Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am staff ysgolion a'u cyflogaeth yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa gyngor sydd ar gael i staff dysgu dros dro sydd wedi’u cyflogi gan awdurdod lleol neu ysgol, a’r rhai sydd wedi’u cyflogi drwy asiantaethau cyflenwi?

Gall staff cyflenwi naill ai fod wedi’u cyflogi gan awdurdodau lleol, asiantaethau cyflenwi, neu yn uniongyrchol gan ysgolion, ac awgrymir y dylai staff edrych ar delerau eu contract gyda’u cyflogwr. Mae hyn yn cynnwys gofyn am eglurder ynghylch a oes hawl ganddynt i gael taliadau salwch statudol. Bydd y math o gymorth sydd ar gael yn dibynnu ar statws cyflogaeth ac amgylchiadau’r unigolyn. Os nad yw’r staff cyflenwi yn siŵr beth yw eu statws cyflogaeth ceir rhagor o wybodaeth.

Os bydd staff cyflenwi wedi’u cyflogi gan awdurdod lleol neu ysgol ar gontract tymor byr, hyblyg, dydd i ddydd, dros dro neu ddim oriau, dylai’r awdurdodau lleol / ysgolion geisio symud y staff hynny i gefnogi’r ymateb COVID-19 mewn ffordd arall neu ystyried a oes angen mwy o staff ar ysgolion i ddygymod â’r trefniadau presennol. Er mai awdurdodau lleol ac ysgolion sydd yn y lle gorau i wneud penderfyniadau ynghylch cyflogi a defnyddio staff eu hysgolion yn eu hardaloedd lleol, disgwylir i bob categori o weithwyr, gan gynnwys gweithwyr dros dro a gweithwyr dim oriau, gael eu trin yn yr un ffordd â gweithwyr cyflogedig eraill o ran cyflog, hyd yn oed os nad oes modd iddynt weithio i’r cyflogwr, ee pan fo ysgolion ar gau. Ym mis Ebril 2020, cyhoeddodd CLlLC gyngor i awdurdodau lleol, gan egluro  sut y gellid cyfrifo cyflog cyfartalog ar gyfer staff cyflenwi sy’n gweithio’n uniongyrchol i awdurdodau lleol neu ysgolion o ddydd i ddydd neu ar sail ad hoc, ac a oedd yn methu gweithio gan fod ysgolion ar gau.

Lle’r oedd ysgolion neu awdurdodau lleol wedi disgwyl defnyddio eu cyllid cyhoeddus i gyflogi gweithwyr o’r fath, ac wedi cyllidebu ar eu cyfer, ond nad oes angen y gwaith bellach yn sgil Covid-19, rydym yn annog awdurdodau lleol ac ysgolion unwaith eto i weithredu’r dull enillion cyfartalog, fel nodwyd ym mis Ebrill 2020. 

O dan y dull enillion cyfartalog dylai awdurdodau lleol/ysgolion edrych yn ôl ar y 12 wythnos flaenorol (neu faint bynnag o wythnosau ag y bu'r gweithiwr ar aseiniad) i bennu nifer y diwrnodau neu oriau cyfartalog a weithiwyd.  Dylid defnyddio'r cyfartaledd hwn wrth gyfrifo 80% o'r cyflog gros (wedi'i gapio ar £2,500 y mis). Gan nad yw’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar gael i weithwyr sector cyhoeddus, bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau bod gweithwyr sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol neu ysgolion yn cael mynediad at yr un lefel o gymorth â gweithwyr asiantaeth dros dro (dan y Cynllun Cadw Swyddi) tra bod ysgolion ar gau yn rhannol neu yn llwyr. 

Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud gan gyflogwyr unigol, ac fe ddylai staff cyflenwi sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gysylltu â’u cyflogwyr (naill ai’r awdurdod lleol neu ysgol) i drafod pa drefniadau sydd yn eu lle. 

Mae gan y rhai sydd wedi’u cyflogi gan awdurdod lleol neu ysgol ar gontract hirdymor yr hawl i’r un telerau ac amodau â staff parhaol, a dylid eu talu yn unol â hynny.

