Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y staff yn y sector addysg uwch ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Prif bwyntiau

  • Parhaodd nifer y staff ym mhrifysgolion Cymru ar lefel debyg yn 2018/19, sef 20,875.
  • Prifysgol Caerdydd oedd yn cyflogi’r nifer mwyaf o staff (6,805), y cyflogwr mwyaf nesaf oedd Prifysgol Abertawe (3,820).
  • Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol leiaf o ran nifer y staff. Fe gyflogodd 480 yn 2018/19.
  • Roedd gan ychydig o dan hanner yr holl aelodau staff (49.2%) gontractau academaidd.
  • Roedd ychydig yn llai na dau o bob tri aelod o staff ar gontractau academaidd yn llawn amser, y ffigwr ar gyfer staff ar gontractau nad ydynt yn rhai academaidd yw ychydig dros ddau o bob tri.
  • O’r rheini nad oedd â chontractau academaidd, roedd gan 4,065 alwedigaethau proffesiynol neu dechnegol. Roedd gan 3,815 alwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol ac roedd gan 920 ‘alwedigaethau elfennol’.
  • Menywod oedd yn llenwi 55.0% o’r holl swyddi. Fodd bynnag, 47.2% ohonynt oedd yn cyflawni rolau academaidd. Roedd ychydig dros ddau o bob tri o’r aelodau staff rhan-amser yn fenywod.
  • Dywedodd 11.4% o staff ar gontract academaidd eu bod yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 51.1% o’r rheiny a ddwedodd hynny oedd yn gwneud mewn gwirionedd.

Gwybodaeth bellach

Mae’n seiliedig ar ystadegau a gynhyrchwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae pob cymhariaeth ariannol â blynyddoedd blaenorol yn defnyddio ffigurau sy’n cael eu hail-nodi yn y datganiadau ariannol mwyaf diweddar sydd ar gael.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.