Neidio i'r prif gynnwy

Adborth arolwg staff y GIG 2016 yn dangos ymroddiad gweithwyr gwasanaeth iechyd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl y canlyniadau: 

  • mae 90% yn fodlon mynd gam ymhellach yn y gwaith
  • mae 88% o staff yn teimlo bod eu rôl yn gwneud gwahaniaeth i'r cleifion
  • mae 78% yn fodlon gyda'r gofal maen nhw'n ei roi
  • mae 71% yn fodlon yn eu swydd – cynnydd o'i gymharu â’r 65% wnaeth roi’r un ateb yn 2013
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Rwy'n hynod o falch o'n staff ymroddgar. Mae'r atebion hyn yn dangos eu hymrwymiad i'w swyddi a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i gleifion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.  
"Mae staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed tu hwnt ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos eu bod hefyd yn cael boddhad o'u gwaith. Mae gwasanaeth iechyd Cymru'n lle gwych i weithio ynddo, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl sy'n ystyried gyrfa ym maes gofal iechyd yn dewis ymuno â ni."

Yn gyffredinol, mae canlyniadau arolwg 2016 yn galonogol ac yn adlewyrchu gwelliant sylweddol i’r mwyafrif o feysydd ers yr arolwg staff cenedlaethol diwethaf yn 2013.

Gwelwyd gwelliant hefyd o ran y defnydd o’r Gymraeg. Erbyn hyn mae 48% o'r staff yn dweud eu bod yn gallu cynnig gwasanaeth yn Gymraeg, sy’n gynnydd o 7% ers 2013. 

Dywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru:
"Hoffwn ddiolch i'n staff am eu hadborth gwerthfawr. Lluniwyd yr arolwg fel eu bod yn gallu dweud eu dweud yn blaen fel ein bod ninnau’n gallu gweithio tuag at wella’r gwasanaeth, gan fod lle i wella o hyd. Rwy'n ymroddedig i weithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr a chynrychiolwyr staff o bob cwr a chornel o'r gwasanaeth iechyd er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau effeithiol i fynd i'r afael â'r meysydd sydd angen eu gwella.
“Ry'n ni eisiau i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod yn lle gwych i weithio ynddo ac fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau hynny."