Lle nad ysgolion neu awdurdodau lleol yw'r cyflogwr uniongyrchol ond bod ganddynt gontractau ar waith gyda staff asiantaeth nad oes eu hangen mwyach oherwydd COVID-19, ni ddylid canslo'r contractau hyn. Rydym yn annog ysgolion neu awdurdodau lleol i barhau i wneud taliadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol ar gyfer y staff cyflenwi ar 80% o'r gyfradd contractau y cytunwyd arni. Os yw'n ofynnol i weithiwr yr asiantaeth weithio, a'i fod yn gallu gweithio, dylid talu ar y gyfradd gyflog lawn, yn unol â'r cytundeb gyda'r asiantaeth. Dylai asiantaethau sy'n derbyn arian yn unol â'r canllawiau hyn dalu eu staff yn unol â hynny, ac nid eu rhoi ar ffyrlo.

Bydd gan staff sy’n gyflogedig drwy asiantaeth gontract gyda’r asiantaeth honno, a dylid trafod eu telerau gyda hwy.

Caiff ysgolion sy’n cael athrawon cyflenwi drwy asiantaeth eu hannog i ddefnyddio dim ond yr asiantaethau sy’n bodloni gofynion Fframwaith Athrawon Cyflenwi Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru. Disgwylir i asiantaethau sydd ar y fframwaith gofrestru gyda chorff recriwtio proffesiynol cynrychioladol ac ymrwymo i God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a’n egwyddorion Gwaith Teg.

Er bod y polisi addysg wedi’i ddatganoli i Gymru, nid yw hynny’n wir am gyfraith cyflogaeth, felly Llywodraeth y DU sy’n penderfynu ar y cyngor ar y mater hwn. Mae hyn yn cynnwys cyngor i asiantaethau cyflenwi, sydd o bosib ag ymholiadau ynghylch cymorth i’w busnesau.

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil y Coronafeirws wedi cael ei ymestyn hyd at fis Ebrill 2021 ac mae’n caniatáu i gyflogwyr (gan gynnwys asiantaethau a chyrff ymbarél) roi  gweithwyr Talu Wrth Ennill ar ffyrlo am 80% o’u cyflogau. Mae’r cynllun yn agored i bob cyflogwr yn y DU oedd â gweithwyr Talu Wrth Ennill ar eu cyflogres rhwng 20 Mawrth a 30 Hydref 2020, ar yr amod bod y cyflogwr wedi cyflwyno ffurflen PAYE RTI i CThEM rhwng y dyddiadau hynny. Gall cyflogwyr roi gweithwyr ar ffyrlo am unrhyw gyfnod o amser ac unrhyw batrwm gwaith, a pharhau i hawlio am yr oriau na weithiwyd. Dan y trefniadau diwygiedig ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi, rhaid i bob cyflogwr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gweithiwr a chostau pensiwn bob aelod o staff sydd ar ffyrlo.

Mae rhagor o wybodaeth am y CJRS ar gael.

Bydd pob penderfyniad ynghylch ffyrlo yn cael ei wneud gan gyflogwyr unigol. Dylai staff cyflenwi asiantaethau drafod y cynllun hwn a’u telerau ac amodau gyda’u hasiantaeth.

Pa gymorth ariannol sydd ar gael i mi os wyf yn weithiwr dros dro, ac nad wyf yn gyflogedig ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd, os yw COVID-19 yn effeithio yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar rywun, ac nad oes modd iddynt weithio, os ydynt wedi talu digon o Yswiriant Gwladol dros y 2 flynedd ddiwethaf gallant hawlio lwfans cyflogaeth a chynhaliaeth newydd sydd heb brawf modd.

