Neidio i'r prif gynnwy

Data am staff meddygol, deintyddol, nyrsio a bydwreigiaeth, ar 31 Rhagfyr 2020.

Mae data yn y diweddariad hwn yn cynnwys cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau staff ar 31 Rhagfyr 2020 yn cynnwys staff ar gontractau tymor byr neu benodol wedi dod i mewn i helpu yn ystod y pandemig COVID-19.

Rhwng 31 Rhagfyr 2019 a 31 Rhagfyr 2020 (o ran niferoedd cyfwerth ag amser llawn)

Image
Siart yn dangos nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru, yn ôl grŵp staff, ar 31 Rhagfyr 2019 a 2020. Mae pob grŵp wedi cynyddu ers 31 Rhagfyr 2019.
  • Bu cynnydd o 4,599 (5.6%) yng nghyfanswm nifer staff i 86,141.
  • Bu cynnydd o 504 (7.5%) yn y staff meddygol a deintyddol i 7,245.
  • Bu cynnydd o 1,737 (5.2%) yn nifer y staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd i 35,087.
  • Bu cynnydd o 2,359 (5.7%) yn nifer y grwpiau staff eraill i 43,809.
  • Cynyddodd cyfrif pennau staff fesul 4,810 (5.1%) i 100,000.

Nodiadau

Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Does dim datganiad ystadegol.

Mae rhai patrymau tymhorol yn y data hwn. Mae nifer y staff meddygol a deintyddol a nyrsio yn tueddu i leihau yn y cyfnod hyd at fis Awst ac yna'n cynyddu o fis Medi wrth i raddedigion ddechrau. O'r herwydd, gwneir cymariaethau â'r un chwarter o'r flwyddyn flaenorol.

Mae nifer o faterion yn ymwneud ag ansawdd data wedi eu hadnabod yn y data dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir manylion llawn yn yr adroddiad ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.