Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Llun 17 Awst) cadarnhaodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y bydd graddau Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yng Nghymru bellach yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Gweinidog:

Drwy weithio ar y cyd â Chymwysterau Cymru a CBAC, rydyn ni wedi ceisio sicrhau dull gweithredu sy'n deg ac sy’n cydbwyso gwahaniaethau yn y safonau a ddefnyddir mewn perthynas â barn athrawon mewn ysgolion.

O ystyried y penderfyniadau mewn mannau eraill, bellach mae’r cydbwysedd o ran tegwch yn seiliedig ar ddyfarnu graddau asesu canolfannau i fyfyrwyr, er gwaethaf cryfderau'r system yng Nghymru.

Rwy'n gwneud y penderfyniad hwn nawr cyn i’r canlyniadau gael eu rhyddhau’r wythnos yma, fel bod amser i'r gwaith angenrheidiol gael ei wneud.

O ran y graddau a gafodd eu cyhoeddi’r wythnos diwethaf, rwy wedi penderfynu y bydd yr holl ddyfarniadau yng Nghymru, ar gyfer blwyddyn eithriadol 2020, hefyd yn cael eu gwneud ar sail asesiad athrawon.

I'r bobl ifanc hynny y mae ein system wedi cynhyrchu graddau uwch na'r rhai a ragwelwyd iddynt gan athrawon, bydd y graddau uwch yn sefyll.

Nid yw cynnal safonau’n rhywbeth newydd ar gyfer 2020, mae'n rhan o’r ffordd yr ydyn ni’n dyfarnu cymwysterau bob blwyddyn yng Nghymru, a ledled y DU.

Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen inni wneud y penderfyniad anodd hwn er mwyn inni gael ffydd yn ein cymwysterau a bod yn deg i fyfyrwyr.

Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol, a maes o law byddaf yn gwneud datganiad pellach ar adolygiad annibynnol o'r digwyddiadau yn dilyn canslo'r arholiadau eleni."

Mae Sefydliadau Dyfarnu eraill ledled y DU yn ymwneud â phenderfynu ar y dull gweithredu ar gyfer dyfarnu cymwysterau galwedigaethol. A dyna’r sefyllfa o hyd, ond mae’n bwysig fy mod i’n rhoi sicrwydd i fyfyrwyr TGAU, Safon Uwch, Safon UG cyn gynted ag y bo modd.