Neidio i'r prif gynnwy

Mae nyrsys a  staff y GIG, sydd ar delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid, yng Nghymru wedi cytuno cytundeb cyflog newydd dros dair blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae undebau llafur wedi cytuno yn unfrydol i’r ddêl, oedd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cytundeb yn cynnwys amrywiol gynigion yn ymwneud â chyflog a materion eraill a fydd er lles staff a chleifion. Mae’n cyfateb i’r cytundeb cyflog ar gyfer Lloegr ac yn mynd y tu hwnt iddo mewn rhai meysydd. 

Bydd bandiau cyflog yn cael eu hailstrwythuro yn sgil y cytundeb, a bydd hyn yn golygu cyflogau cychwynnol uwch, dileu pwyntiau cyflog sy'n gorgyffwrdd, a graddfeydd cyflog byrrach.

Mae'r cytundeb yn gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg am y tair blynedd nesaf i staff sydd ar frig eu bandiau cyflog - 6.5% cronnus dros dair blynedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Mae staff y GIG yn gwneud gwaith ardderchog yn darparu gofal o'r ansawdd gorau, a hynny yn wyneb pwysau a sylw aruthrol. Maen nhw’n gweithio'n eithriadol o galed, gan roi’r cleifion yn gyntaf a'u cadw'n ddiogel wrth ddarparu'r gofal o safon uchel rydyn ni i gyd yn ei ddisgwyl. 

“Rwy’n falch ein bod ni heddiw’n gallu cydnabod eu hymroddiad drwy gyhoeddi cytundeb newydd sy’n rhoi telerau iddynt sy’n gydradd â’u cydweithwyr yn Lloegr ac sy’n mynd ymhellach na hynny mewn rhai meysydd a fydd yn dod â budd i GIG Cymru. 

“Wedi wyth mlynedd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol sydd y tu hwnt i’r cyllid canlyniadol a dderbyniwyd yn dilyn y codiad cyflog yn Lloegr. Rydym yn gwneud hynny er mwyn cynnig cytundeb sydd nid yn unig yn deg i’r staff ac i’r trethdalwyr, ond a fydd hefyd yn arwain at Wasanaeth Iechyd gwell i Gymru.”

Mae’r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad parhaus i edrych ar argymhellion blynyddol y Living Wage Foundation, fel bod cyfraddau cyflogau’r GIG yn parhau’n deg yn y dyfodol. 

Mae hefyd yn darparu taliadau gwell yn ystod absenoldeb salwch nag sydd ar gael yn Lloegr, a hynny’n rhan o’r ymrwymiad i wella iechyd, llesiant a phresenoldeb staff y GIG yng Nghymru.  Ar ben hynny, bydd undebau llafur a chyflogwyr yn cydweithio i helpu unigolion os byddant yn wynebu diagnosis o salwch angheuol, gan fabwysiadu ymgyrch “Dying to Work” y TUC.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud y bydd gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod staff yn gweld y buddion yn eu pecynnau cyflog cyn y Nadolig.     

Mae amryw o adnoddau ategol ar y cytundeb ar gael i staff ar wefan Cyflogwyr GIG Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig)