Nghymru bob un o'r nodweddion sy’n angenrheidiol i fod yn gadarn.
Strwythur yr adroddiad

Mae'r tab 'data' yn cynnwys:
- adroddiad cynnydd yn erbyn pob un o'r 7 nod llesiant a welir yn ffigur 1 gan ddefnyddio data yn ymwneud â dangosyddion cenedlaethol perthnasol a gwybodaeth ychwanegol fel cyd-destun lle bo’n briodol
- disgrifiad a siart o'r tueddiadau diweddar yn erbyn pob un o 46 dangosydd cenedlaethol Cymru, gyda dolenni at ffynhonellau data.
Ceir rhagor o wybodaeth am y nodau llesiant a'r dangosyddion cenedlaethol drwy'r tab 'Cefndir'.
Mae'r adroddiad yn cynnwys rhywfaint o ddadansoddiad o'r dangosyddion cenedlaethol yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol, oedran neu grwpiau cydraddoldeb eraill. Fodd bynnag, mae'n bosibl dadansoddi'r dangosyddion yn fanylach byth. Felly mae adroddiadau'r 46 dangosydd cenedlaethol hefyd yn darparu dolenni at adroddiadau manylach am y dangosyddion hyn drwy Ddatganiadau Ystadegol neu Fwletinau a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru neu adrannau eraill.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu dyfais ryngweithiol i edrych ar bob un o'r 7 nod llesiant a'r dangosyddion sy'n adrodd hanes y cynnydd. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i edrych ar bob un o'r 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, a gweld pa rai o'n dangosyddion cenedlaethol sy'n dangos cynnydd yn erbyn y nodau hynny.
Plant
Mae nifer o'r dangosyddion ar gael i blant (er enghraifft ffyrdd iach o fyw; y Gymraeg; tlodi; llesiant meddyliol) ac mae adroddiadau am y rhain ar wahân lle bynnag y bo'n bosibl. Fodd bynnag, nid yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, ffynhonnell nifer o'r dangosyddion ar gyfer llesiant goddrychol oedolion (fel unigrwydd, gwirfoddoli neu deimlo'n ddiogel) yn cynnwys plant dan 16 oed. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu mesurau llesiant newydd ar gyfer plant a fydd yn ein helpu i ddeall materion llesiant goddrychol a nodir yma ar gyfer oedolion. Gweler “Cefndir” am fwy o wybodaeth.
StatsCymru
Mae'r data a ddefnyddiwyd i fesur y dangosyddion cenedlaethol ar gael yn bennaf ar wefan
StatsCymru, gyda rhagor o fanylion yn ôl ardal ddaearyddol neu grŵp poblogaeth lle bynnag y bo'n bosib.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 0300 025 6691
Ebost: desg.ystadegau@llyw.cymru
Cyfryngau
Ffôn: 0300 025 8099