Os yw rhywun yn ansicr ynghylch a yw wedi talu digono gyfraniadau drwy gyflogaeth i hawlio’r lwfans, y cyngor yw hawlio’r lwfans a Chredyd Cynhwysol ar yr un pryd. O ganlyniad, os na fydd yn gymwys i gael y lwfans cyflogaeth a chynhaliaeth newydd, ni fydd oedi yn yr hawliad Credyd Cynhwysol ac ni fydd yn colli unrhyw ddiwrnodau yr oedd ganddo hawl iddynt. Os nad yw wedi talu digon o yswiriant gwladol i hawlio’r lwfans, bydd angen hawlio Credyd Cynhwysol.

Caiff Credyd Cynhwysol ei hawlio ar-lein. Mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn edrych ar Gredyd Cynhwysol, felly gallai’r cyngor hwn newid.

Os bydd gofyn i staff cyflenwi hunanynysu, efallai y bydd cymorth ar gael drwy’r cynllun cymorth wrth hunanynysu.

A fydd athrawon a staff cynorthwyol yn cael eu profi, gan eu bod yn staff rheng flaen?

Mae gwybodaeth ynghylch profi gweithwyr hanfodol ar gael drwy’r dolenni canlynol, a fydd yn cael eu diweddaru yn rheolaidd:

https://llyw.cymru/proses-profi-coronafeirws-covid-19

https://llyw.cymru/polisi-profi-gweithwyr-critigol-coronafeirws-covid-19-html

https://llyw.cymru/profi-coronafeirws-covid-19-eich-cwestiynau

Ar gyfer pob aelod o staff, cadw pellter cymdeithasol, golchi ddwylo a dilyn camau synhwyrol yw’r peth gorau i’w wneud.

Beth ydych chi’n ei wneud i leihau’r baich ar benaethiaid ac ysgolion yn y sefyllfa eithriadol hon?

Am y tro, bydd gan ysgolion bwrpas newydd. Felly, byddwn yn llacio neu’n dileu unrhyw ofynion ar ysgolion a fyddai mewn grym dan amgylchiadau arferol. Byddwn yn cadw golwg fanwl ar hyn yn barhaus.

Mae Estyn wedi atal ei drefniadau arolygu ers dydd Llun 16 Mawrth. Rydym hefyd yn bwriadu llacio’r gofynion i gynnal profion ac asesiadau cenedlaethol ac i adrodd yn ôl ar y canlyniadau, yn ogystal â’r gofynion i gymedroli.

Rydym wedi canslo unrhyw ofynion casglu data statudol a fyddai wedi digwydd cyn gwyliau’r haf, os nad ydynt wedi dechrau. Bydd y trefniadau arferol ar gyfer adrodd ar fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 yn cael eu hatal eleni ac rydym hefyd yn ystyried y gofynion statudol a’r trefniadau cysylltiedig sy’n ddibynnol ar ddata.

A fydd Llywodraeth Cymru yn dal i ddisgwyl ffurflenni data statudol gan ysgolion?

Ni fyddwn yn disgwyl ffurflenni data statudol y byddai eu disgwyl fel arfer cyn gwyliau’r haf, os nad ydynt wedi dechrau. Mae hyn yn cynnwys:

  • Presenoldeb: casglu data cynradd 2020
  • Presenoldeb: casglu data uwchradd 2020
  • Casglu data Casglu Data Cenedlaethol 2020
  • Casglu data Profion Cenedlaethol Cymru 2020

Cynnal proses rheoli perfformiad yn ystod pandemig COVID-19

Dylai ysgolion barhau i weithredu eu trefniadau rheoli perfformiad yn ystod y cyfnod hwn. Yn enwedig gan y bydd hynny’n galluogi athrawon i drafod y datblygiad a’r cymorth sydd eu hangen yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Gallai hynny helpu’r ysgol i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i ysgolion wneud fel y gwelont yn ddoeth a chymryd camau ymarferol, gan ystyried addasu eu Polisi Rheoli Perfformaid Ysgolion yn unol â’r Rheoliadau, er mwyn cymryd yr amgylchiadau presennol i ystyriaeth. Er enghraifft, gallai ysgolion ystyried a ddylid gohirio rhai amcanion dros dro.

Rhaid i ysgolion sicrhau nad yw athrawon yn cael eu cosbi yn ystod y broses werthuso.